Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DUWINYDniAETH. 101 garu y byd presenol. Y mae yn tueddu . hefyd i fagu pechodau ereill. Weithiau j y mae dyn yn gybyddlyd oddi ar fa'.chder ; j casgla yr oll a allo mewn trefn i ddal ei j sefyllfa, ac i foddio y cariad o rwysg, j mawredd, hardd-wisgoedd, a'r cyffelyb. | Bryd arall, y mae cybydd-dod yn was i ; chwantau y cnawd, yr hyn sydd yn gwneyd ; llawer yn ysglyfaethgar, i dwyllo yn eu í masnachau, ac yn anhael a chaled i ddi- areb yn eu teuluoedd, fel y caffont fwy i j wastraffu a gwario mewn gloddesta, diota, a meddwi. Eithr dymunwn yn neillduol i chwi gofio, y cauir y cybydd allan o deyrnas Duw. Chwi a wyddoch pwy a ddywed- odd unwaith, ei bod yn hawsach i gamel fyned trwy grau y nodwydd ddur nag i'r cyfoethog, neu yr un hwnw, fel yr esbonia ef ar ol hyny, sydd yn hyderu yn ei olud, fyned i mewn i deyrnas Duw. Nís gall fyned i mewn; oblegid nid yw y fath enaid bydol yn gymhwys idd ei gwledd- oedd a'i meddianau ysbrydol. O char neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef; ac a all y dyn hwnw fod yn addas i'r nef- oedd, ag sydd heb gariad Duw ynddot Na, na ; ui chaiffy cybydd byth etifeddu teyrnas Duw. Mi ddymunwn i chwi fedd- wl am hyn, y rhai ydych yn awyddus i fychanu ac esgusodi pechod, a'i alw wrth yr enwau tynerach o gynildeb, callineb, trefniad priodol, neu ddiwydrwydd. Ond galwwch ef y peth a fynoch, cybydd-dod sydd bechod, o herwydd pa un y bydd i bwy bynag a geir yn euog o hono golli ei enaid, ac a gospir â dinystr tragioyddol oddi gcr bron yt Arglwydd, mor sicr a phe byddai yn euog o buteindra, meddwdod, llofruddiaeth, ?ieu unrhyw vn o'r pechod- au ffieiddiaf, mioyaf aruthrol, ac ofnadwy. Gan hyny, gochelwch bob dynesiad ato. Y mae o natur gyfrwys, wenieithus, a threisiol: gall gudd-redeg i'ch calon, a braidd, cyn i chwi wybod, eich rhestru yn mhlith gwreision annoeth mammon. Yr hwn a fyn fod yn gyfaill i'r byd sydd yn elyn i Dduw. III. Awgrymwn ychydig ystyriacthau er rhagflaeniad neu wellâd cybydd-dod. 1. Ymdrechuch, gan hyny, ifod yn ar- gyhoeddedig o wagder pob meddianau byd- ol- Y maent yn annigonol ac ansicr. Nid ydynt alluog i ddigoni eisieu a dy- muniadau y sawl a ddylynant fwyaf ar- nynt, ag sydd yn eu meddu i helaethrwydd mawr. Edrychwch lle y mynoch, chwi welwch nad yw y sawl sydd yn caru arian yn cael ei ddigoni âg anan. Pe meddech holl gyfoeth yr India, nid allai roi i chwi foment o heddwch cydwybod ; nis gallai brynu maddeuant hyd yn nod o'ch pechod- au ddoe ; ni allai ddwyn i chwi y wên ysgafn oddi wrth Dduw, neu y gobaith leiaf o " etifeddiaeth y saint yn y goleuni, a chyda'r rhai a santeiddiwyd." Dyma y pethau sydd arnoch fwyaf o'u hangen ; a'r rhai hyn rhaid i chwi gael, neu fod yn golledig byth : ac eto tuag at gyraedd y rhai hyn, y mae cyfoeth yn fwy o rwystr na chynorthwy. Nid yn unig y mae yn analluog i estyn i ddyn foddlonrwydd a digonedd enaid, eithr hefyd y mae yn an- sicr. Darfydda a phalla wrth ei arfer. Nis gailwch fod yn sicr o'i fwynhau am foment. Y mae twyllmewncyfoeth : gall wneyd iddo ei hun edyn ac ehedeg ym- aith, pan y meddylioch ei fod yn y modd sicraf genych. Byddai o gynorthwy nid bychan yn erbyn meddyliau cybydd-lyd, pe arferech eich hunain i'r cyfryw fyfyr- dodau. Gan hyny, byddwch benderfynol yn eich barn, nad yw yr hyn a fuoch mor awyddus yn ei ddylyn, ddim yn deilwng o'r cyfryw barch a sylw, ond y mae pethau gwell uchod, na wnant dwyllo, na'ch gadael heb eich digoni; ac os gwnewch eu ceisio yn ddifrifol, chwi a'u cewch yn eich boddloni, ac yn'sicr; o herwydd nis gall gwyfyn na rhwd eu llygru, nalladron gloddio trwyodd a'u lladrata. 2. Ceisẅch ras Duio i'ch galluogi i roi terfynau priodol i'ch dymuniadau. Yr ydym yn gjffredin yn feius trwy roi rhydd- id gormodol i'n meddyliau. Yr ydym yn goddef iddynt grafangu y naill beth a'r llall, nes o'r diwedd y maent yn hollol anniwalladwy. Eithr doethineb, yn gys- tal a dyledswydd, a ddysgai i roi terfyn a chyich i'n dymuniadau ; ac nid i ganiatau i ni goleddu a meithrin y dymuniadau diles hyn o'r hyn ni wyddoni beth, ond i fod yn foddion gyda'r hyn sydd genym eisioes. Os nad yw ond ychydig, hyn a'i gwna yn ddigon, os na fydd ond ymborth a dillad ; duwioldeb, gyda boddlonrwydd, sydd elw