Skip to main content

AMRYWIAETH. 233 arall yn dywedyd y buasaiyn cael ei gyfrif gyda'r rhai anwir, ond yn cael ei gladdu yn medd gŵr cyfoethog. Bod y fath debygolrwydd rhwng y dychymyg (os dy- chymyg yw) a'r ffaith a fyddai tu hwnt i bob peth rhyfeddol a grybwyllir yn holl lyfr Duw. Ac y mae yr un sylwadau yn gwbl mor addas i'r proffwydoliaethau a lefarwyd gan Iesu Grist, naill ai am ei ddyoddefaint ei hunan, neu ynte am anrheithiad y wlad- wriaeth Iuddewig. Yr oedd yn annichon- adwy iddo allu darlunio y naill neu y llall mor gywir os nad oedd ei feddwl o dan oleuní dwyfol. Gan hyny rhaid i middy- benu, gan gwbl gredu mai gwir broffwyd- oliaethau a lefarwyd ac a gyfiawnwyd i'r manylrwydd eithaf. A rhaid i mi wneuthur y casgliad hyny, fod y gyfundraeth o blaid yr hon y llefarwyd hwynt yn ddwyfol : nid allaf wneuthur yn rhesyraol unrhyw gasgliadau ereill. (I barhau.) CYFEILIORMADAU Y GREFYDD BAB- AIDD YN CAEL EU DYNOETHI. PEN. VI. Dywed y Pabyddion fod gan y Pab aiedurdùd dros Freninoedd i'w hesgymuno a'u diorseddu —y gall ereill trwy ei awdurdod wrthwynebu tywysogion, ac y gall ryddhau deiliaid oddi tcrth ffyddlondeb i'r Uywodraeth y maent oddi- tani—ac nad ydyio swyddwyr eglwtjsig i'w barnu mewn llysoedd gioladol, pa drosedd byn- ag a wnant, gan nad oes a wnelo deddf wlad- ol a hioynt.—The 3 General Council of Later- an, Cap. 27 and 14; thc 4 of Lateran, Can. 3 de Hereticis ; and Can. 43, Cuuncil of Lions, Ann. 1245; Council of Constance, Sess. 17; Coun- cil of Trent, Decret de Reformat. Cap. 12. Ni bydd i mi ymhelaethu ar amrywiol fa- terion y bennod hon, ond yn unig nodi ych- ydig o adranau ysgrythyrol, ac yna gwel y darllenydd gyfeiliornad yr honiadau. ' Ymddarostynged pob enaìd i'r awdurdod- au goruchel,' Rhuf. xiii. 1, 2.—Dyma or- chymyn cyffredinol, heb yr eithriad lleiaf. 4 Am hyny pwy bynag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod sydd yn gwrthwynebu ordinhâd Duio ; a'r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth fwy.' Oddi wrth hyn ni a welwn nad oes unrhyw awdur- dod yn y byd a ddichon ryddhau deiliaid Hywodraeth oddi wrth rwymedigaeth i ufuddhau, oddigerth fod y gorchymyn yn groes i reolau y Beibl. ' Ymddarostyng- wch oblegid hyn i bob dynol ordinhâd, o 2 H herwydd yr Arglwydd : pa un bynag ai i'r brenin megys goruchaf, ai i'rllywiawd- wyr megys trwyddo ef wedi eu danfon, er dial ar y drwgweithredwyr, a mawl i'r gweithredwyr da,' 1 Pedrii. 13, 14. Nod- er, nid ydyw Pedr yn dywedyd yma, « Ym- ostyngwch i mi fel prif ben yr eglwys;' ac ni ddywed chwaith, ' Ymostyngwch o bryd i bryd i brif esgob Rhufain,' ond i'r 1 bretün, megys goruchaf.' Anmhosibl ydoedd gosod allan y ddyledswydd mewn geiriau mwy amlwg; a chan fod y gor- chymyn yn gyffredinol, y mae mor rhwym- edig ar swyddwyr eglwysig ag ar neb arall. Yn chwanegol at hyn gallwn nodi geiriau Paul, ' Dwg ar gof iddynt fod yn ddarostyngedig i'rtywysogaethau&'r awd- urdodau,' &c , Tit. iii. 1. Pwy oedd y bobl y rhybuddiai Titushwyntar iddyntfod yn ufudd i'r ' tywysogaethau a'r awdurdod- au1?' Y bobl hyny trwy gyfarwyddyd Paul a roddwyd dan ofal Titus, yn mhlith pa rai y cawn hcnuriaid ac esgobion yr Eg- lwys. (Pen. i. 4, 5.) Yr oedd Aaron yn hynach na Moses, ac yn archoffeiriad, er hyny y mae yn cydnabod awdurdod Mo- ses, gan ei alw ei arglwydd. ' A dywed- odd Mosas wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod mor fawrl A dj-wedodd Aaron, Nac en- yned digofaint/y arglwydd; ti a adwaen- ost y bobl mai o'r drwg y maent,' Exod. xxxii. 21, 22. Yr oedd yr archoffeiriad gynt yn ddarostyngedig i freninoedd Israel: er angbraifft, gwel 1 Bren. ii. 26, 27 : ' Ac wrth Abiather yr offeiriad y dywedodd y brenin, Dos i Anathoth, i'th fro dy hun ; canys gŵr yn haeddu marwol- aeth ydwyt ti: ond nì laddaf ti y pryd hyn o herwydd dwyn o honfflt arch yr Arglwydd o flaen fy nhad Dafydd.' Am- ddiffynodd Paul ef ei hun o fiaen Ffelix yr hwn oedd farnydd gwladol, ond nid ydyw yn dadlu dim yn erbyn awdurdodaeth y llys. (Act. xxiv.) Wedi byny wele ef o flaen Ffestus (Act.xxv). Ynol barn yPab- yddion nid oes gan lys gwladol hawl i alw nac offeiriad na mynach (ìnonìc) i gyfrif, pa ddrwg bynag a wnant, gan mai i'r Pab (meddant) y maent yn gyfrifol. Eu credo ar y pen hwn a gawn yn y geiriau canlynol: ' F Pab ddylai fod yn farnydd yr hollfyd, ac ni ddylai gael ei farnu gan Cvr. 38.