Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEWYDDION. 283 oddiamgylch à tberfynu y Conference o fewn cylch yr amser penodedig gan y weithred gorfforedig, neu y deed of De claration, yr hon a gyfynga eisteddiad y Conference i un ar ugain o ddyddiau. Y gorchwyl cyntaf a wnaed oedd dewis aelodau i lenwi ' y cant' yn y weithred uchod, yn lle y rhai a fuont feirw, neu a enciliasant o'r gwaith rheolaidd. Daeth pump i fewn yn ol eu hoed—un trwy ddewisiad, sef y Dr. Beaumont—a dau o'r Iwerddon. Wedi gwneyd i fyny ' y cant' felly, y gorchwyl nesaf oedd dewis Llywydd, canys yn awr yr oedd swydd a gwaith yr hen Lywydd yn terfynu. Etholwyd trwy goelbren (.neu ballot), a disgynodd y coel- bren ar y Parch. William Atherton, hen ẁr parchus, yn agosau at bedwar ugain oed. Treuliwyd gweddill y dydd mewn gweddiau, a rhoddi rhybuddion o gynyg- iadau gan wahanol weinidogion i ymdrin â hwynt ar amserau cyfaddas. Pan ymofynwyd am yr ymgeiswyr i'r weinidogaeth, cafwyd tua thri a deugain, ac yn eu plith offeiriad yn Demarara, yr hwn, oblegid gogwyddiadau Puseyaidd ei Esgob, sydd, ef a'i gynulleidfa, yn cynyg eu hunain i'r Wesleyaid. Pan ofynwyd pa bregethwyr a fuont feirw, cafwyd enwau pedwar neu bump ar ugain. Treuliwyd dau ddydd mewn ymchwil i gymeriad y gweinidogion, a gweinyddiad dysgyblaeth. Treuliwyd cryn lawer o amser ar Fuiegiad pwyllgor y cyllidau. Bu cryn siarad hefyd ar y priodoldeb o fod i'r gweinidogion yn Scotland arferyd gown yn y pulpit. Yr oedd gwahanol feddyliau ar yr achoshwn. Cafwyd fod 3G o bregethwyr yn encilio o'r gwaith rheolaidd eleni, yn mhlith pa rai y mae y Parch. Richard Rees, wedi bod yn y weinidogaeth driugain mlynedd üamyn un. Treuliwyd dau ddiwrnod i ystyried ceisiadau cylchdeithiau am chwa- neg o weinidogion. Vr oedd unarbymtheg o bregethwyr ieuaingc i gael eu derbyn i gyflawn undeb, y rhat wedieu holi yn fanwl iawn drosodd a throsodd, a ordeiniwyd yn gyhoeddusyn "ghapel St. Phillip, i ba rai y traddodwyd y rhybudd (charge) gan y Cynlywydd, Mr. Stauley. Wedi hyny cyfranogodd y pregethwyr oll o swper yr Arglwydd. Yr oedd yr holl wasanaeth yn fendithiol, effeithiol, a dyddorol nodedig; ac wedi °od yn y capel bum awr, ymwasgarwyd mewn Uawn foddlonrwydd. Yr oedd y capel mawr hwnw mor orlawn fel y bu ^ud i un o'r pregethwyr fyned allan i bl'egethu i'r gweddill na allent ddyfod i mewn. Derbyniwyd amrai ddeisebau neu an- erchiadau oddi wrth Ddirwestwyr, ond ni welwyd yn briodol wneyd sylw ohonynt, ond ua—oddi wrth yr Ymgasgliad mawr yn Llundaín, yrhwn a elwid ' Ymgasgliad y Byd.' Yr oedd yr anerchiad hwn wedi ei eirio mor barchus a didramgwydd fel y gwelwyd yn addas ei ddarllen, a phleid- Ìeisiodd y Conference ar fod i atebiad parchus gael ei roddi iddo. Hyderwn y byddwn yn a'.luog yn fuan i roddi y naill a'r llall o flaen ein darllenwyr. Pan ddaeth Goruchwylydd y llyfrau â'i gyfrif ger bron, ymddangosai i'r flwyddyn ddiweddaf fod yn un dra lwyddianus i fasnach ein cyfundeb. Yr oeddid wedi gwerthu (137,285) cant a dauarbymtheg ar ugain o filoedd, dau gant a phump ar ugain o lyfrau Hymnau o bob math, yn cynwys chwanegiad o (5116) bum mil, un cant ac unarbymtheg, ar y flwyddjn o'r blaen. Yroeddid yn gwerthu (4,250) pedair mil a dau gant a haner o'r Eur- grawn 6ch yn fisol; a (10,500) deng mil a haner o'r Eurgrawn ls. yn fisol. Gwerthid (7000) saith mil yn fisol o'r Youth Instructer; (36,000) un fil ar bymtheg ar ugain o'r Christian Miscellani/ ; a (45,000) phum mil a deugain o'r Early Days. Yroeddyr holl werthiantyn dyfod i (£40,576) ddeugain mil, pum cant ac un- arbymtheg a thriugain o bunau ; yr elw clir o ba swm sydd yn cael ei ranu o flwyddyn i flwyddyn rhwng gwTahanol drysorfeydd y corff. Heblaw hyny, yr oeddid wedi gwerthu (1,532,514) un mil- iwn, pum caut a deuddeg a deugain o fíloedd, pum cant a phedwararddeg o Draethodau (Tracts) yn ystod y flwydd- yn, yr hyn oedd yn chwanegiad ar y flwyddyn "o'r blaen o (108,812) gant ac wyth o filoedd, wyth gant a deuddeg. Siaradwyd llawer ar y priodoldeb o wasgu ar ymddiriedolwyr capeli sydd eto heb eu sicrhau yn ol y gyfraith ar y cyfryw achos, i heidio oedi, gan nabydd yn bosibl cadw y cyfryw gapeli oddi wrth afael yr ysgrif cyn hir a ddygir i'r Senedd. Cymer y cyfreithwyr afael yn mhob un o honynt, i'w tref'nu a defnyddio yr arian oddi wrth- ynt fel y gwelont hwy briodolaf. Treuliwyd tua thridiau gyda sefydliad- au y pregethwyr, wedi holl waith y pwyll- gor. Darllenwyd hwy drosodd dair gwaith —y tro cyntaf rhag blaen heb i neb wneyd un rhwystr, yr ail waith gydag arafwch, gan wneyd llawer iawn o gyfnewidiadau ; a'r drydedd waith, gan eu diwygio yn or- phenol cyn eu rhoddi i'w hargraffu allan. Etholwyd y Parch. W. W. Stamp yn Llywodraethwr tŷ cangen Richmond o'r Egwyddorfa Dduwinyddol. Penderfyn- wyd rhoddi cynorthwy i adeiladu capel yn Cambridge, mewn lle cyfaddas, ac o faint a dull cyfaddas i'r ddinas enw7og hòno. Cytunwyd ar ryw reolau newyddion a ar- gymhellwyd gan bwyllgor i'r dyben hyny, o berthynas i werthiant capeli a elo yn ddiddefnydd, a rhoddiad organau yn y capeli.