Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

12G NEWYDDION. IWERDDON. Nid oes braidd un dygwyddiad o bwys yn cymeryd lle yn y wlad aflonydd hon heb achosi terfysg i raddau mwy neu lai. Bu terfysg gwaedlyd yn nhref Mayo yn ddiweddar ar yr achlysur o etholiad aelod i'r Senedd. Yr oedd nifer o etholwyr yn cael eu tywys o Westport i Castlebar, yn cael eu rhagflaenu er eu hamddiffyn gan filwyr, dan lywyddiaeth Mr. Crusie, hedd-ynad, aphan yr oeddentar eu ffordd, taflwyd ceryg atynt gan nifer o'r bobl o'r tu cefn i fur. Gorcbymynodd Mr. Crusie, yr hedd-ynad, i'r milwyr danio, pryd y saethwyd yn farw un ddynes a chanddi deulu o bump o blant, dyn ieuangc pryd- weddol, deg ar ugain oed, ac un dyn arall, heb law tri ereill a archollwyd yn farwol. CYMYSG. Araeth Genadol John Sunday.—Shaw- endais, neu John Sunday, sydd Benaeth Indiaidd dychweledigyn Ngogledd Ame- rica. Ymwelodd â Lloegr jn 1836, ac y mae yn gof genym ei weled y pryd hyny yn Llundain. Ychydig amser yn ol yr oedd yn areithio mewn Cyfarfod Cenadol yn Hamüton, Canada Uwchaf. Mr. Ri- chey, y Cenadwr, yr hwn a anfonodd hanes y cyfarfod, a ddywed, '«Middymunwn allu cofio yr oll o'i araeth, yr wyf yn sicr y difyrai chwi yn fawr; ond myfi a an- fonaf i chwi ei diwedd hi. " Y mae yma foneddwr," ebai John Sunday, "y mae yma foneddwr, yr wyf yn credu, yn awr yn y tŷ hwn; y mae yn foneddwr glandeg, ond hynod o wylaidd. Nid hoff ganddo ddangos ei hunan. Nid wyf yn gwybod faint o amser sydd er pan welais i ef, gan mor anfynych y mae yn dyfod allan. Y mae arnaf lawer o ofn ei fod yn cysgu llawer iawn oi amser, pryd y dylai fyned oddiamgylch i wneuthur daioni, Ei enw yw Mr. Aur. Mr. Aur, aydych chwi yma henoî ynte a ydych chwi yn cysgu yn eichcist haiarn1! Deuwch allan, Mr. Aur! deuwch allan, a chynorthwywch ni i wneyd y gwaith mawr hwn, sef pregethu yr Efecgyl i bob creadur. O, Mr. Aur, dylai fod arnoch gywilydd o honoch eich hunan, am gysgu cymaint yn eich cist haiarn! Edrychwch ar eich brawd gwjn, Mr. Arian : y mae ef yn gwneyd llawer o ddaioni yn y byd tra yr ydych chwi yn cysgu. Deuwch allan, Mr. Aur! Gwel- wch, hefyd, eich brawd bach llwyd, Mr. Pres. Y mae ef yn mhob man. Eich hrawd bach, yn rhedeg oddiamgylch yr holl araser, gan wneyd yr oll a all efe. Paham na ddeuwch chwi allan, Mr. Aur % Wel, os na ddeuwch a rhoddi eich hunan i ni, anfonwch i ni eich crys, hyny yw, Papyryn Ariandy." Gair o bwys i rieni, neu, y niwaid o ym- gecru âr plant.—Y mae Uawer o rieni yn gwneyd niwaid annhraethol i'w plant trwy ymgecru beunydcl â hwynt. Llawer o blant a ddyfethwyd trwy hyn, a yrwyd oddi cartref, ac a wnaethpwyd yn grwydr- iaid gwibiedig. Y mae ymgecru â'r plant yn suro eu tymherau, fel ag y mae ymgecru unwaith â hwynt yn parotoi y ffordd i wneyd hyny lawer gwaíth, Y mae hyn hefyd yn suro tymherau y rhieni. Os arferwch ymgecru, mwyaf yn y byd a gewch o waith ymgecru, canys yr ydych trwy hyny yn gweithio eich hunan i dy- mber groes ac annynad, ac yn gyru eich plant i'r un ysbryd. Y mae ymgecru yn oeri serch eich plant tuag atoch. Gall- wch fod yn benderfynol na fydd iddynt eich caru gymaint ar ol i chwi eu difrio ag y gwnaent cyn hyny. Gallwch eu ceryddu yn wrol a phenderfynol, gallwch eu cospi gyda llymder cyfatebol i natur eu tros- eddau, a hwy a deimlant y cyfiawnder o'ch ymddygiad, ac a'ch carant er hyn i gyd. Ond y maent yn casau ymgecraeth. Y mae yn cynhyrfu eu gwaed drwg, yn datguddio eich gwendid, ac yn eich daros- twng yn fawr yn eu meddyliau. Y mae tiriondeb tuag at blant yn gyffredin yn Uawer tebycach o'u gwneyd yn blant ufudd a da. Pan y troseddont, dylent gael eu ceryddu â chosp gyfatebol i'w trosedd, a hyny yn penderfynol, ond nid mewn ysbryd sarug. Ni ddylid, beth bynag, byth ymgecru â'r plant. Twyll cyfrwysgall.—Yr oedd ysgolhaig meddygol yn dychwelyd adref yn hwyr mewn cab, (matho gerbyd bychan ag sydd mewn arferiad cyffredin yn y trefydd mawrion,) yr hwn, pan y cofíodd nad oedd ganddo ddim i dalu am ei gario, a ddy- feisiodd y ddyfais ganlynol. Meddyliodd y dywedai wrth y drẁer ei fod wedi cwympo dwy sovereign i waelod y cab. Felly pan y daethant at y tŷ, efe a ddy- wedodd am ei golled, gan arwyddo ar yr un pryd ei fod mewn terfysg meddwl, ac a ddeisyfodd am i'r driter aros am funud, nes yr âi ef i'r tý i gael canwyll i chwilio am y ddwy sovereign. Efe a aeth i'r gegyn i ymofyn am un, a thra yn cwympo ar draws y cadeiriau wrth chwilio am y matches i oleuo y ganwyll, efe a glywai y cab yn myned ymaith. Rhedodd at y drws, ac er ei syndod gwelai ei gludydd yn carlamu i lawr yr heol cyn gyflymed ag y gallai. Efe a waeddodd, ac a waedd- odd drachefn, acafloeddiodd.ond yr oedd y dyn mor fyddar fel na fynai glywed. Aeth yr ysgolhaig meddygol, beth bynag. yn dawel i w wely, gan chwerthin wrth feddwl am y modd y cafodd ddyfod adref am ddim y noson hòno. Perarogl oddiarfaesydd Paradwys.r—y* ydym yn darllen fod yr awelon oddiar y tir, mewn rbai hinsoddau, yn dwyn J'