Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

290 BUCHEDDIAETH. Mewn perthynas i'w bywyd crefyddol, cafodd ei bedyddio pan yn faban gan y Parch. Mr. Lloyd, yr offerriad, a chafodd ei dwyn i fyny dan aden yr Eglwys Sef- ydledig; canys yr oedd ei rhieni yn eg- lwyswyr ffyddlon a selog. Bu fy mam yn aelod yn yr Eglwys am lawer o flyn- yddau cyn dyfodiad y Wesleyaid i Defyn- og. Pan ddaeth y Parch. D. Rogers i Defynog, cyfarfu fy nhad àg ef yn y Bull, a gofynodd iddo am ddyfod i bregethu i'n tŷ ni; ac efe a ddaeth y nos Fercher gan- lynol. Dyma y bregeth gyntaf a bregeth- wyd yn ein teulu. Yr oedd hyn tua'r fiwyddyn 1803. Bu Rogers o fendith fawr yn Defynog, ac yn offeryn i droi llawer at grefydd, ac yn mhlith ereill fy nwy chwaer Margaret a Gwen; ac yn fuan ar ol hyn ymunodd fy mam â'r society. îsid wyf yn amau fod fy mam yn feddiannol ar wir grefydd cyn hyn; ond nid oedd un society yn yr Eglwys yr amser hwnw ; ac yr oedd cymaint o undeb rhwng yr Eglwys a'r Wesleyaid a phe buasent yn un—y naill gynulleidfa yn inyned i addoli at y lîall. O na byddai fel hyn eto! Yr oedd fy mam yn selog iawn dros yr Eglwys, ac yn hoifì gweìed yr offeiriaid yu dyfod i Lwyn-crychydd fel y pregethwyr; a byddent yn dyfod yn aml, a hithau yn myned i'r Eglwys yn fynych i addoli. Nid allaf fod yn sicr pa nifer oflynyddau y bu fy mam ynproffesu crefydd ; ond bu gyda'r Wesleyaid 36 ; a bu ei holl fywyd crefyddol yn ddiargy- hoedd, heb roddi dim gofìd i offeiriad, na phregethwr, na blaenor, na neb arall. Yr oedd yn wastad yn dangnefeddus, heb ddim ymryson à neb—yn y teulu, yn y gymydogaeth, nac yn yr eglwys. " Gwỳn eu byd y tangnefeddwyr, canys hwy a elwir yn blant i Dduw." Yr oedd yn meddiannu " ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn (medd yr apostol) sydd gerbron Duw yn weithfawr." Yr oedd wedi cael ei bendithio â'r " doethineb sydd oddi- uchod," yr hon sydd "heddychol, bon- eddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugar- edd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith." Nid oedd hi wedimeddiannu ac yn mwyn- hau y bendithion gwerthfawr hyn heb ymarfer llawer â moddion gras. Yr oedd yn darllen Uawer : y llyfrau ag y byddai yn fwyaf hoff o'u darllen oeddynt yr Eui- grawn, y Llyfr Hymnau, Llyfr Gweddi Gyffredin, a Llyfr y Ficer; ond y Beibl yn fwyaf neillduol. Yr oedd yn neillduo rhan o bob diwrnod i ddarllen ei Beibl, a hyny yn y prydnawn ; a pheth sydd yn hynod iawn, ni bu arni eisiau spectacles erioed, ond yr oedd yn darllen eiBeibli'r diwedd heb gynorthwy gwydrau. Yr yd- oedd hi yn ymdrechgar iawn i fyned i'r moddion hyd y diwedd, ac yr oedd yno bob amser yn brydlon. Er fod yr addoliad bore sabboth am hanner awr wedi naw, a chanddi hithau ddwy fìlldir o ffordd, er hyny yr oedd hi yno bob amser yn bryd- lon, yr hyn oedd yn peri i lawer synu, ac i rai gywilyddio ag oeddynt yn ymyl y capel, ac er hyny yn methu d'od mewn amser. Yr oeddhi yn gwrando yn astud, fel un yn gwrando am fywyd ; ac wedi d'od adref, yr oedd yn darllen y testyn, a phennod y testyn, ac yn myfyrio ar yrhyn a glywsai. Fel hyn y parhaodd hyd y diwedd yn gweithio allan ei hiachawdwr- iaeth trwy ofn a dychryn. Er nad oedd neb o honom ni yn meddwl fod amser ei hymadawiad mor agos, ebo yr oedd hi yn cadw marw yn agos at ei meddwl; a phan y byddaj yn ymadael â chyfaill, byddai yn dywedyd, " Ni chaf fi eich gweled chwi eto yr ochr yma." Pan oedd ei hẁyr, D. Jones o'r Pantglas, yn dychwelyd i Lundain, wedibod yn claddu ei frawd Howell, yr hwn a fu farw tua blwyddyn o flaen ei fam-gu, (gwelir ei hanes yn yr Eurgrawn am Mehefin, 1846,) hyn oedd ei geiriau diweddaf pan yr oedd David yn ymadael, "Ffarwel, ffarwel! gwasanaethwch yr Arglwydd, ac ymofyn- wch am ras i fyw yn ei ofn. Duw a'ch bendithio, ac a fo gyda chwi: ni chaf ti eich gweled eto yr ochr yma." Bu fyw wedi hyn yn agos i flwyddyn, yn dra dedwydd: byddai yn aml yn son am ei chyfeillion ag oeddynt wedi myned o'i blaen, ac yn fynych yn canu— Y mae, &c, Yr amser hyfryd yn nesâu, Pan gaft'o í'enaid ei ryddhau O'r tŷ o glai—' fyn'd tua'm gwlad; Nid yma mae ngornhwysfa i, Mae hòuo fry yn nhý fy Nhad. Ond rhag bod yn rhy faith, deuaf at ei dyddiau diweddaf. Nid oedd yn gwbl mor wrol tua naw diwrnod cyn ei hymad-