Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

284 NEWYDDION. Bydd i bob peth a basiwyd fel pender- fyniadau perthynol i'r bobl gael eu bar- graffu yn y * Cofnodau.' Etholwyd Cadeirwyr y Talaethau, a darfu i chwech gael eu hethol y waith gyntaf, un o baraioedd ein cyfaill Thomas Jones, 2il, yn gadeirydd yr ail Dalaeth Dùeheuol. Yr oedd pob un a etholwyd fel hyn y tro cyntaf yn cael ei alw i roddi araeth ; a phan ddisgynodd yr etholiad ar Mr. Jones, llefodd yr holl gonference, ' Araeth Gymreig,' ' araeth Gymreig,' yr hyn a wnaeth i Mr. J. ddechreu yn ei iaith ei hun; ' ond,' meddai efe yn Seisonaeg, ' yr wyf yn ofni fy mod yn rhy ddysgedig i chwi—mi a gyfieithaf i chwi,' ac feliy diweddodd yn Seisonaeg, er mawr foddhâd a difyrwch i'r holl Weinidogion. Siaradwyd Uawer iawn ar ddysgeidiaeth, a chateceisio plant a phobl ieuaingc, gan anog ffurfio dosbarthiadau o'r rhai olaf yn mhob cymydogaeth,o danofal cateceiswyr, fel y mae y gymdeithas o dan ofal blaenor- iaid rhestrau. Wedi deall mai ychydig iawn a fu y cynydd yn ein cyfundeb y flwyddyn ddi- weddaf, ymddyddanwyd llawerar ymwel- iadau gweinidogaethol—yr angenrheid- rwydd o honynt yn fwy rheolaidd ; ac eto fod yn anmhosibl i Weinidogion y corff Wesleyaidd wneyd cymaint yn byny a gweinidogion nad oes ganddynt ond un gymydogaeth i'w cherdded, a dim ond un gynulleidfa i ofalu am dani. Dylai ein pobl ystyried hyn. Taflwyd golwg ar y Drysorfa Gynorth- wyol er rhoddi cynaliaeth i weinidogion methedig, a gweddwon gweinidogion, a deallwyd ei bod yn enill cymeradwyaeth yn mhlith aelodau ein cymdeithasau. Darllenwyd mynegiad y pwyllgor ar sef- yllfaysgolKingswood,pryd ybarnwyd nad oeddyKingswood bresenol yn le iachus; a'r priodoldeb o adeiladu 'K.ingswood new- ydd' yn rhyw le arall. Siaradwyd ar y 'Cynghrair Efengyl- aidd,' a phenderfynwyd ei bleidio. Wedi rhai pethau trefnusol o ychydig bwys, gorphenwyd y 103 Conference trwy i'r ' Cofnodau' gael eu harwyddo gan y Llywydd a'r Ysgrifenydd, canu emyn, a gweddio. Yr oedd hyn oddeutu chwarter wedi naw o'r gloch nos Iau, y 13eg o Awst. Traddodwyd 189 o bregethau yn Mris- tol a'i hamgylchoedd, gan y pregethwyr mewn cysylltiad â'r Conference hwn. D.9. Y mae y brawd Rossell i gartrefu yn Nghastellnedd. Merthyr- Tydfil—Cbarles W. Yibert, John Sharman. Aberhonddu — Joseph Pratten, Richard Roberts. Caer/yrddin — Aquila Barber, John G. Avery. D.S. Y mae y brawd Avery i gartrefu yn LlauellL. Hwlffordd—Joseph Hollis, Thomas Hec- ley. D.S. Y mae y brawd Hecley i gartrefu yn Aberdaugleddyf. Penfro—Thomas Payne, George T. Mor- rison. Josepk Pratten, Cadeirydd y Dalaeth. Aquila Barber, Ysgrifenydd Cyllidawl. RHAN O SEFYDLIADAU Y GWEINIDOGION WESLEYAIDD, AM 1846. Y DALAETH BDEHEUOL GYNTAF. (PREGETHÜ SEISONÀ.EG.) Abertawy—Thomas Baker, John Rossell; Eyan Parry, Uwchrif. YR AIL DALAETHDDEHEUOL. (PREGETIIU OYMRAEG.) Merthyr-ryd/ìZ—Thomas Aubrey, Wil- liam Rowlands. D.S. Y mae y brawd Rowlands i gartrefu yn Nhredegar. Crughywel—John Lloyd, Thomas Jones, 3ydd. Caerdydd—David Morgan, Owen Owen, John Herbert. D. S. Y mae yr Arolygwr i gartrefu yn Mhontfaeu. Aberhonddu—Lewis Williams. Llandeilo—Thomas Jones, 2il; Morgan Griffith, Uwchrif. D. S. Y maegweinidog Aberhonddu i dreul- io dau Sul yn mhob chwech wythnos yn nghylchdaith Llandeilo; a gweinidog Llan- deilo i dreulio un wythnos mewn chwech yn nghylchdaith Aberhonddu. Caerfyrddin- -Isaac Jenkins,Daniel Jones; Hugh Hughes, Uwcbrif. Narberth—John Jones, 3ydd. Abertawy—Lot Hughes, Timothy Jones; William Hughes, Uwchrif. Aberteifi—James Jones,2il, Ebenezer Mor- gan. D. S. Y mae yr arolygwr i gartrefu yn Llan- bedr-pont-Stephan. Tỳ-Ddewi—~E\a.n Ricbard, yr hwn sydd i dreulio tri Sul yn mhob chwarter yn nghylchdaith Aberteifí, ac un o wein- idogion Aberteifi i dreulio dau Sul yn mhob chwarter yn nghylchdaith Tŷ- Ddewi. Aberystwyth—Robert Williams, Joseph Jones; Griffith Hughes, Uwchrif. Machynlleth — Robert Owen; William Evans, Uwchrif. Llanidloes—John Rees, Goruchwyliwr y Llyfrau; DavidEvans, 2il, Golygydd- Thomas Jones,2ì1, Cadeirydd yDalaeth. Isaac Jbnhins, Ysgrifenydd Cyttidatol