Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

256 NEWYDDION. HofrudcUaeth.—Cafwyd plentyn wedi ei ladd ddydd Mawrth. y 24ain o fis Mawrth diwedd- af, yn mhlwyf Llandegai, yn agos i Fryniau Eith- inog. Yr cedd wedi ei lapio rnewn ffedog dilû ; ac yr oedd twll lled fawr yn ei wddf o'r tu ol. Yr oedd wedi eael ei roddi yn ymyl y clawdd, a rhes o geryg anferth ar ei hoîl gorü' ond ei ddau droed. Y mae ymchwiliadau yn cael eu gwneyd am y fam galon-galed, ond nid ydys wedi ei chael eto ; oud y mae yn debyg y daw i'r goleu. ' 1. J. Parry. Ailgymeryd yr Ardystiad, neu y gwr afradlon a'r wraig serchog. —Dynesai dyn teneu, gwelw, a hagar yrymddangosiad aruo, at ybwrdd ag yr eisteddai cofiadur y gymdeithas wrtho, a go- fynodd iddo os deuai ei Barchedigaeth i mewn yn fuan. Yr oedd dynes ieuangc brydweddol, heb fawr am daui, ond hollol làn, yn edrych dros ei ysgwydd pan y gofynodd y gofyniad. ' Yr wyf fi yn meâdwl i mieich gweled chwi o'r blaeu, ẁr da,' meddai y cofiadur; ' a hyny nid llawer o wythnosau yn ol.' 'Yr oedd hwnw yn fwy tebyg i'w frawd ef, syr, oedd yn wir,' atebai gwraitr y dyn hagar, gan ymostwng, a dynesu ychydig o flâen ei gŵr. Yntau a'ihattaliodd :' Na threiwch fy nghudd- io i, Nelly, da lodes, peidiwch. Duw a ŵyr, Nelly, nid wyf yn teilyngu hyn oddi wrthych. Gwelwcb, foneddigion, fel y curais hi neithiwr ar ei dwy fraich : y fath anifa'l oeddwn.' ' Nid chwi wnaeth f anwylyd," meddaiy ddyn- es ieuangc, gan dynu ei shawl yndynach dros ei breichiau briwedig: nerth y gwirod a wnaeth hyny, ac nid eíe ei hunan. Y mae ef yn ddyn mor dawel ag un yn ninas Cork, pan ỳn sobr, ac yn gystal gweithiwr; ac ni niweidiâi flewyn o'm pen, oni bae ei fod yn feddw !' Attaliwyd apeliad serchog y creadur tlawd o blaid ei gŵr afradlon gan y cofiadur, yr hwn a ddymunai wybod os oedd wedi cymeryd yr ar- dystiad o'r blaen. ' Do, syr!—Safrtch yn ol, Nelly, ac na threi- wch fynghuddioi—Daethym yma a chymerais ef gan Tad Macleod: a Duw a faddeuo i mi, myfi a'i torais hefyd. Myfi a'i torais neithiwr, neu yn hytrach trwy y dydd ddoe, a— ' Naofalwch am ddywedyd dim chwaneg yn nghylch y peth, James anwyl,' meddai ei wraig ar fiys,' na ofalwch am ddywedyd dim chwan- egyn nghylch y peth. Gaíl dyii gael ei oddi- weddyd unwaith, a gwneyd cristion da ar ol y ewbl. Ni ddanfonech ef' oddi wrth liniau yr Offeiriad, syr, o herwydd iddo ei dori unwaith ! tra, fel y dywedais o'r blaen, mai ei frawd oedd yn y drwg, ac nid efe, ond yn unig er mwyn cwmni.' ' Nid oedd genyf galon i ddyfodboreu heddyw, oni buasai h','meddai y gŵr: ' yr oedd hi yn cofio clywed ei Barchedigaeth yn pregethu yn nghylch fod mwy o lawenydd yn y nefoedd am un tebyg i mi, n'ag am gant ond un o ddynion da. ()*! pe byddai iddi ond gadael i mi dd'weyd am ddrygioni f'y mywyd ag sydd wedi myned heibio, a'r pechod a'r gwaithagsydd wedi fy nylyn—' ' Y ddiod oedd yr achos, James ; y ddiod oedd yr achos,' ad-íldywedai y wraig yn ddifrif- ol: ' peidiwch â phoeni eich hunan ; oblegid nid oedd dim ond y ddiod. Yn si wr, tra yn sobr, nid oes gŵr mwy serchog, na thad mwy tyner, ar dir yr Iwerddon. Ac yn awr chwi fyddwch yn ffyd'dlon i'r ardystiad, a dedwydd a fyddwn, a llwyddianus; oblegid dywedodd y meistr wrthyf fi, y boreu bendigedig hwn, pe gallai ymddibynu arnoch am sobrrwydd, yr enillech bum swllt ar ugain yr wythnos, a chaech y gair da o fod yn ddyn dydd Llun ; ac e fyddwch, James, e fyddwch, erfy mwyn i, ac er mwyn y plant gartref.' ' Je.'meddai yntau.'ac er mwyn y fam dor- calonusag a'm hymddygodd ; ac er mwyn Marv fach ag a wnaethym yn anafus, tra mewn diod. O! pan y mae edrychiad siriol y baban hyny ar- naf,—ei hedrychiad siriol ac amyneddgar,— yr wyf yn meddwl na all pyrth y '.ìefoedd byth gaeì ei hagor i'r fath bechadur!' Tra yn gwneyd y cyffesiad yma, ei freichiau a ymollyngent yn ddiallu wrth ei ystlysau ; a'i wyneb llwyd a ymestynai i agwedddiad o drueni digymhorth, anobeìthiol, ae anadferadwy. Troai y wraig ymaith, ac ymollyngai i ddagrau. Arwyddai llawer un gydymdeimlad byw y natur Wyddelig ; oblegid crynent, a dywedent, gan sibrwd, ' Yr Arglwydd 'fyddo rhyngom aniwaid, ac edryched i lawr arnynt ill dau.' Y* wraig oedd y gyntaf i ymadfer í ymwybodolrwydd : jm cael ei chymhell gan ruthr disymwth o deitri- ad, hi a dafiai ei breichiau briwedig o am- gyîch gwddf ei gŵr, gan ei alw ato ei hunau trwy yr holl ymadroddion üwyddelig o serch. Nis'g'allwn byth anngholio y difrifoldeb trist gyda'r hwn y'cymerai y dyn annedwydd yr ar- dystiad ; ei wraig anwylai'ld a mwynaidd fel y safai yn ei ymyl, neu yf adsain ddifrifol addeill- iai oddi wrth ugeiniau o leisiau, ' O, ynte, Duw a'ch cryfhao i'w gadw!'— Ireland: itì Scenery, Character, 8$c, by Mr. and Mrs. S. C. Hall. Pabyddiacth yn Rhiifain.—Ar y 14eg o lonawr diweddaf, anfonodd y Cardinal Patrizx.i, yr hwn yw FicarCYfl'redinol eglwys lthufain, yr hysbys- iantcanlynol at bobl líhufain: 'Y mae nid ychydig ò bersonau, hynod am eu duwioldeb, wed'i deisyf arnom gyda gweddiau taerion am i nì roddi caniatâd i gael gwyl ddifrifol o norena, (gwasanaeth am naw o ddyddiau,) yn eglwys y Jesuitiaid, mewn trefn i ddeisyf gan yr Hollall- uog Dduw, yr ymledaeniad helaethach a'r cy- nydd gogoneddus o'r ffydd Gatholig yn Lloegr. Y mae y Tad Santaidd nid yn unig wedi gwran- daw yn foddhaol ar y deisyfiad duwiol hwu, ond, yn mhellach, y mae wedi darparu i'r holl ffydd- loniaid, y rhai a gymerant ran weithgar yn y ddefod, ryddhâd-faddeuant ranol am dri chant o ddyddiau ambob ymweliad.arhyddhâd-faddeu- ant llawn i'r rhai hyny ag a fyddant bresenol yn y novena bum waith o leiaf; y mae yn cael ei ddeall, fod i'r cyfryw bersonau, ar yr un pryd, ddyfod at y gyfl'es-faingc a swper yr Arglwydd. Y mae y ddei'od hon o naw diwrnod i dd<>chreu am unarddeg o'r gloch yn y boreu, yr 17eg o'r mis hnn [ChwefrorJ yn yr eglwys rag-ddywed- edig. Pa un a wnewch, ai edrych, fy mrod- yr cristionogol, aryr amcan cyntaf a gogonedd- us o blaid yr hwn y mae y gweddiau cyhoeddus hyni gael eu hoffrymu i'r Hollalluog, ai ynte a ystyriwch y budd o'r rhyddhâd-faddeuantsant- aidd yma.trwy ba un y gaìlwn fjrhau y gosped- igaetíi ddyledus am einpechodau,—rhaid i chwi yn y naill achos a'r lla.ll, yn mhob modd, hyd eittìaf eich gallu, gymeryd'y mater at eich sylw, a chymeryd rhan y'n yr ymàrferiad duwiol hwn, trwy weddio ar Roddẃr pob daioni, a Thad pob trugaredd, ar fod iddo Ef dywallt ar eu teyrnas a'i thrigolion Ei oleuni, a'r doniauhyny o ras, er cyraedd pa rai ein gweddiau ni yn unig sydd yn effeithiol!' Fel hyn, gwelwn fod dychweliad Lloegr oddi- wrth Brotestaniaeth at Babyddiaeth o bwys dir- fawr yn ngolwg y Pabyddion. Y mae eu llygaid ar Gymru ; a rhoddwyd ni ar ddaellfod dau Off- eiriad Pabaidd wedi dyfod i Aberystwyth,—eu bod wedi cymeryd tŷ mawr a phrydferth yno,— a'u bod yn cynyg addysg rhad i gvnifer o blant ag a anfonir iddynt. GWY LIWCH. Pla y Colera.—Y mae yn wirionedd dychryn- llyd fod y Colera yn dynesu atom eto. Y mae yn ymledu o Asia, ac y mae eisioes wedi dyfod tros y terfyn Rwsiaidd. Y mae genym ychydig o amser i ystyried beth a allwn wneyd er pen iddo fod mor ddiniwaid ag y byddo modd, os bydd iddo ymweled â ni, fel y mae yn debygol mewn ychydig fisoedd. Byddai yn ddoethach ynom i ddechreu cadw ein tai a'n personau yn Ìân.iddiogeluein hiechyd cyffredin trwy ymborth iachus a chymedrol.nag oedi y rhagbarotoadau hyn hyd nes bydd y pla wedi dyfod i'n plith. LLANIDLOES: A ARGllAFFWYP OAN' J. M, JONES.