Skip to main content

226 BUCHEDniAETH. ai efe un amser wrth ymadroddi; ac nid attal y gwirionedd mewn annghyfiawnder, eithr efe a ddywedai y gwir. Yrydoeddyn ŵr tangnefeddus hefyd. Yr oedd ef yndangnefeddwr fel penteulu. Ni fyddai byth ymryson nac annghydfod yn ei deulu. Llywodraethai ei deulu ei hun yn dda, Talai pawh o'idylwyth, o'r henaf hyd yr ieuangaf, ufudd-dod a pharch dyledus iddo ; ac felly trigai tawel- wch yn ei luest, a theyrnasai tangnefedd dros ei holl dŷ. Fel cymydog, ac íel gwladwr hefyd, yr oedd efe, hyd yr oedd ynddo, yn heddychlon â phob dyn. Ni wnai gam â neb ar air, mwy nag ar weithred. Ni chai hustungiaeth byth )e yn ei ymadroddion. Ymwrthodai âg ath- rod fel ysgymun-beth andwyol. Nis gallai oddef enllib na gwawdiaith. Medrai son am ei gyd ddynion bob amser ' heb ab- senu â'i dafod,' ac 'heb wneuthur drwg i'w gymydog.' Yr oedd ef yn nodedig o ffyddlon meun ymarferiad ofoddion gras.—Cydnabyddai pawb, crefyddoi adigrefydd, fod William Sumners yn ffyddlon yn hyny tu hwnt i'r cyffredin. Er fod ganddo dair milldir o ffordd i fyned at ei waith bob dydd, ac y byddai wediteithiochwe milldir a gweith- io ei ddiwrnod gwaith erbyn pob nos Lun a phob nos Iau, fel nosweithiau ereill, eto byddai efe yn sicr o fod at yr arnser yn ei glass nos Lun, ac yn un o'r rhai cyntaf yn y bregeth nos Ian, bob wythnos. Ar y Sabboth ynte ni chai un math o dywydd, nac ychydig o afiecbyd,ei attal i dŷ Dduw, o'r boreu hyd yrhwyr; a byddai raid i bawb o'i deulu fyned hefyd. Os dywedai ei wraig, pan yn lled afiach, ei bod yn meddwl nas gallai fyned i'r cwrdd y tro hwnw, dy weJai yntau, 'Paid dithau è myn- ed i'r farchnad ynte y tro nesaf. Pa beth a ddywed y bobl wrth dy weled yn myned i'r dref i'r farchnad, ac heb fyned yno i'r addoliad?' Yr oeád ganddo batch rnawr i ddydd yr Arylwydd.—Cyfrifai y Sabboth yn byf- rydwch, a sant yr Arglwydd yn ogonedd- us. Efe a gyfodai yn foreu ar y dydd sant- aidd at waith ei Arglwydd, a byddai yn ddiwyd ynddo hyd yr hwyr. Pan ofynai neb o'i deulu pa ham y cyfodai mor foreu y dydd hwnw, dywedai yotau, 'Y mae gwaith mawr i'w wneyd heddyw.' Ni chai neb o fewn ei dŷ wneuthur gorchwyl cyffredin ar ddydd yr Arglwydd. Mynych y dy wedai wrthynt,' Nawnewch y Sabhoth yn was bach i ildydd au yr wytìmos.' YTr oedd ef yn ddyfal iawn mewn ymar- feriadogrefydddeuluaidd.-N\à esseulusai byth addoli Duw wrth yr all r de»luaidd foreu a hwyr. Ac nid hyny yn unig ; ond efe a ymddyddanai am y bregeth a glywid, neu am y bennod a ddarllenid ; ac a yni- drechai wasgu ar feddyüau ei wraiga'î blanty gwirioneddau a glywsent, er eu haddysg a'u cadwedigaeth. Yroedd gan- ddo lawer o blant; ac fel y tyfent i fyny, gadawent dŷ eu tad o un i un, i fyned i wasanaethu. Ond ni ollyngai neb o h»n- ynt byth i fyned oddi cartref heb yn gyntaf eu cynghori yn ddwys i geisio yr Ar- glwydd, i ofni Duw, ac i gilio oddi wrth ddrygioni. Yn y diwedd dywedai, ' Yr wyf wedi gweddio llawer ar yr Arglwydd yn eìch achos, am i mi allu dywedyd yn y dydd olaf, "Wele fi, a'r plant a roddes Duw i mi." O, gadewwch i mi gael dywed- yd felly !' Gyda bodgwrthddrych y cofianthwn yn addoli yr Arglwydd yn y gynulleidfa fawr, ac yn ei deulu gartref, yr oedd ef hefyd yn hoffi * nesau at Dduw ' mewn dirgelfanau. Mynych y coffaai am y dedwyddwch an- nhraethol a gawsai lawer gwaith ar hyd y ffordd o'r 'Coleç i Gwar Pen-y-geulan,' sefo'idŷatei waith. Yroedd ei biofiad crefyddol bob amser yn oleu, yn efengyl- aid.l, a chyfoethog. A byddai bob amser yn barod i ganmol Duw am ei ddaioni an- nhraethol tuag ato, gan gydnabod ei wael- edd a'i annheilyngdod ei hun ; er hyny yn penderfynu yn ngrym gras i wasan- aethu ei Arglwydd yn ffyddlon hyd angeu. Mynych y clywidefyn coffau yn ei restr am y bregeth neu y pregethau a glywsai y Sabboth blaenorol, gan adrodd hefyd am y budd a gawsai wrth fyfyrio arnynt ar y ffordd; wrth yr hyn y gwelid ei fod yn dal ar y pethau a glywai am yr ' iachawd- wriaeth gymaint,' rhag un amser eu goll- wng hwynt i golli. Diau y gallasai fab- wysiadu geiriau y Salmydd gyda llawer o briodoldeb, ' Mor gu genyf dy gyfraith dil hi yw fy myfyrdod beunydd.' Yr oedd efyn grefyddwr cyson a diym'