Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

242 AMRYWIAETH. a ddirmygodd ei Wneuthurwr, a ail-groes- hoeliodd Arglwydd y gogoniant, ac a ddi- fenwodd Ysbryd y gras! yn awr wedi ei ddwyn ger bron ei Dduw digiedig a gogon- eddus, yr hwn sydd yn gwybod am yr holl bechodau a gyflawnodd !—Y mae yn sefyll yna, heb un esgus i'w ddadlu, nac un gorchudd i guddio ei euogrwydd. Pa beth na roddai yn awr am ran yn yriawn a ddibrisiodd, a wrthododd, ac a ddirmyg- odd yn y byd hwnl yn yr eiriolaeth yna arbaunna weithredodd ei feddwlerioed yn briodol 1 ac am yr iachawdwriaeth yna, yr hon ond odidnad oedd deilwng o weddi i'r dyben o'imwynhaul ond yn awry mae gweniadau gwaredigol, maddeuol, a sant- eiddiol gariad,wedi eu cyfnewid i nerthoedd barnwr digiedig ac annghymodlon. Nid yw llais peraidd trugaredd yn adseinio nawy ar ei glybon, a phob gobaith am faddeuant wedi diflanu yr ochr hyn i'r bedd. Yn chwanegol at y farn y mae yn ym- agor o'i flaen eithafion annherfynol tra- gwyddoldeb. Byw sydd raid iddo ; marw nis gall. Ond yn mha le ? pa fodd ? gyda phwy y mae i fyw? Ei breswylfod bythol ydyw y byd o dywyllwch, o ofidiau, ac anobaith. Pechod, anniweddol bechod, a chynyddol bechod, ydyw ei gymeriad dy- chrynllyd, a phechaduriaid fel efeihun ydynt ei gymdeithion tragwyddol. Yn unigol yn mhlith myrddiynau, wedi ei am- gylchynu â gelynion, hcb gyfail), heb gy- sur, ac heb obaith, y mae yn dyrchafu ei olygon, ac mewn anobaith dwfn yn cymer- yd ardremiant gorbruddaidd ar y gororau anfeidrol o'i amgylch, ond heb gael dim i leddfu ei ofnau, dim i gynal ei feddwl suddedig, na dim i leihau ingau ei galon doredig. Mewn rhyw ardaloedd peìlenig draw y mae yn car.fod Uewyrchiadau gwanaidd Haul Cyfiawnder, ond byth mwyach i dywjnu amo ef'. a rhyw swn egwan trengedig o fawl caniadau tragwyddol y gynulleidfa fawr, eglwys y cyntafanedig, yn ysgwyd ar ei glustiau mewn modd dir- boenawl, yn adgofio iddo y bendithion y gallasai yntau gyfranogi o honynt, ond iddo yn ewyllysgar eu bwrw ymaith. Mewn gweledigaethau tywyll aphellenig y mae yn cael cipolwg ar y nefoedd, y fan lle mae lluoedd o'i hen gyfeillion a'i gym- deithion blaenorol yn byw, pa rai yn y byd hwn oeddent yn caru Duw, yn credu yn y Gwaredwr, ac mewn amynedd yn parbau i wneuthur daioni, a geisiasant ogon- iant, anrhydedd,ac anfarwoldeb ;—ac yn eu plith efallai ei serchogriaint ei hun, pa rai, tra yn y byd isod hwn, a'i cyflwynasant ef i drugaredd Duw, ac i gariad eu Gwaredwr Dwyfol eu hunain,gyda mil o ocheneidiau, gweddiau, a dagrau. Ei blant hefyd, a phriod ei fynwes, a ragflaenodd, oeddent, fe allai yn serchog aros wrth byrth gogon- iant, mewn dysgwyliad awyddus am ei weled ef, yr hwn unwaith a garwyd mor fawr, yn ail ymuno gyda hwy i gyfranogi o'r tragwyddol lawenydd ; ond y maent wedi aros a dysgwyl yn ofer. Yn awr y mae y Uen wedi ei thynu, ac eithafion aruthrol wedi ymagor ger ei fron. Y mae natur, wedi hir ddihoeni, yn suddo dan wasgfeuon cystudd, gofid, ac anobaith. Y mae ei olygon yn pylu, ei glybon yntrymhau, ei galon yn annghofio curo, a'i ysbryd hwyrfrydig, brawychus, a synedig, yn ymgydio wrth fywyd, ac mewn ymdrech i gadw ei breswylfod daearol, ond yn caelei wthio gan law anweledig ac anfeidrol, a'i drosglwyddo yn anwrthwyn- ebol i'r eigion anweledig. Yn unigol ac heb gyfaill mae yu dyrchafu at Dduw i gael gweled ei holl bechodau wedi eu trefnu o flaen ei lygaid, gyda chyfrif arswydus a dychrynllyd o fywyd wedi ei dreulio mewn pechod, heb un weithred grefyddol, na charedigrwydd calonog tuag at ddynion ; heb obaith yn Nghrist, na gofid oblegid ei droseddau, mae yn cael ei fwrw allan fel yn hollol ddrygionus ac anfuddiol i dir tywyllwch a chysgod angeu.yno i ddirwyn ei daith athristtrwy ardaloedd gofid ac an- obaith, i oesoedd annherfynol, gan gymer- yd i fyny y galarnad trwm a thrallodus,— ' Y cynauaf a aeth heibio, darfu yr haf, ond nid ydwyf fi gadwedig.'—Dwight. Cyf. T. T. t. t. ERLíDIGAETH YN YR IWERDDON. Mr. Gol.,—Cyfieithais a ganlyn o lyfr a wnaed ar ddrygau llid a digofaint, gan y Parch. John Fawcett, A.C., Breanley Hall, ger Halifax, yn 17S8. Yr wyf yn meddwl fod y ddau ddernyn a gyfieithais o'r cyfryw lyfr yn briodol iawn i'r amser presenol, A fyddwch chwi mor fwyn a