Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ì24 NEWYDDION'. llyd. Am un o'r gloch gwnaed rhuthr ar wersyll y gelyn yn ngwyneb tân dinystriol, a gorthrcchwyd ef ar bob llaw, pryd y syrthiodd ei holl wersyllfa gydag uwchlaw 100 o ynau i'n dwylaw ni. Dywedir fod Syr H. Hardinge, Llywydd yr India, a'r Commander-in-chief,yn fynych yu mhoeth- der y frwydr. Geíwir ymladdfa yr 21ain a'r 22ain yn Frwydr Ferozcshah. Mor belled ag y gellir sicrhau, y mae lladded- igion a chlwyfedigion y brwydrau hyn yn rhifedi arswydus, nid llai nag ugain mil. Yn wir, yn ol rhai cyfrifon, y mae colled y Sikhs yn unig yn gynifer a hyny. Y mae eiu colled ni uwchlaw tair mil, neu efallai y byddem yn nes i fod yn gywir pe dywedem bcdair mil, yn cynwys triugain ac un o swyddogion wedi eu lladd, a deunaw ar ugain wedi eu clwyfo. Ar ol cysodi yr hanesyn uchod derbyn iodd Mr. D. Morgan, Llanidioes, lythyr oddi wrth ei fab, yr hwn sydd yn perthyn i'r 80 catrawd, pa un oedd mewn gweith- rediad trwy yr oll o'r frwydr uchod , a thrwy fod rhywbeth \n fwy dyddorol mewn atiroddiad cyfrinaehol fel yma o ryw ddygwyddiad hynod nag mewn hanes íTuiíiol a swyddogol, yr ydym, trwy gan- iatâd y persou rhag-grybwylledig, yn cy- iioeddi y llythyr yn yr Eurgrawn. Gwersyllja glanau Satlej, lon. '-Ì9ain, 1S46. Fy Anwyl Rieni, Derbyniais eich llythyr hynaws, dydd- iedig Iíyd. I2fed, pan ar ein taith i'r fan hon, ac o herwy'dd y frwydr ddiweddar yr wyf yn achub y cyfleusdra cyntaf i'w ateb, gan wybod yn dda yr anesmwythder a deimlech hyd'oni chaech glywed oddiwrthyf. Nid oeddem' wcdi bod ond byíhefnos yn Umbellah pan y derbyniasom or- chyrnyn i fyned yn mheilach i fyny i'r wlad trwy deith au hirion, gan wneyd taith dau neu dri o ddiwrnodiau mewn un diwrnod, yr hyn a'n gorlethodd ni a'r anifeiliaid a garient ein hymborth, ac woithiau yr oeddem yn dyoddef nid yn unig oddiwrth iudded, ond hefyd oddi wrcn syched a newyn. Ar y lSfed o Ragfyr ein byddin wrol, gan fod yn luddedig gan ym- d'eithiid caled, a phobpeth ag y gall milwr ddysgwýl ei ddyoddef ìr.ewn amser rhyfel, a dderbyniasant orchymyn i sefyll. Dechreuodd pob ua feddwl am luniaeth a gorphwysiad ar ol ei ddiwrnod o lafur caled, pan y dechreuodd y tabyrddau a'r cyrn [drums and hugles] ein galw i arfau, a swn peilenig y magnelau a "hysbysent fod geíynion Lloegr wedi dechreu ar eu gor- chwyl o ddinystrio; ond ychydig a wyddent arn ŷ fold yn mha un y mae calon y Pryd'eiuiaid wedi ei bwrw—newyn, syched, a llndded, a an- nghofiwyd yn ebrwydd. a chyfaifyddasom hwynt fe! îlewod gwangcus am eu hysglyfaeth. Y nos a ddiweddodd y frwydr, ac a'n gadawodd ni yn fuddugoliaethwyr ar y maes pa un yr oeddent hwy wedi bw'riadu 'a gai gynwys ein cyrfi' damiedig. Derbyniasom ddiolehgarwch y Commander-in-chief'a'r Gorernor General, y rhai a gaumolent ddewrder y mynteioedd. Cŷmer- asom feddiant o 24 o fagnelau, ond fe'n rhwystr- wyd rhag dylyn ein buddugoliaeth i'r pen draw o herwydd iluddcd y gwŷr meirch a'r gwỳr traed, a bod y nos yn cau arnom. Ar yr 21aín cyfarfyddodd ein byddin niá'rgelyniondrachefn nicwii llc ag yr oeddent wcdi bod yn ci barotoi yn ofalus. Yr oedd eu sefyllfa yr un fwyaf manteisiol i'w maguelau chwareu arnom. .Vr oedd yno ffosydd wedi eu cloddio, fel y gaflai y gwŷr traed danio arnom, tra yr oeddent hwy yn cael eu cysgodi mewn cloddiau o nifer à maiutioli annghredadwy, yn mha rai yr oedd canoedd o dynelli o bowdwr i'n chwythu i fyny pan ddytiesëm atynt. Und marwolaeth neu fuddugoliaeth yw arwyddair y l'rydeiniaid. Er y gwyddem fod eu nifer gymaint saith waith à'n heiddo ni, a bod eu magnelau yn fwy na chymaint arall, ymosodasom arnynt, dystawas- oni eu magnelau, a phan roddwyd y gair charge í'e'i derbyniwyd gyda llonfloedd a yrodd arswyd i fynwes'y gelyn, "ac a gliriodd y cwbl o'n blaen. Y "nos eto a ddiweddodd ein hail ymosodiad a'n buddugoliaeth. Modd bynag yr oedd magnel yn chwareu ar ein hysgwariau, ac yn ein niw- eidio yn fawr. üalwwyd ein catrawd ni allan | drachefn, a darfu i ni chargio y fagnelfa tra yr I oedd y fagnel yn fflamio y.n ein danedd, a ; üwyddasom i'w chymeryd, ond coüodd llawer | dyn dewr ei fywyd o herwydd tywyllwch y nos. ! Ar doriad y wawr foreu dranoeth yr oeddem j gyda'n gorchwyl drachefn. Darfu i'r catrodau : oli chargio gyda'u gilydd, a chymerasant fedd- ! iant o'u gwersyllfa. Er fod rhes o fagnelau, yn | ymestyn alian ddwy fìüdir o fí'ordd, yn gwneyd | ëu gwaith, llwyddasom i wneyd iddynt encilio, I gan gymeryd meddiant o 70 o fagnelau, eu gwer- ; syllfa eang, a'r cwbl aberthyuaì iddyut. Oarfu ! i'n magnelau ni a'n gwŷr meirch eu dylyn, a : lladd a dinystrio llawer o ddynion ac eiddo, feî ! yr oeddent yn myned trosodd i'w gwlad eu : íiunain, gan gymeryd meddiant o 40 o fagnelau 1 yn chwanegoL Ni ddaethant yn agos atom er | hyny. Yr ydym yn clywed í'od eu pentywysog '■ wedi marw. Nis gwyddom pa un a ydỳm i I fyned trosodd i gymeryd eu gwlad, ai a ydym i | ddychwelyd i'n sefydliadau. Rhoddwyd y clod | mwyafinigan y Commander-in-Chief a'r Go~ j ramor-General. Dywedodd fod yr ymdaith, y | frwydr, a'r fuddugoliaeth, yn fwy nâg a wnaed í neu a enillwyd erioed yny wlad hon, ac y cai I medal briodol ei rhoddi allan i addurno mynwes ! y buddugoliaethwyr. * * * Cafodd gŵr Mrs. i ììays* ei ladd wrth gymeryd y fagnel ag y crj- ! bwyllais am dani. Cafodd Evan Evans,+ o'r I Ofed catrawd, ei archolli yn ysgafn yn ei goes, ! ond y mae yn dyfod yn mlaen yn dda. Yfasom ' gyda'n gilydd lawer gwaith yn Umbellah. Cef- i aisinau fy saethuddwywaith trwy fyhet. • * * Eich serchog fab, Daviu Morgan. Y mae brwydrau diweddarach wedi cy- ! meryd lle rhwng ein byddinoedd ni a'r ! Sikhs. Dywedir ddarfod i'r Cadfridog, : Syr H. Smith, symud ei ddosbarth i fyny , yr afon Sutìej ar y I9eg a'r 20fed o Ion- | awr heb gyfarfod ond âg ychydig wrth- ì wynebiad ; ac iddo ddyfod i olwg gwer- i syll y gelynion oddeutu 8 o'r gloch boreu ■ yr 21ain, pryd yr ymbarotôdd yn ddioedi í i ryfel. Nid oes hanes neillduol am y i frwydr a gymerodd le wedi dyfod i law, ; ond tybir ei bod yn un boeth, gan fod twrf ; magnelau i'w glywed yn Simla a Loodia- j nah, hyd 3 o'r gloch yn y prydnawn. AMERICA. Y TEBYGOI.nwYDD O BYFEL RHYNGOM AC AMERICA. Drwg yw genym ddywedyd fod y new- * Merch ieuangc a aet'n o Lanidloes i Sydney vehydig fiynyddau yn ol, lle yr ymbriododd à Mr. Ray. * ' ' t Dyn icuangc o Lanidloes.