Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

254 NEWYDDION. lle, gofynodd gwraig y tỳ iddo ychydig holiadau,' ac yn mhen ychydig,' ebai efe, 'dymunai wybod a gawswn i ddysgeidiaeth dda.' Mi a ddywedais wrthi fy mod wedi cael digon o addysg i fyned trwy y byd ' Yn fuan wedi hyny, gofynwyd yr un cwest- iwn iddo gan un o brif ddynion y dref. a mynai wybod cyn y rhoddai ganiatâd i Mr. Lee i bregethu yn y Liys-dỳ, i'r hwn yr atebodd, ' Nid oes genyf ddim i ym- fFrostio ynddo, er fod genyf ddigon o addysg i fyned trwy y byd.' Bryd arall daeth cyfreithiwr ieuangc, gyda bwriad i ddyrysu Mr. Lee, ac a i cyfarchodd yn Lladin. ac yntau a'i hatebodd yn Almaen- aeg—iaith nad oedd y cyfreithiwr na'i gyf- eillion yn ei deall. ' Dyna ' meddai gẁr boneddig ag oedd yn gw}bod am fwriad y cyfreithiwr, ' atebodd y pregethwr chwi yn yr Hebraeg, a chan hyny rhaid ei fod yn ŵr dysgedig.' Rhoddodd hyn daw ar ei hoiiadau, a rhoddodd i Mr. Lee eithaf mantais arnynt.—A History of the Meth odist Episcopal Church: By Nathan Bangs, D. D. Vol. ì., p. 317. Ateb ffraeth yrhen ŵr áuwiol.—Dywed ai llengcyn coegfalch ac afradlou uuwaith wrth hen ŵr duwiol a difrifol a elai heibio iddo yn droednoeth, ' Hen ŵr, yr ydych mewn cyflwr truenus iawn osnad oes bjd ar ol hwn.' ' Gwir,' ebai yr hen ẁr, ' ond atolwg, gyfaill, pa beth f'ydd dy gyflwr di os oes byd aralll' Chv:edl Iuddeicig. — Ye\ yr oedd Abra- ham yn eistedd unwaith wrth ddrws ei babell, yn ol ei arfer, gan ddysgwyl i roes- awi dyeithriaid, efe a welai hen ŵr can mlwydd oed yn dyfod tuag ato, yn gwar- grymu, gan bwyso ar ei ffon, ac wedi blino ar ei daith. Efe a'i derbyniodd yn dirion, golchodd ei draed ef, darparodd iddo swp er, a gwnaeth iddo eistedd : ond gan sylwi fod yr hen ŵr yn bwyta heb weddio, ac heb ofyn bendith ar ei fwyd, efe a ofynodd iddo paham nad addolai Dduw y nefoedd. Atebodd yr hen ŵr mai y tâu yn unig a addolai ef, ac nad oedd yn cydnabod un Duw arall. Wrth glywed y fath ateb aeth Abraham mor s?log ddigofus, fel y parodd i'r hen ŵr fyned allan yn uuion o'r babell, gan ei adael yn agored i holl beryglon y nos. Pan oedd yr hen ŵr wedi ymadael, galwodd Duw ar Abraham, a gofynodd iddo pa le yr oedd y dyeithrddyn : yntau a atebodd, ' Myfi a'i bwriais ymaith, oblegid nad oedd yn dy addoli di.' Duw a'i hatebodd, ' Yr wyf fi wedi cyd ddwyn ág ef am gan mlynedd, er ei fod yn fy ni- anrhydeddu ; ac oni ellit ti gyd-ddwyn âg ef am un noswaith, pryd na roddai i ti un- rhyw drafferth1?' Ar hyn, medd y chwedl, aeth Abraham i'w geisio yn ol, rhoddes iddodderbyniad croesawus, adoethaddysg- iadau.—J er. Taylor. Henaint yn teilyngu parch.—Y mae henaint, pan wedi ei gyraedd yn ffordd doethineb a rhinwedd, yn teilyngu parch ac anrhydedd cyffredinol, gan fod yr heu mewn daioni a duwioldeb wedi cael eu hynodi trwy sefyll yn ngwyneb treial mawrbywyd, a rhodio yn ffordd rhinwedd am fiynyddau o ymosodiad temtasiynau. Dichon fod yr icuaingc yn addaw ac yn gobeithio yn dêg, ond yr hen ydynt wedi eu santeiddio trwy ymarferiad ; ac nid oes neb ond naill ai yr anwybodus neu y drjgionus a all ddirmygu y tymor hwnw yn mywyd dynag y mae Duwwedi ei nodi gynifer o weithiau à ffafr neillduol, 'ie, y tymor hwnw ag sydd wedi cael ei addaw lawer gwaith trwy enau y proffwydi fel gwobr tymorol y cyfìawn a'r duwiol. Y doeth bob amser a anrhydedda henaint, y ffol yn unig a'i dirmyga, Poblogaeth y byd.—Tybir fod naw car.t a thriugain o filiwnau o fodau dynol yn preswjlio ar wyneb y ddaear. Dywedir fod Ewrop yu cyuwys o hyn gant a thriarddeg a deugaiu o filiwnau ; Affrica, gant ac unarbymtheg a deugain o filiwn- au; Asia, bum can miliwn; America, cant a deg a deugain o filiwnau; ac ynys- oedd y Môr Tawel, saith miliwn. Pe rhenid y rhai hyn i ddeg dosbarth ar ugain cyfartal, ceid pump o honynt yn Gristion- ogion, chwcch yn Eahometaniaid, un yn Iuddewon, adeuuawyn Baganiaid. Crist- ionogion ydjnt luosog yn Ewrop ac America: ceir rhai o honynt yn ueheubarth Asia,acychydigyn Affrica. Mahometaniaid ydynt luosog yn Asia, Affrica, a pharth deheu-ddwyreiuiol Ewrop. Paganiaid ydynt luosog iawn yn Affrica, ac yn y parthau mewnol o America; ceir rhai yn Asia, ac ychydig nifer yn ngogledd barth Ewrop. Dyguyddi'id angeuol dychrynllyd.— Dygwyddodd amgylchiad trallodus iawn yn Kensington, ar foieu dydd Sadwrn, yr hyn a brofodd yn angeuol i un o'r enw Geoige E. beît Ward, cyfreitliiwr, oddeutu deugain mlwydd oed. Ymddengys fod y boneddwr hwn wedi bod ar ymweliad yn nhŷ ei frawd, y Dr. Ogier Ward, yn Ken- sington, a'i fod wedi cael ei daraw yno â chlefyd yr ymenydd. Ar foreu y Sadwrn rhag-grybwylledig bwiiodd y boneddwr anffudus ei hunan allan tiwy ffeiestr ys- tafell ei wely, a s^ithiodd gyda'r fath rvm ar y railings o fiaen y tŷ, fel yr aeth eu blaeoau i mewn i'w goiff. Aetb un trwy ei forddwyd, ac un arall i mewn i'w gorff. Gyda ilaver o anhawsder y rhyddhäwyd ef; ac er iddo gael pob cynorthwyon meddygol, eto y fath oedd ei archollion dwfn fel y te fynasant mewn marwolaeth iddo oddeutu awr wedi hyny. Taith yr hen wraiy.—Ychydig ddydd- iau ynol cerddodd ben wraig o'r enw Jane Culliford, 108 mlwydd oed, o Yeovil Marsh i Taunton, dwy filldir o ffordd. Hen tcraig yn cael ei lladd ganfmoch.—