Skip to main content

BUCHEÜDIAETH. 227 dro.—Yt un modd bob amser. Nid oedd efe weithian yn oer ac weithiau yn frwd ; eithr yn dyfal-lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahan. Yr oedd bob amser yn barod i wneyd a allai yn ml.ob modd dros Dduw. Ni f>ddai byth am wthio ei hun yn mlaen heb ei alw, nac un amser am sefyll yn ol pan ei cymhellid at unrhyw ddyledswydd. Nid gormod yw dywedyd am dano, ei fod yn sicr, a diymod, a helaeth yn ngwaith yr Arglwydd yn wastadol. Ÿr oedd yn Wesleyad didwyll a thrwy- adl.—Gedai ein holl athrawiaethau, am ei fod yn eu gweled yn berffaith gyson â gair Duw. Carai ein dysgyblaeth a'n trefn, am ei fod yn eu gweled yn rhesymol ac ysgrythyrol. Cofleidiai Wes'eyaeth yn bob peth fel y mae, a rhoddai ei hunan i'r Arglwydd ac iddi hithau, yn gyflawn fel yr oedd. Pa les a fyddai ei gred ddiysgog a'i broffes dda, heb ei fod yn gristion ? Dywenydd mawr yw gan yr ysgrifenydd feddwì, nad yw wedi cyfarfod â neb a'r a adwnenai W. Sumners, yn un man, yn arwyddo y gradd lleiaf o amhenaeth ei fod ef yn gris ion cywir. Meddyliai lawer gwaith wrlh ei gyfarfod y gellid dywedyd am dano, Onid dynia ' Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes twyìl?' Ond diwedd yr hanes am dano ef fel eieill o'i flaen ydyw, ' Efe ajufario.' Dymunai lawer gwaith gae! marw heb fod yn llawn o flinder i neb trwy hir gystudd ; ac felly y cafodd. Dd*dd Sadwrn y 18fed o Hydref, 1845, datth adref o'r glod ìfa yn anhwylus iawn o ran iechyd ; a dywedai. ' Yr wyf yn dost iawn.' Gwnaeth ei wraig a allai hi tuag at ei esmwythau a'i gysuro; a dywedai wrtho, yn mhlith pethau ereill, ' Ti ddeui yn well erbyn y fory/ ' Na/ ebai yntau, ' nid wyf yn meddwl yr âf i Gwar Pen-y- geulan byth mwy.' Tranoeth, y Sabboth, efe a aeth i'r cap-d ddwywaith, er ei fod yn wael iawn ei iechyd. Ddydd Llun nis gallodd fyned at ei waith, na phrin fyned allan o'i dý. Erbyn boreu Mawrth yr °edd yn llawer gwaeth. Cafodd wasgfa diom arol codi, yn lled ddiweddar, y b >reu hwnw. Ofnodd y teulu ei fod yn marw }'n y fan; ond efe a adferwyd diachefn yn mhen amser, a'r geiriau cyntaf a ddy- wedodd pan y daeth ato ei hun oedd, ' Arglwydd Iesu, bydd dy hunan Yu Arweinydd ffyddlon im'; Tan dy gysgwl mae fy noddfa, Yn y stormydd mwya'u grym.' Dodwyd ef yn ei wely y pryd hwnw, i'r hwn y caethiwwyd ef gan y dwymyn hyd awr ei farwolaeth. Cyfarfu ei afiechyd âg ef megys llew ar y ffordd; taflodd ef i lawr, ac ni allai gyfodi;—gorchfygodd ef ar unwaith ; heriai holl ysgil y meddyg, a dyrysodd synwyrau y dyoddefydd, fel nas gallai feddianu ei hun, oddigerth ychydig funudau ambell waith yn ystod ei gystudd angeuol. O herwydd pa ham nid oes genym ond ychydig o'i ymadroddion di- weddaf i'w coffau yma. Ymostyngai yn dawel a dirwgnach i ewyllys ei Dad hefol, ac nid arwyddai un gradd o ofn marw pan y delai ychydig ato ei hun. Ddydd Mer- cher ymwelais âg ef. Efe a'm hadnabu, ac a ddywedodd ychydig eiriau yn^yson a rheolaidd; ond buan y crwydrai oddi wrth y mater dan sylw. Er hyny yr oedd ei boll ymadioddion yn grefyddol. Trwy iddo gael ei daro yn glaf mor ddisymwth, a'i dori i lawr mor sydyn ; ei fod yn byw encyd o ffordd o'r dref, a gwaith y gylch- daith yn fy ngalw ffordd arall, ni fûm yn alluog i'w weled ond yr un waith hyna; ac mor dda a fuasai genyf fod gydagef bob dydd ! Ondnid annghofiaf rhawg yrolwg a gefais arno y tro hwnw. Tybiwyffy mod yn ei weled yn awr—yn gorwedd acw ar ei wely, yn ysglyfaeth i holl gynddar- edd y dwymyn—yn un enynfa o boenau corfforol, ac anhwyldeb meddyliol ; er hyny yn lled-wenu mor hawddgar a phe na buasai un peth yn ei flino; yn cael hamdden i fendithio Duw yn awr ac eil- waith ; ac ambell waith yn taro ei ddwy- law yn mhleth, gan edrych i fyny, tra yr oedd ei iaith a'i agwedd yn dywedyd, ' Yr Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg.' Nid oedd bosibl i mi na neb arall fod yn hir yn ei olwg heb gydnabod mai 'gwyn fyd y dyn y mae Duw Jacob yn gymhorth iddo, ac sydd â'i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw.' Boreu Sadwrn, rhwng 8 a 9 o'r gloch, deallodd fod awr ei ddattodiad wedi dyfod. Galwodd ar ei wraig, a chynifer o'i blant ag oedd yn gyf- agos y pryd hwnw, i ddyfod ato, fel y gallai rlarwelio â hwynt. Hwy a ddaethant o