Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EURGRAWN WESLEYAIDD, AM HYDREF, 1846. Rhif. 10. Cyfres Newydd. Cyf. 38. BUCHEDDIAETH. COFIANT AM ANN JONES, O LWTN-CRYCHYDD. WEDI EI YSGRIFENU GAN EI MAB, HOWELL JONES. Parhad tudalen 259. Yn 1818 daetli gweinidogaeth sobr i'n cyfarfod felteulu, pan y bu farw Margaret ein chwaer hynaf. (Gwel ei hanes yn yr Eurgrawn am Ragfyr, 1818.) Yr oeddym oll dan deimladau dwysion wrth golli un ag ydoedd mor werthfawr a defnyddiol yn y teulu ac yn yr eglwys. Tawodd fy mam, fel Aaron, ynngwyneb yr amgylch- iad hwn, gan ystyried mai llaw yr Ar- glwydd oedd yn hyn. Yu 1826 collodd fy mam gydmhar ei bywyd. Yn awr yr oedd y teulu ag oedd wedi bod yn deulu mawr, ychydig yn ol, wedi myned yn deulu bach; oblegid yr oedd fy mrawdThomas a'm chwaer Gwen wedi priodi, ac nid oedd ond fy mrawd hynaf, a'm chwaer ieuangaf, a minau, gartref yn awr. Daeth llywodraethiad y teulu yn gwbl i law fy mam yn awr, yr hyn a wnaeth gyda doethineb a phwyll: yr oeddym yn ddedwydd a llwyddiannus gyda'n gilydd, a Duw yn ein bendithio. Yn y fiwyddyn 1833 rhoddodd olwyn rhagluniaeth dro arall er lleihau y teulu, pryd y priododd fy chwaer Ann gyda John Davies o Abersefin. Arhosodd fy mrawd hynaf a minau gyda hi hyd ei mar- wolaeth. Wedi i Ann briodi, daeth gofal pethau perthynol i'r tŷ ar fy mam, yr hyn, er ei bod hi yn 73 mlwydd oed, a gyf- lawnodd yn y niodd mwyaf trefnus a dy- munol. Yn y fiwyddyn 1844 daeth awelgref i'w chyfarfod eto, pan fu farw ei mab Thomas, yr hwn oedd yn byw yn y Brychgoed. (Gwelir ei hanes yn yr Eurgrawn am Medi, 1844.) Yr oedd yr ergyd hwn yn un trwm ar hen babell ag ydoedd wedi adfeilio yn fawr. Yr oedd yn teimlo yn 2p ddwys, a dywedodd, " Dyma dro trwm wedi dyfod i'n cyfarfod; ond (ebai hi) nid yw ddim i ni wrth yr hyn ydyw i'w wraig a'i blant: hwynt-hwy a gânt y golled! ond fe wna Duw, yn ol eiaddew- id, ofalu am danynt." Fel hyn yr oedd fy mam yn ngwyneb y cwbl yn ymgysuro yn addewidion y Beibl, heb roi dim yn ynfyd yn erbyn yr Arglwydd. Hi a wel- odd lawer o droion yn ei hamser : cladd- odd ei phriod, tri o'i phlant, a deg o'i hwyrion, am y rhai y mae genym obaith eu bod wedi glanio yn myd yr hedd, a'i bod hi a hwythau yn awr yn cydganu i'r hwn fu farw dros y byd. Gadawodd ar ei hol bump o blantacunarddego ŵyrion, i ba rai y rhoddodd siamplau da a çhy- nghorion pwysig, a thros ba rai y gweddi- odd lawer. Cymhorth a gaffom i'w dylyn hi, megys ag y dylynodd hithau Grist. Fel hyn y cafodd hi nerth yn ol y dydd, a chymhorth yn ol yr achos. Cafodd iechyd da trwy ei hoes: ni bu meddyg yn ymweled â hi, ac ni chymer- odd ddim gan ddoctor na druggist yn ei hamser. Ymddengys ei bod o gyfansodd- iad cryf, ac o ysbryd gwrol iawn; ac y mae yn debyg na ofalodd neb yn fwy am ei hiechyd na hi. Ni yfodd erioedgwrw, na diod fain, na gwirod o un math, ac ni chymerodd win chwaith ond yn sacra- mentaidd; ac ni chymerodd dobacco na snuff yn ei hamser. Yr oedd yn gymhedr- ol yn ei chwsg—yn myned yn brydlon i gysgu, ac yn codi yn fore. Yr oedd hefyd yn dangnefeddus, ac ni byddai un amser yn cael ei gorchfygu gan dymher ddrwg, yr hyn, medd meddygon, sydd niweidiol i iechyd. Cyf. 38.