Skip to main content

AMRYWIAETH. 237 wrangon ( Woreester), lle y deisyfodd gan- iatâd gan un o'r Cuwradiaid i bregethu yn un o eglwysi y ddinas hòno. Ni allai y Cuwrad roddi caniatâd iddo heb yn gyntaf ymgynghori ûg Esgob y lle. Aeth Arches- gob Usher gydag ef, a chafodd ei ddwyn i bresenoldeb yr Esgob, yr hwn, heb ofyn iddo eistedil i lawr, a roddodd iddo ganiat- àd mewn dull pur ddirmygus, wedi iddo ei feio fel teithiwr. Pregethodd Usher y boreu hwnw heb Iyfr, i gynulleidfa fawr, y rhai oeddent wedi teimlo cymaint fel nad oedd braidd lygad sych jn yr holl gynulleidfa. Yn y prydnawn, ymagorodd y fath faterion newyddion iddo fel y cafodd ei bregeth yr un effaith ag o'r blaen ar ei wrandawwyr. Ni chai yr Esgob ond cyuulleidfa deneu, a chan glywed am effaith pregeth Usher, efe a chwerwodd i'r fath radd, fel yr an- fonodd am y teithiwr, ac wedi llawer o iaith anfoneddigaidd, a berodd iddo fyned i'w blwyf ei hun. Yr oedd yr Esgob wedi gadael i'w dymher boeth gael yr or- uchafiaeth ar reswm, fel ag i weithredu oddiar amheuaeth noeth, heb ymofyn am gartref ac amgylchiadau ereill ei ymgeis- ydd; ond wedi iddo roddi barn galed arno, cymerodd yr ymddyddan caulynol le :— Esgob.— 'Beth yw eich enw?' ' James,' meddai yr Archesgob. ' James bethl' gofynai yr Esgob yn arw. Archesgob.—' James Usher, o'r Iw- erddon.' Esgob.—« Beth ! ai Archesgob Armagh, a Phenesgob holl Iwerddon sydd genyf o daafynghronglwyd! Atolwg,fy Arglwydd, eisteddwch ; gwnewch, fy Arglwydd ; yr wyfyncrefu ar eich Arglwyddiaeth gy- meryd gwely gyda mi heno, ac yn deisyf arnoch gymeryd gwydraid o win.' Archesgob.—« Na wnaf: pan yr ym- ddangosais fel dylynwr addfwyn gos- tyngedig yr Iesu bendigedig, chwi a'm dirmygasoch; ond yn awr, wedi i chwi ganfod mai Archesgob Armagh ydwyf, yr ydych yn ymddwyn yn barchus tuag ataf. Na; ni fwytàf fi fara, ac nid yfaf ddwfr gyda chwi, ond mi a ysgydwaf y llwch oddi wrth fy nhraed yn dystiolaeth i'ch er- byn!' Yrocdd yr Esgob erbyn hyn wedi dy- chrynu, a chan ymgynghori à'r Esgobion ereill, hwy a roisant o flaen y Brenin yr anmhriodoldeb i'r Archesgob Usherdeithio yn y dull yr oedd, gan ddeisyf arno beri iddo fyned adref. Y Brenin, yr hwn oedd ganddo dyb fawr o dalentau Usher, a hollol nacaodd wneyd. Yr Esgobion, gyda bwriadau i gywilyddio Usher, a fyn- asant ganiatâd iddo bregethu yn y capel breninol, ac yr oedd Archesgob Caer- grawnt i ddewis testyn, a'i roddi iddo yn ebrwydd ar ei fynediad i*r pwlpit; felly efe a roddodd iddo y geiriau canlynol; « Y cochl a adewais i yn Troas gyda Charpus, pan ddelych, dwg gyda thi, a'r llyfrau, yn enwedig y memrwn,' 2 Tim. iv. 13. Gorchymyn oedd hwn oddi wrth wneuth- urwr pebyll i Esgob Ephesus, prif-ddinas holl Asia. Yn wrthwyneb i ddysgwyliad y cynllwynwyr, triniodd Usher y pwngc yn y dull mwyaf annghyffredin, ac a dynodd yn y lliwiau tecaf y gwahaniaeth rhwng yr Esgobion gynt a'r rhai presenol;—y cyntaf mor ostyngedig a siamplaidd, a'r olaf mor feilchion a meistrolgar. Yr oedd y sylwadau a wnaeth, yn cael eu cefnogi gan ei ymddygiad addfwyn a gostyngedig ei hun, yn ei osod yn y golj'giad hawdd- garaf o flaen ei wrandawwyr; tra yr oedd Esgob Caerwrangon a'i ymlynwyr wedi eu hollol a'u cyfiawn gywilyddio.—O'r ' lrish FrieìidJ' DYLEDSWYDD DIACONIAID NEU FLAENORIAID CYMDEITHASAU CREFYDDOL. A gymerwyd o Gofnodau Cymdeithasfa y Me- tiiodistiaid Calfinaidd yn y Drefnewydd.— Trysorfa Mai, 1846. MAEsefydliad y swydd yn dangos yn am- lwg fod a wnelo y diaconiaid â phethau arianol yr achos. Ar y cyntaf yr oedd yr apostolion yn gwneuthur y cwbl; yr oeddent yn golygu y casgliadau yn gystal ag yn pregethu; ond yr oedd y dysgyblion yn lluosogi, yr oeddent yn methu cael hamdden i edrych yn fanwl ar ol pob peth, ac aeth rhyw rai i rwgnach nad oedd pethau yn iawn yn nosbarthiad yr arian. (Y mae y pwngc hwn yn para i beri dyryswch mewn manau hyd heddyw.) 'Wel,' meddai yr apostolion, ' nid yw gy- mesur i ni adael gair Duw, a gwasanaethu. byrddau.' Ac felly gosodwyd dynion yn swyddwj r o bwrpas i edrj ch ar ol cyfran-