Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AMRYWIAETH. 263 pa mor ymroddgar i ewyllys el Dad yn y dyoddefiadau mwyaf! Pa mor ddifai y bu efe byw ! a pha mor ardderchog a buddug- oliaethus y bu efe farw ! Nid allaf hedd- ychu y fath rinweddau a'r rhai hyn gydag uehelgais twyllwr hunangar. A ydyw yn ddichonadwy y gall y fath burdeb ddylifo allan o'r fath ffynonell lygredig a chalon twyllwr! Y mae llawer o'r rhai sydd yn cyfaddef cymeriad moesol Iesu Grist, yn gwadu ei fod wedi gwneuthur gwyrthiau. Nid all fod mwy o annghysondeb yn bod na hyn. Beth, ai onid trosedd yn erbyn deddfau moesoldeb yw hòni hawl i wyrthiau fel yn dystion o'i awdurdod oruchel, y rhai na wnaeth efe erioed mohonyntl A ydyw anwiredd, twyll, a rhagrith gwirfoddol, wedi eu dileuo'r llechres o droseddiadau1? A oes dim anfoesoldeb i un ymlynu yn haeillug hyd farw wrth dwyllt Yr wyf fi yn cyfrif fod ffug a thwyll, i ba beth bynag yr arferir hwynt, ac i ba ddybenion bynag yr arferir hwynt, yn feius, gwarad- wyddus, a phechadurus i'r eithaf. Eto rhaid i ni ddwyn y cyhuddiad hwn yn erbyn lesu Grist, os na wnaeth efe wyrth- iau, ac os nad oedd o anfoniad dwyfol. Y mae yn dra sicr ei fod wedi profTesu ei fod wedi gwneuthur gwyrthiau, a'i fod yn apelio atynt fel tystiou digonol i brofi ei ddwyfol anfoniad. Pan yn dywedyd ei fod wedi ei anfon gan Dduw i oleuo ac i achubybyd, yr oedd yn dra gofalus yn chwanegu at hyny, ' Y mae y gweithred- oedd hyny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur, yn tystiolaethu am danaffi, mai y Tad a'm hanfonodd i,' Ioan v. 36 ; hefyd, x. 25. Rhaid i mi, gan hyny, naill ai gwadu fod y fath Berson gogoneddus ag y mae rhai o'r annghredinwyr diwedd- ar yn proffesu ei fod ; neu ynte rhaid i mi ganiatau mai gwirioneddol wyrthiau a wnaeth, at ba rai yr oedd yn apelio mor aml, a chyda'r fath arbenigrwydd, fel tyst- ion o'i ddyfodiad oddi wrth y Tad. Yr wyffi> gan hyny, yn credu mai gwirion- edd a ddywedodd, ' fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion jn rhodio, y gwahangleifion wedi eu glanhau, a'r mei- "v yn cyfodi,' Luc vii. 22. Y Duw hwnw yr hwn a ordeiniodd ddeddfau natur, a all eu rheoli neu eu diswyddo hwynt pan y gwelo ef fod yn dda. Ac nid oee dim yn afresymol yn y tybiadau y gall achosion fod yn deilwng o Dduw, i arferyd ei allu anfeidrol, i ddangos ei ddaioni a'i ddoeth- ineb annghymharol. Y mae yn wir na chafodd ein llygaid ni, yn yr oes hon, eu difyru gyda'r fath olygfeydd o attaliadau ar ddeddfau naturiaeth. Ond nid ydyw hyny yn un prawf na welodd llygaid rhai ereill, mewn oesoedd ereill. Yr oedd dau o ddynion ieuaingc o'r India, ychydig flynyddau yn ol, wedi eu gosod o dan ofal y diweddar a'r dysgedig Dr. Clarke, na welsant erioed rew, ac ni allent gredu fod yr hin mor oer yn y deyrnas hon ag i allu fferu yr elfen ddwfr, a'i gwneuthur mor galed a chadarn ag i gynal bron unrhyw bwysau. Ar unboreurhewllyd cymerodd y Dr. hwy i maes at lyn mawr oedd ger llaw, ac anfonodd ei nai i gerdded ar hyd wyneb y llyn, heb suddo, na gwlychu ei draed. Wrth ddychwelyd yn ol ysgrifen- odd un o honynt ar y deial, ' Gwydr y Duw Hollalluog ydoedd.' Ni chredasai y dyniou ieuaingc hyn nes cael gweled. Ond pa ddefnydd ydyw gosod i fyny resymeg, pan yn erbyn ffaith 1 Y mae y gwyrthiau a gyfrifir i Iesu Grist a'i apostolion yn gorphwys ar yr un sylfeini a'r erthyglau ereill ag a gawn ni yn hanes ei fywyd ef. Nid trwydraddod- iadau y daethant i ni, ond trwy ysgrifen- iadau y dynion hyny oedd wedi eu gweled â'u llygaid. Y mae yr holl wybodaeth sydd genyf fi am Iesu Grist yn cael eì thynu oddi wrth yr ysgrifeniadau hyn. Rhaid i mi, gan hyny, naill ai derbyn y cyfan neu wrthod y cyfan o'r hanes yma. Yr wyf yn dywedyd hyn o herwydd fod rhai dynion yn foddlon i dderbyn ac i gredu yr hanes agawn nio ymddyddanion ein Harglwydd, ond ni fynent gredu ei wyrthiau. Ond y mae yr erthyglau hyn wedi eu huno yn nghyd, fel nad ellir eu dosbarthu. Os ydyw yr efengylwyr yn teilyngu eu credu yn ddifrifol wrth adrodd yr hyn a glywsant â'u clustiau, pa harn ynte naddylent gael eu credu pan y maent yn adrodd yr hyn a welsant â'u llygaidl* Yrwyf fi yn canfod fod y lluawshyny, y rhai oedd ganddynt y cyfleusdra goraf i wy- bod ac i ddeall y twyll, pe buasai twyll yn bod,wedi cael eu hollolberswadio fod galln