Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEW'YDDION. 127 fath berarogl adfywhaol allan i r mòr, fel ag i sicrhau i'r morwr ä fyddo ar ei wyl- iadwriaeth ei fod yn agosaa at ryw oror ddymunol a ffrwythlon, er na alî eto ei chanfod à'i lygaid. Ac, i gymeryd i fyny j gymhariaeth o fywyd i fordaith, fel hyn y mae gyda'r rhai hyny ag ydynt yn sef- ỳdlog a chrefyddol wedi mordwyo y cwrs liwnw ag y niae y Nefoedd wedi ei nodi iddynt. Cawn allan weithiau trwy eu hymddyddanion tua diwedd eu dyddiau, eu bod wedi eu llenwi â heddwch, go- baith, a gorfoledd; y rhai, fel yr awelon adfywhaol a'r aroglau peraidd hyny i'r morwr, a anadlir allan o Baradwys ar eu heneidiau, gan roddi ar ddeall iddynt mewn gwirionedd fod Uuwareudwyni mewn i'r hafan ddymunol.—Townson. Anffyddiaeth.—Anffyddiaeth yw un o gymeriadau y meddwl dynol, yr hwn, er dyddiau paradwys hyd ein dyddiau ni, nid jw wedi ei adael yn Uwyr; ac ni fydd iddo gael ei ddiffodd yn hollol, efalla:, hyd nes y bydd i'n gwybodaeth gael ei helaethu yn fawr, canys dyma benymladdwr mater yn erbyn meddwl;—corff yn erhyn yr ys- bryd—y teimladau yn erbyn rheswm—y nwydau yn erbyn dyledswydd—hunanles yn erbyn hunan-lywodraeth—anfoddlon deb yn erbyn boddlondeb — y presenol yn erbyn y dyfodol—yr ychydig ag sydd hys- bys yn erbyn yr oll ag sydd anhysbys—ein profiad cyfyngedig ni yn erbyn dichon&d- wyaeth diderfyn.—Sharon Turner. Cymeriad cyfaill cytcir.—Yn nghylch y dyn a alwwch chwi eich cyfaill, ebai En- field unwaith—dywedwch i mi, a wna efe wylo gyda chwi mewn awr o drallod î A wna efe eich ceryddu ynffyddlawn yn eich gwyneb, am ymddygiadau ag y bydd i ereiü eich gwawdio neu eich beio tu ol i'ch cefn? A fydd iddo feiddio sefyll i fyny ich amddiffyn.pan y byddo cenfigen yn ddirgelaidd yndwyn ei harfau dinystr- iol i ymosod ar eich ertw da chwi! A fydd iddo eich cydnabod fel ei gyfaill gyda'r un gwresogrwyddpau yn nghwmni eich uwch- raddion, a phaö yn nghwmni eich cyffelyb 1 Osbydd i groesragluniaeth a cholledion eich gorfoJi i aros mewn sefyllfa lai an- rhydeddus yn y byd nag o*r blaen, fel na allwch ymddangos mor barchus ag y byddech arferol, nachroesawi eich cyfeill- ìon gyda'r un haelfrydedd ag y gwnaech amser yn ol, a fydd iddo er hyny dybied « hunan yn ddedwydd yn eich cymdeith- as' ac» yn He cadw ei hunan yn ol yn raddol oddiwrth gysylltiad aflesol, a fydd ìddo gymeryd pleser mewn proffesu ei hunan yn gyfaill i chwi, a'ch cynorthwyo yn siriol dan faich eich gofidiau ? Pryd y geilw afiechyd chwi o olygfeydd gwych a Pnrysur y byd. a fydd iddo eich djlyn i'ch a?6 j,alarUs. £<"* Wrandaŵ yn syn ar Çhwedl eich gofidiau. a gweinyddu ùordial «ydüanwch i'ch ysbryd llesg? Ac yn ddiweddaf, pan y daw angeu i ddadgy- 6ylltu pob cwlwm daearol, a fydd iddo dywallt deigryn ar eich bedd, a gosod coffadwriaeth eich cydgyfeillgarwch yn ei galon, feltrysor nad yw byth i'w roddi i fyny î Y dyn a'r na wnelo hyn oll, dichon iddo fod yn gwmni—yn wenieithwr—ac yn dwyllwr i chwi, ond, credwch fl, nid yw yn gyfaill i chwi. Dygwyddiad difyrus.—Pan yr oedd y Dr. Hutton yn Esgob Durham (fel y dy- wedir i ni gan ysgrifenydd ei hanes), ac fel yr oedd yn teithio tros Can, rhwng Wensleydale ac lngleton, efe yn ddisym- wth a ddisgynodd oddiar ei geffyl, ac, ar ol rhoddi ei geffyl i ofal un o'i weision, aeth i fan ueillduol ychydig o'r brif ffordd, lle y gostyngodd ar ei liniau, ac y parhaodd am beth amser mewn gweddi. Ar ei ddychweliad, cymerodd un o'i wasanaeth- yddion yr hyfdra i ofyn beth oedd amcan ei feistr wrth ymddwyn mor hynod; mewu atebiad i'r hyn, hysbysodd yr Es- gob iddo, ei fodef, panyn fachgen tlawd, heb nac esgidiau na hosanau, yn teithio y mynydd noeth ac oer hwn ar ddiwrnod rliewllyd, a'i fod yn cofio ddarlbd iddo yru ymaith fuwch goch ag oedd yn gorwedd yn gymhwys yn y fan hyny, mewu trefn i gael cynhesu ei draed a'i goesau yn ei lle cynhes hi. Ymadroddionuno seithwyr doeth Grocg. —Priodolir yr ymadroddion canlynol i Thales, o Miletus, yn Ionia, un o seithwyr doeth Groeg, yr hwn a aned 580 o flyn- yddau cyn Crist. Pa beth yw yr hyn ag sydd fwyaf pryd- ferth 1 Y Bydysawd; canys gwaith Duw ydyw. Pa beth sydd fwyaf galluog ?—Angen- rheidrwydd; canys y mae yn buddugol- iaethu dros bob peth. Pa beth sydd fwyaf anhawdd f—Ad- nabod ein hunaiu. Pa beth sydd fwyaf hawdd 1—Rhoddi cynghor. Pa drefn raid i ni gymeryd i fy w by wyd dal—Peidio gwneyd dim a'r a gondemn- iwn mewn ereill. Pa beth sydd angenrheidiol er dedwydd- wchî—Corffiach a meddwl boddlon. Cynghor i'r hunanol.--Ì!ia. fydded arnoch byth gywilydd cyfaddef eich bod wedi camsynied Nid yw hyny ond addef (j'r hyn ni raid fod arnoch byth gywilydd i'w Wneyd) fod genych yn awr fwy o synwyr nag oedd genych i weled eich camsyniad, —mwy o ostyngeiddnoydd i'w gydnabod, a mwy o ras i'w ddiwygio.—Seed. Credo fer yr anffyddiwr.—Ni chredaf fi byth ddim a'r na allaf ei ddirnad, ebai un a berthynai i ddosbarth yr anffjddwyr, neu yr amheuwyr, wrth y dysgedig Dr. Parr; i'r hwn yr atehodd y Doctor yn ffraeth ac yn gall, " Felly, Syr, fe fydd eich credo chwi yn ferach na chredo un dyn a adwaen i."