Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

102 EGLÜRADAETH YSGRYTHYROL. mawr. Y fath gyraeddiad a sefyllfa I ddedwydd o eiddo yr apostol oeddhwnw, ! pan allasai ddywedyd, "Canysmi addysg- ! ais yn mha gyflwr bynag y byddwyf, fod '; yn foddlawn iddo ! Àc mi a fedraf yru- j ostwng, ac a fedraf ymhelaethu ; yn mhob i Ue ac yn mhob peth y'm haddysgwyd i ' fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prin- | der," Phil. iv. 11, 12. Os ymgeisiwn am gyffelyb dymher a hyn, ni'n mawrberyglir | gan y pechod o gybydd-dod. 3. Dysgwch drefnu eich achosion gyda ' bam a challineb. O herwydd diffyg rheol ! a threfn, y mae llawer â'u meddyliau mor j derfysglyd a chythryblus gydag achosion j bydol. Gadawant i'w meddyliau redeg ! i annhrefn a dyrysni, ac yna, trwy fod i llawer o bethau yn galw arnynt ar un- i waith, gwariant fwy o amser yn djfod o j hyd i'w gwaith. nag a fyddai yn angen- j rheidiol i'w wneyd ; ac wedi y cwbl, nid oes dim yn cael ei wneyd fel ag y dylai; a suddant i dlodi, er euhollfywiogrwydd a gweithgarwch. Dywed Dafydd, fod " gŵr da yn gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg ; wrth farn y llywodraetha efe ei achosion," Salm cxii. 5 ; lle y gwel- wch fod callineb abarn briodol yn cael eu cysylltu à haelioni a chymwynasgarwch. Callineb cristionogol a'n galluoga i ddy- lyn ein galwedigaethau a'nhymrwj miadau bydol, ac, ar yr un pryd, i fod yn ofalus o'n dyledswyddau tuag at Dduw a'n cy- mydogion; a gwna weithiau arwain i'r fath drefniad a gorpheniad rheolaidd o achosion, fsl y gall yr alwedigaeth eang- af a phwysicaf gael ei chario yn mlaen gydag esmwythyd, ac yn gymliarol gydag ond ychydig o dwrf a ffwdan. 4. Bwriwch eich holl o/al ar Dduw. Hyd nes y galloch wneyd hyn, ni ellir dysgwyl na fydd i feddyliau bydol eich aflonyddu a'ch anrheithio yn barhaus. Tra yr ymgymeroch i drin a rheoleiddio drosoch eich hunain, ac ystyried eicli iechyd a'ch meddianau, eich bywyd, a phobpeth, fel jn dibynu z.v eich diwyd- rwydd a'ch djfaís chwi, y mac yn naturiol i chwi deimlo llawer o bryderau gormodol a phoenus. Syndod yw na baech weith- iau wedi eich gorchfygu gan siomedig- aeth a blinder. Ond, " treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo ; ac efe a'i dwg i ben," Salni xxxvii. 5. "Treigla dy weithredoedd ar yr Ar- glwydd, a'th feddyliau a safant," Diar. xvi. 3. Ymddiriedwch iddo ef y can- lyniad o'ch holl achosion a phethau, a gadewwch iddo ef lwyddo gwaith eich dwylaw neubeidio, mewn llawn hyder y bydd i bobpeth gydweithio er eich daioni. Gwnai hyn lonyddu eich calonau. Gwnai hyn wasgaru yn effeithiol feddyliau anhy- derus, cythryblus, a chybyddlyd, a rhoi llonyddwch a thawelwch i'ch meddyliau, yr hyn nas dichon dim arall ei estyn a'i gyfranu. Am hyny, " na ofelwch am ddini: eithr yn mhob peth, mewn gweddi ac ym- bií â diolchgarwch, gwneìer eich dcisjfiad- au chwi yn hysbys ger bron Duw," Phi- lip. iv. 6. " Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mac efe yn gofalu drosoch chwi," 1 Pedr v. 7. " Gŵyr eich Tad nefol fod arnoch cisieu yr holl bethau hjn," Mat. vi. 32. " Y mae eisieu a ncwyn ar y llewod ieuaingc : ond y sawl a geisiant yr Àrglwydd, ni bydd arnynt eis- ieu dim daioni," Salm xxxiv. 10. Dar- llenwch yr ysgrythyrau yn gyson, manwl, a chofus, ac os ydych yn eu ciedu yn wir- ioneddo!, a'ch calon wedi teimlo yn bri- odol, chwi a gydunwch jn awyddus yn y weddi hôno o eiddo y Salmydd, "Gos- twng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydddra," Salmcxix. 26. * * * Llandysil. Thomas Jones, 2il. EGLURADAETH YSGRYTHYROL. -----~ŵ------ líGLURIIAD AR 2 SAM. I. 18. Mlt. ÜOLYGWU. Hynaws GYFAiLL,--Yr wyf yn meddwl y dichon fod jstjr gwahanol i'r olwg gj'- ffredin i'w gacl ar 2 Sam. i. 18.: "Dy- wedodd hefyd am ddysgu meibion Juda i saethu â bwa : wele, y mae yn ysgrifen- edig yn llyfr Iaser." Nis gallaf amgyffred pa focid yr ysgrifenwyd bioa mewn llyfr, yn ol y dywedir yn yr adnod. Ond, yn ail, yr wyf wedi darllen cyn hyn i Dafydd orchymyn i'r pencerddorion ddatganu amryw o'r hanesion a ddygwyddasant yn Israel. (Gwel deitl y Salm lix.) Athyb- ied yr wyf mai dyna olygir yn y geiriau