Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MARWOLAETHAU. 277 ' Derbyniais lythyr ryw ddiwrnod oddi wrth ddyn ieuangcag oedd wedi bod gynt yn egwyddor-was i mi, cyn i mi esgeuluso y ddyledswydd deuluaidd. Heb ameu nad oeddwn yn parhau gyda'r ddyled- swydd, yr oedd ei lythyr yn benaf ar y mater hyny : yr oedd wedi cael ei eirio yn yr ymadroddion mwyaf parchus a serchog : ond bernwch am fy syndod a'm gwarad- wydd pan y darllenais y geiriau hyn :— " 0, fy meistr anwyl, ni fyddaf fi byth, byth yn alluog i ddiolch digon i chwi am y fraint werthfawr â'r hon y'm hanrhyd- eddasoch yn eich defosiynau teuluaidd. 0, Syr, bydd tragwyddoldeb yn rhy fyr i foli fy Nuw am yr hyn a ddysgais yno. Yno y canfyddais gyntaf fy sefyllfa goll- edig a thruenus fel pechadur; yno y daethym gyntaf iwybod ffordd iachawdwr- iaeth: ac yno y teimlais gyntaf y dymun- oldeb o gael "' Crist ynwyf yn obaith go- goniant.'" 0, Syr, goddefwch i nii ddy- wedyd, Byth, byth, nac esgeuluswch yr ymarferiad gwerthfawr yma. Y mae genych eto deulu, a chwaneg o egwydd- or-weision : bydded eich tŷ yn enedigol le llawer o eneidiau!" Ni allwn ddarllen yn mhellach : yr oedd pob llinell yn Uuchio condemniad i fy ngwyneb. Yr oeddwn yn crynu, yr oeddwn mewn dychryn; yr oeddwn yn arswydo wrth feddwl am waed fy mhlant a'm hegwyddor-weision, yr hwn yr ofnwn ei fod ar gael ei ofyn ar fy nwylaw aflan a llofruddiog i. ' Gwedi fy llenwi â gwarth, a'm trochi mewn dagrau, myfi a ddiengais am noddfa i'r dirgel. Lledais y llythyr ger bron Duw. Ymdrechais, ac—ond hawddach y gallwch chwi amgyffred fy nheimladau nag y gallaf fi eu dysgrifio: boed hyn yn ddigon i mi i'w ddywedyd, torodd goleuni allan ar fy enaid annyddan, cyraeddais deimlad o faddeuant wedi ei brynu à gwaed, &c., &c. Aethym heb oedi at fy öheulu; cyflwynais hwy ger bron yr Ar- giwydd; ac o'r dydd hwnw hyd yn awr, Jr ydwyf wedi bod, ac yr ydwyf yn awr, jn benderfynol, trwy ras, pryd bynag y delo masnach yn rhy helaeth i ganiatau dyledswydd deuluaidd, y bydd i mi roddi J'ny y rhan afreidiol o'r fasnach, a chadw fy nefosiwn. Gwell colli ychydig o sylltau, na bod yn llofrudd pwyllog o'm teulu, ao yn offeryn dinystr i'm henaid fy hun! ATEBIAD 1 OFYNIAD MR. W. H., SEION, YN RIIIFYN TACH,, 184ö. Noda Mr. W. H. Jonah iii. 10 a Jer. xtìü. 8, fel yn gwrthddywedyd 1 Sam. xt. 29 a Salm xxxiii. 11, am fod y ddwy flaen- af yn dywedyd fod yr Arglwydd yn edifar- hau, pan y dywed y ddwy olaf, ' Nid edi- farhâ, ond ei gynghor a saif yn dragywydd.' Yr ydwyf yn meddwl mai yn y gair edi- farhau y mae y dyryswch yn aros. Edi- feirwch, gyda dynion, sydd yn cynwys, cyfnewidiad y meddwl, troad y galon oddi wrth bechod, yn nghyda galar dwys o'i herwydd. Edifeirwch, gyda'r Arglwydd, sydd gyfnewidiad yn ei ddull yn gweith- redu, neu yn ymddwyn at berson neu ber- sonau. Edifeirwch, gyda dynion, sydd yn arwyddo diffyg neu goll ynddynt eu Iiutì' ain, ac o herwydd y cyfryw y maent yn edifarhau. Edifeirwch, gyda'r Arglwydd, sydd yn arwyddo bod ereìll yn ddiffygiol, ac nid ei hun. Y mae dynion yn edifar- hau o herwydd eu hanmherffeithrwydd ; nid yw yr Arglwydd ddim felly, canys y mae ef yn berffaith. (Mat. t. 48.) Fel hyn, y mae yr Arglwydd wedi addaw a phenderfynu gwobrwyo y cj fiawn, a chospi y drygionus. Dyna yw ei fwriadau neu ei arfaeth ef. (Mal. iii. 18, Rhuf. ii. 6— 11.) Pan y mae dynion yn ufudd ac yn ewyllysgar, y mae yntau yn eu gwobrwyo hwythau ; ond os try y cyfryw ddynion yn ddrwg,rhydd yntau gosp arnynt hwythau, er iddo addaw eu gwobrwyo, os gwnaent dda. Cyfnewid ei ddull fel yna a eilw y Beibl yn edifeirwch yn yr Arglwydd. Neu fel y Ninifeaid gynt, dywedodd yr Ar- glwydd y caent eu dyfetha oll; ond ar eu hedifeirwch fe'u harbedodd. Peth fel j na a eilw y Beibl yn edifeirwch yn yr Ar- glwydd. D. ab Iago. MARWOLAETHAU. YCHYDIG O IIANES JOHN WILLIAMS, GYNT O LANFAIR-FECHAN, GER BANG0R. Y mae yn drugaredd ac yn gysur i bob enaid duwiol, ac hefyd yn gryfhâd i ras- usau y saint ar y ddaear, gael darllen cof-