Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

120 BARDDOMAETH. 10 Chwi ei hynaws wyeh rieni, Yn eich cyni dan eich cur, Dwys ystyriwch ddoeth ragluniaeth Duw a'i Benarglwyddiaeth bur ; Synwch am ddaioni addien, 'N dwyn eich bachgen hwn o'r byd, A'i dosturi dianwadal, Yn eich cynal chwi'n fyw c'yd. 11 Ymgysurwch, megys Aaron, Dati eich holl drállodion chwith ; Na rwgnechwch fel rhai ynfyd, Yn erbyu lor, ein bywŷd byth ; Onrì fel Job dywedwch beunŷdd, Mewn ysbryd llonydd yn mhob lle,— " Duw a roes ac a gýmerodd,— Bendigedig fyddo Efe." 12 Mwy na wylwch yn anialwch Mawr eich tristwch am y tro, Fel heb obaith am eich baban, A aeth i'r hyfrydlon fro: Ni raid ameu'i gadwedigaeth Ef, drwy iachawdwriaeth Duw ; Mae yn aŵr mewn nefol balas, Acw'n ninas Canaan wiw. 13 'Chydig ddyddiau'n ol búm inau Megys chwithau—yn 'r un chwaeth, Dan 'r un ofid, 'n dwyn 'r un afar, Ac o fewn 'r un carchar caeth ; Yn ymboeni am ' mabanod, 0 dan gawod drom o gur; '.Hhenyd gwrdd yn boenau, digon Cryf i ddarnio calon ddur. 14 Felly oferedd yw llafurio, l'ch cysuro yn 'r achos hwn, A fy hunan yn dihoeni, Ac ymboeni dan'r un bwn: Duw yn ddinam a'n dyddano, Ac à'n noddo îs y nen, Nes ein dwyn at ein hanwylion, 1 wlad y mwjnlon glod,—Amen. Nhchwrch. R. M. Williamson CBardd MunJ. PENILLION A GYFANSODDWYD MAWRTH 12fed, 1845, Sefy dyddy cyraeddodd eu hawdwr 48 oed, 1 'Rwy'n tynu tua phen y daith— Ni bydd yn hirfaith eto ; O ddyud i wythnos gwela' fod Fy nghyfnod yn myn'd heibio. 2 Lled gyflym â wythnosau'n fis, O ris i ris gan ddisgyn; A buan achos dweyd ar goedd, Mewn bloedd, fe dreuliwyd blwyddyn. 3 'Does fawr im' gofio am y dydd l'an oeddwn ddedwydd gartrau ; Heb brofì o helyntion sur, Na chur am ddim ond chwareu. 4 O amser, mae dy dreuliad di Fel rhediad lli' 'n ymsymud, Gan ddwyn holl breswylyddion byd O hyd i dragwyddolfyd. 'j O coelier hyn, gwir heddyw fod Ryw syndod yu fy nharo ; A ! wyth a deugain yn ddios, O fiwyddau f'oes aeth heibio. 6 I dd'wedyd pob peth fel y bu, Wnai'm d'rysu cyn rhoi drosodd: A galw myrdd o bethau i go', Sy heno'n waith rhy anodd. 7 Ond cofio 'rwyf am ambell dro, A fu'n ergydio'm teimlad, Pan oedd cymylau mawr fel tô, Yn cvdio yn nhrefn v Ceidwad. 8 Mi welais ghiddu pump o'm plant, A'u rhoddi ar bant y beddrod, Hyd nes daw angel mawr fy Nêr, O cofier i ddweyd—Cyfod. 9 O bob rhyw ergyd yn fy oes, A roes â'i loes im' ddyrnod, Y dryma' erioed a deimlais i, Oedd colli'm hanwyl briod. 10 Mi gollais dad a mam, mae'n wir, Dwy chwaer a brodyr fi'yddlon; Ond colli' ngwraig a ddygodd bla— Archollodd dryma' ' nghalon. 11 Faint bynag sydd o ddyddiau o'm blaeu, Heb gael eu cyí'an dreulio, Boed im' eu hoffrwm oll i Dduw, A dysgu byw dan wylio. 12 A'm gweddi boed o ddydd i ddydd, Trwy fl'ydd yn enw'r Ceidwad; A'm henaid waeddo hyd y bedd, Am gyraedd dawn ei gariad. Rhuddlcm. Evan Jones. Y GROES GYSEGREDIG. Weth ddylyn llwybrau'r addfwyn Oen, Yn myddin Brenin nef, A rwystrir fi gan ofn neu boen, Tra b'wyf i'w arddel ef ? Ai Simon ddwg y groes ei hun, A'r lleill i rodio'n rhydd ì Na, y mae croes i bob rhyw un, A chroes i minau sydd. Goruwch yr haul a ddygir fi, Ar esmwyth wely clod, Ac ereill nofio gwaedlyd íi' Wrth gyrchu at y nod ? Na,—os teyrnasaf, ymladd raid— Duw, nertha'm calou wan ; I ddwyn y gwawd a'r groes heb baid Rho ras i'm dal i'r làn. Dygaf y gysegredig groes, Nes d'od o'm croesau'n rhydd, I wisgo'r goron goruwch loes, Coron i minau sydd. E. G. Peris. ----♦---- CANAAN. O'u Aifft yr wyf yn cychwyn, Mi flinais ar y wlad; I Ganaan mae fy nhynfa, Caf yno wel'd fy Nhad. Mi wn y caf yn Nghanaan Rawnsypiau, mêl, a llaeth; A thelyn aur i'w chwareu, 0 fawl i'r Gŵr a'm gwnaeth. Yn Nghanaan mae fy nghoron, Yn Nghanaau mae fy Nuw ; Yn Nghanaan mae fy nhadau, Af linau yno i fyw. 1 Ganaau ni ddring angeu, 1 Ganaan ni ddaw haint; Yn Nghanaan, O mor ddedwydd, Breninoedd fydd y saint! Ioan Maelor. ATEBIAD I DDYCHYMYG ONESIMUS. Mae yn fy meddiant wrthddrych, A buddiol y w i mi, Yn ateb i'r dysgrifiad O'r un sydd genych chwi. Nis gellir gwneyd ei debyg Heb gael ei fath ei hun. Mae'n debyg iawn mai natur A wnaeth y cyntaf un. Heb waith celfyddyd arno, l'ur hynod oedd ei ran, A morthwyl yw ei enw, Mcwn saith lythyren blaen. MailliW.