Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

278 MARWOLAETHAU. nodiad, nid am farwolaeth anffyddwyr, nac am rai ag yr oedd eu bywydau digrefydd yn cymylu yr adolygiad o'i safiant gerbron Duw mewn cyflwr anmharod ;—ond am ambell un ag y mae coffàd o'i fanv yn bêrarogl i'r eglwys, tu yma a thu draw i'r afon; ac, yn mhlith ereill, am un na fu ei arosiad yn myd y pechod ond am ugain mlynedd cwta—y chwe olaf o ba rai a dreuliwyd yn ymgysegriad o fywyd cref- yddol yn eglwys Dduw, yma yn yr anial- wch, sef John Williams, yr hwn ydoedd fab hynaf i Mr. Elias Williams, a Cather- ine ei wraig, o'r siop Llanfairfechan, swydd Caernarfon. Cafodd y fraint o gael ei fagu gyda thad a mam grefyddol—teulu sydd â'u hysgwyddyn dỳn dan achos Duw gyda'r Wesleyaid yn yr ardal hòno. Gellir dy wedyd fod y teulu yma wedi cael y fraint o ddwyn nodweddiad Josua mewn rhan hyd ynhyn—trwy rasyndeulu mewn ym- roddiad i wasanaethu yr Arglwydd. Y fraint fwyaf i blant ydyw cael eu magu gan rieni crefyddol; ac y mae yn debyg pe byddai diolch am ryw bcth yn y nef heb law am y caru a'r golchi, byddai llawer un yn barod hyd yn nod yno i ddiolch am gael eu dwyn i fyny ar y ddaear gyda rhieni yn ofni Duw ; ac ar y ddaear nis gall neb rhyw rieni fod o fwy o fendith i'w plant na thrwy ymofyn eu hunain am grefydd. Hyn a ddyg fendith Abraham i'r teulu, sef, —' Myfi a fyddaf yn Dduw i ti, ac i'th had ar dy ol.' Dyna fwy o ffortun yn disgyn i'r teulu na'r byd i gyd. Fe allai er mwyn rhyw ddarllenwr o hyn mai nid oferfyddai dywedyd,—ti, yrhwn a gafodd y fraint o'th fagu gyda thad a mam yn ofni Duw, edrych na fydd i ti bechu y fendith ymaith. Ni ddarfu ein brawd ieuangc ymorphwys ar grefydd ei rieni, a boddloni fel yr Iuddewoni ddywedyd, * Y mae gen- ym ni Abraham yn dad,' ac yn boddloni ar hyny ; ond mynodd grefydd bersonol ei hun, arddelodd ei Grist yn beisonol, gweithiodd yn yr eglwys yn bersonol, treuliodd trwy ras flaenffrwyth ei oesmewn tiraddfedu gogyfer à'r gwynfyd. Beth pe buasai John fel llawer un o bosibl a ddar- Uen y tipyn cofiant hwn—wedi aros i fyned heibio ei ugain mlynedd oed heb ymofyn am Grist, yn mha le y buasai ei enaid heddyw ? Ond dyma brawf ' mai da i ŵr ddwyn yr iau yn ei ienengctid.' Ar ol ymuno â chrefydd, nid llawer o'i amser a dreuliwyd gartref; ond bu yma athraw jn dylyn ei alwedigaeth. Bu bedair blynedd yn Nghaernarfon, ac yn ystod y pedair blynedd crefydd ydoedd ei brif fater yno, a bu ei rodiad crefyddol yn ddifriw i'r achos. Byddai ei holl ymarweddiad jn arogli symledd crefyddol. Deuai ei gj-f- eillion ieuaingc gyda'r hwyr allan o'r dref i'r maesydd i weddio ; ac mewn cof-ysgrif o'i eiddo tystia y byddai ymneillduad fel hyn yn adfywiad mawr i'w deimladau. Ymsymudodd i Le'rpwl. Gofalodd yn y dref fawr ac annuwiol hòno o gael y fantais o ddylyn ei alwedigaeth gydag un o'n blaenoriaid yno. Gwelai mai y lle diogel- af fyddai bod ger llaw pebyll y bugeiliaid. Ond yno ei iechyd a adfeiliodd ; dychwel- odd yn ol i Gymru i'w gartref. Bu am beth amser weithiau yn well. ac ar brydiau ereill yn waeth, hyd nes gorphenodd ci yrfa ddaearol yn dawel iawn, a'i law far- wol yn llaw ei dad marwol, ond ei law eneidiol yn llaw ei Dad ysbrydol, ar ddydd Llun, Chwefror lOfed, 1845. Claddwyd ef y dydd lau canlynol, a phregethodd y Parch. Thomas Morris yn ei wylnos oddi ar y geiriau hyny yn Job, ' Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaearl' Ymun- odd â'r eglwys filwriaethus pan yn I4eg oed, a'r un orfoleddus uchod pan mewn wyth niwrnod i fod yn ugain mlwydd oed. O ran ei gyfansoddiad nid oedd ond Ued wanaidd, ond yn gadarn mewn galluoedd meddyliol. Fel cyfaill, yr oedd yn un o duedd naturiol i fod yn serchus, ac arogl crefydd yn ei holl ymddygiadau—wedi cyraedd i fod yn henafgwr mewn profiad a symledd crefyddol. Pan ofynid iddo mewn cystudd gan gyfaill am stâd ei gyflwr, byddai yr atebiad yn fyr, yn gyflawn, ac yn foddlongar. HUGH MlCHAEL. Glasinfryn, Mehefin 12/erf, 1846. [O ddifFyg He i'w dodi i mewn, yr ydym dan or- fod gadael allan ddau lythyr ag a dderhynias- om mewn cysylltiad á'r cofiant uchod.—Uoi-.]