Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

280 NEWYDDIÖN. Hughes, o Gaerfyrddin, yn Axminster ,• John Spenser Jones, mab y diweddar Barch. Lewis Jones, yn Gloucester ; Hugh aThomasR. Jones, meibion y Parch.John Jones, laf, yn Midsomer- Norton a Brigg; John Samuel Jones, mab y Parch. John Jones, 2il, yn Nghaernarfon; Thomas Llewelyn, o Gastellnedd, yn Halifax; William Williams, o Aberdaugleddyf, jn Sunderland; Richard D. Griffith, o Aber- tawy, yn Bangalore, India Ddwyreiniol; Frederick Lewis oGaerdydd yn Huntcr's River, New South Wales ; a Thomas Bat- ten, mab y Parch. William Batten, yn Neic Buchenhatn; ac ereill, efallai, o ryw barthau o Gymru nad ydym yn gwybod am danynt. GWLADOL. T R A M 0 R. GERMANI. Cynydd Didduwiahth.—Cynaliwyd cy- manfa yn ddiweddar yn Schneidemuhl, meddai gohebydd o Berlin, gan gynull- eidfaoedd y ffyddloniaid, i ddadlu amrai byngciau, ac y mae y canlyniad yn ar- swydus. Dangoswyd gelyniaeth a dirmyg ar holl wirioneddau yr efengyl—gwnaed gwawd o athrawiaeth y Drindod, Duw- dod Crist, a phersonoliaeth yrYsbryd Glàn. Gwrthodasant gydnabod y tri chredo — sefcredoSt. Athanasius, credo Nicean, a chredo yr apostolion; a dywedir fod hyd yn nod Czerski ei hun yn ochri yn erbyn pob credoau. Cyn y dawy rhifyn hwni law bydd gwjbodaeth pa fath un yw y gŵr hwnw, canys os yw y darluniad uchod yn wir, nis gall weithredu na bod yn aelod o'r cynghrair efengylaidd. NEW ZEALAND. Df.BBYNIwyd papyrau y lle uchod hyd Mawrth 15fed. Ymddengys oddi wrth y rhai hyn fod y Llywodraethwr Grey wedi dychwelyd o'r Bay of Islands, lle y darfu orthrechu a dwyn dan ei lywodraeth y ddau benaeth gwrthryfelgar — Heka a Rawiti. Taflasant eu hunain yn hollol ar drugaredd y Llywodraethwr, gan roddi i fyny eu holl diroedd, a chymeryd ei am- odau ef am heddwch dyfodol. Y penaeth Wesleyaidd Nene a fu yr offeryn cyfryngol i ddwyn y cytundeb heddychol hwn oddi amgylch, yr hwn yn ebrwydd sydd yn dychwelyd i'r Bay of Islands, i gydfyw â'r lleill mewn tawelwch. Yn sicr bydd i hyn droi allan er lledaeniad yr efengyl. Pared yr Arglwydd mai felly y byddo. CYMYSG. Storm ddychrynllyd.—Awst 3ydd, ym- welwyd. â thref Corwen gan storm na fu t rao'i bath er cof neb ag sydd yma yn fyw. I Yr oedd yr hin, er ys amrai ddyddiau, yn I hynod o wresog ; a chlywid ambell daran I yn rhuo, a'r mellt yn gwau, ond anwybod- ' us oeddem am yr hyn oedd yn canlyn. I Tua thri o'r gloch prydnawn dydd Llun, , canfyddwyd fod yr awyr yn duo, a'r tar- \ anau o bell yn rhuo; ac yn mhen ychydig | oriau dyma goruentydd mynyddoedd Ber- | wyn yn gorlifo a chynyddu yn ddiorphwys, nes gyru o'u blaen goed}dd mawr, yn nghyda chraig dunell o bwysi. y rhai a ''■ ymdreiglent jryda grym aruthrol ac an. orchfygol. Erbyn hyn gwelwyd fod y : dref yn ymlenwi gyda'r elfen ddwfr. Yrr i amser yma y gwelwyd fod Uawer o dai yn cael eu siglo hyd eu sylfeini, a darnau o honynt yn ymollwng ac yn cael eu ysgubo ymaith gan rym y dwfr ; hefyd gwelwyd dodrefn amrywiol o dai yn nofio draw ac yma, ac yn cael eu cludo gyda chyflymdra diorphwys tuagafon Dyfidwy. Erbyn hyn gwelwyd fod pob tramwyfa yn y lle, i ddyn ac anifail, wedi ei chau i fyny gan y dwfr diluwiol. Tua chwech o'r gloch yr oedd | cynddaredd y storm fel yn cynjddu yn ! ddioiphwys. Erbyn hyn gw elwyd y plant | yn cael eu cario gan eu rhieni i'r llofftydd | uchaf, i'r dyben i ddiogelu einioes. Yn y I cyt'yngder hwn gadewid y dodrefn. a nwyf- au y siopau, yn ysglyfaeth i gynddaredd y rhjferthwy : canfyddwyd gwiredd y geir- iau hyny, ' Pob peth a rydd dyn am ei einioes.' Erbyn hyn yr oedd y nos yn agosau, a'r storm fel yn estyn ac yn cy- nyddu mewn nerth ; pethau fel hyn oedd yn peri i'n hofnau chwanegu. Clywid gwragedd yn dolefain am eu plant, a'r plant am eu rhieni. Ereill oedd yn ddi- wyd yn tori muriau a ffenestri y cefn, sef y fan hyny ag oedd yn y perygl mwyaf, i'r dyben i gael yrhen a'rmethedig allan, am fod y dwfr yn llenwi y tai. Yn yr amser yma gwelwydrhaiyn tywallt dagrau, clyw- wyd ereill yn taer weddio, meddyliai ereill fod y byd ar ben. Collodd un wraig ei bywyd yn ymyl yma wrth geisio achub ei phlant. I Dduw byddo y diolch na chollwyd yr un bywyd arall yma. Tua haner nos yr oedd golwg rhyfedd yma— teuluoedd wedi eu gwahanu oddi wrth eu gilydd, a'r tai diangol fel rhyw asylums i dderbyn plant ac ereill ag oedd wedi colli eu cartrefieoedd. Wrth edrych oddi amgylch yma yn awr mae golwg rhyfedd ar y lle—ceryg mawrion a phethau ereill yn llenwi yr heol, mewn rhai manau yn dair llathen o ddyfnder, yr hyn oedd yn achos o attalfa i'r cerbydau a'r troliau i dramwy. Golwg ddigalon iawn sydd ar lawer yn y lle o herwydd eu colledion mawr, yrhyn sydd yn debyg o'u darostwng i amgylchiadau isel. Nis gtllir dweyd yn bresenol faint yw y golled a gafodd y dy- oddefwyr. Drwg genyf eich hysbysu fod capel y Wesleyaid k damage mawr iawn