Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BUCHEDDIAETH. 291 awiad, ond byddai yn uodi at ei boreubryd bob bore. Bu ei pherthynasau yn ci gweled yn yr amser hyn, ond yr oedd yn dywedydnad oeddyn teimlo dimcystudd; ond, ebai hi, " Yr wyf wedi cael llawer o amser, ac iechyd da; nid oes i mi ddys- gwyl bod yma yn hir." Ddechre yr wyth- nos ddiweddaf o'i bywyd, bu ychydig o ymddyddan rhyngddi hi a minau mewn perthynas i'r sabboth dyfodol. Gofynodd pwy oedd i fod yn y capel y sabboth nesaf? Dywedais mai Mr. Williams o Landilo. "Y mae y sacrament i fod," ebai hi. "Ydyw," ebai finau. " Wel, deuaf finau i'r capel y sabboth nesaf, os byddafyn alluog." Ond cyn y sabboth, cafodd fyned i wledda i well gwlad, ac at well cwmpeini. Dydd Mercher, Mai 21, 1845, oedd y diwrnod y daeth y tro sobr, pan yr ymadawodd ein hanwyl fam â'r byd hwn ! Yr oedd wedi codi y bore hwn am saith o'r gloch, fel arferol, a bu yn troi yn ei chylch fel y dyddiau ereill: yfodd ei thê am hanner awrwedi pedwar, ac yna daeth fy mrawd John o ffair Tre- castell; ac wedi ymddyddan ychydig â John, a dodi tê iddo, ymddanghosodd rhyw gyfnewidiad yn ei gwedd. Gofyn- ais a ddeuai i'w gwely ; " Deuaf," ebai hi; ac wrth fyned i fyny i'r llofft, dywed- odd, " Yr wyf fi yn myned i fyny am y tro diweddaf." " Nac ydych, gobeithio, mam fach," ebai finau. Atebodd hithau, " Chwi gewch weled mai felly y bydd hi." Wedi myned i'r gwely, dymunodd arnaf anfon i'r Brychgoed, Pantglas, ac Aber- sefin, at ei pherthynasau, yr hyn a wnaed gyda'r brys mwyaf. Er ei bod yn gwy- bod eibod yn myned, er hyn yr oedd yn bur dawel, ac yr oedd geiriau y proffwyd yn cael eu gwirio, " Ni frysia yr hwn a gredo." Yna y gorchymynodd arnaf gy- meryd yr arian oedd yn ei phoced, a'u rhanu rhwng y plant bach, sef ei hẁyrion, y rhai oedd i gyd yn anwyl iawn ganddi. Yna dywedodd, "Yr wyf fi yn myned i'ch gadael chwi; byddwch byw yn hedd- ychlon â'ch gilydd." (Gobeithio y bydd y cynghor hwn yn cael ei argraffu ar ei phlant a'i hŵyrion, ac y bydd y gor- chymyn hwn yn cael ei gario yn mlaen o genhedlaeth i genhedlaeth, fel y byddo heddwch yn mhlith y perthynasau yn wastad, fel y mae wedi bod hyd yma, i Dduw y bo'r diolch.) Yna y dywedodd, "0 lesu anwyl, mi a'i profais ef yn dda lawergwaith; gobeithio y bydd ef gyda fi." " Bydd, fy mam fach," ebai finau : "ymddiriedwch ynddo; efe yw y Cyfaill goraf." "Ie," ebai hithau, "gwell na brawd." Yna adroddodd gyda hyder, Cyfaill yw yn afon angau Ddcil fy mhen i uwch y dòn; Golwg arno wna im' ganu Yn yr afon ddofon hon. Wedi hyn daeth ei merch-yn-nghyfraith o'r Brychgoed i'r ystafell, a gofynodd a gymerai hi ychydig win. " Na," ebai hithau, "nid oes arnafeisiau dim." Y'na dy wedodd drachefn, " O Iesu anwyl!" ac adroddodd y pennilluchod eilwaith, "Cyf- aill yw yn afon angau," &c. Bu farw mor dawel fel nad oedd yn hawdd gwybed pa bryd yr anadlodd yr anadl olaf. Ym- adawodd yn ddedwydd cyn pen awr ar ol myned i'w gwely, yn 8G mlwydd oed. Yr Arglwydd a'n gwnelo ninau yn barod er- byn yr un amgylchiad. Claddwyd hi ddydd Llun, Mai 26, yn yr un beddrod a'i phriod a'i dwy ferch. Wedi i'r Parch. Mr. Morgans ddarllen y wasanaeth, ymadawsom dan deimladau dwysion — plant yn gadael eu hanwyl fam; ŵyrion yn gadael eu tirion fam-gu ; cyfeillion Cristionogol a chymydogion yn gadael un ag ydoedd mor hoff gan bawb a'i hadwaenent hi. Ond hyn sydd yn lloni ein meddwl, fod genym obaith cael cwrdd yr ochr draw yn anllygredig, lle na ddaw marw nac un gofid i'n cyfarfod, ond cawn fod byth yn ddedwydd gyda'r Oen. Hyn fyddo ein rhan ni oll. Amen. Y Sul canlynol pregethodd y Parch. L. Hughes ei phregeth anghladdol oddiar 1 Thes. iv. 16; aphregethodd y Parch. J. Morgans, yn yr Eglwys, ar yr un achlysur, oddiar Salm xxxix. 5. Ein chwaer, y fór-gilfach a ga'dd; O'r tòuau a'r 'stormydd hi aeth; Mae'n awr gyda'r Oen ga's ei ladd, -Ei theulu o'i hol gado wnaeth ! Ni, eto, sy'n hwylio ar fôr Yn gyflym, i geisio'r un wlad; Yn ebrwydd, trwy gymhorth Duw Ior, Cawn ninau'n wir gyraedd tý'n Tad.