Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BARDDONIAETH. 119 glwydd. Ymdrechasom yn nghanol ein digrau i gyflawni ei dymuniad. Ar ol hyn ni ymddyddanodd ond ychydig, a pharhaodd i wanhau yn gyflym. Ddydd Sahboth, 31ain o Awst, yr wyf yn meddwl nad aiff byth o'm cof, pan oedd ymchwydd dyfroedd yr afon yn cy- nyddu, a llesmeiriau angeuol ei chlefyd yn chwanegu, a marwolaeth megys yn ar- graffedig ar ei gwedd—pob peth yn ar- wyddo fod y byd anweledig bron yn ei golwg. Am saith o'r gloch prydnawn cymerodd ei henaid dedwydd ei hedfa, yn ngoleuni gwyneb yr Arglwydd, o'r daear- ol dỳ, i fyned i mewn i'r tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd, yn y 56ain flwyddyn o'i hoedran. O ryfedd ddydd ! Dydd Mawrth canlynol oedd dydd ei ehladdedigaeth, pryd yr ymgyuullodd ein cymydogion a'n cydnabod, yn Gymry a Seison, yn dorf luosog iawn i ddylyn ei rhan farwol tua phriddellau y dyffryn. Cyn cychwyn darllenodd a gweddiodd y Parch. R. Davies yn Gymraeg., a'r Parch. Charles S. Brooks yn Seisonaeg. Yna cychwynasom tua'r capel "Wesleyaidd, Steuben. Dechreuwyd yr addoliad yn Gymraeg a Seisonaeg gan y Parch. Hum- phrey Hughes, a phregethodd y Parch. C. S. Brooks yn Seisonaeg oddi wrth Dat. xiv. 13, a'r Parch. R. Daries yn Gymraeg oddi wrth Luc ii. 29, 30. Yna rhoddwyd ei chorff gwael yn ei wely pridd, i orphwys hyd ganiad yr udgorn diweddaf, pryd yr wyf jn credu y caiff ran yn yr adgyfodiad cyntaf. Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddi hithau. Er wedi marw y mae yn llefaru eto. " Thou art gone to the grave, but we will not deplore thee, Though sorrow and darkness encompass'd tlie tomb; The Saviour has pass'd through its portals be- fore thee, And the lamp of his love was thy guide through the gloom." JOBN ROBERTS. BARDDONIAETH. FENILLION A GYFANSODDWYD AR FARWOLAETH CYFFIN, BACHGEN ELIAS A SARAH WILLIAMS, ABERGELEj Yr hwn a gladdioyd Gorphenhaf \2fed, 1845, yn 9 mlwydd oed. 1 0 ! mor uchel mae rhyw Rahel, Yn mhob ardal, yn mhob oes, Am ei phlant yn trist riddfanu, A galaru dan ei gloes:— Tywallt ffrydiau dagrau digron, Am eu meirwon yn awr mae, Llawer mil yn boenus beuuydd, O dan gystudd dwfn a gwae. 2 W'ele! eto un yn rhagor, Aeth hyd oror y bedd dû, Ef a wânwyd fel o fynwes Anwyl, gynhes, ei fam gu : Ail blodeuyn y glaswelltyn Aeth y plentyn hwn o'n plith, 1 an nad oedd ond yn blaendarddu, A'i ddail yn glasu dan y gwlith. 3 Awel angeu chwythodd arno, Nes edwino'i einioes dêg, A'i gicaion oll a wywodd— Yntau brofodd rym y breg, Ac a ffòdd o gyraedd ofnau, Oychryniadau brenin braw : I rudd yw coffa roddi Cyffin Anwýl,—edlin yn ei law. 1 Ail y Oongau a ollyngir, Ac a hyrddir draw ar hynt, in mheryglon moroedd mawrion, Uwch yr eigion gan y gwynt; iNeu ail barug, a niwl boreu, Ac awel deneu yn eu dwyn, i w ber enyd a brau einioesí JJyn u'i feroes, or mor fwvn, 5 Gwir nid yw ein hoes ond gyrfa,— Cam o'r byraf yn y byd; Gwenol gwehydd mewn cyflymdra, Yw ei rhedfa ar ei hyd: Felly Cyffin, er mor hoffus, 'Cha'dd ond bregus fywyd brau ; Munud awr yn ngwlad y cystudd, O flaen boreu i barhau. 6 'Moreu 'i oes ca'dd ef ei alw 0 ganol berw'r byd a'i boen; Engyl ddaeth i'w ddwyn yn ddinam, 1 fynwes Abraham mewn hoen: Yfed o awelon bywiol Awyr nefol Salem wnaeth, A thrwy waed ei rad Waredydd, O'i rwymau'n gwbl rydd yr aeth. 7 Cyn ymlygru yn weithredol Trwy andwyol natur dyn, Na chyflawni'n bechadurus Fai anweddus o ddrwg wyn; A chyn profi temtasiynau, Na gwel'd maglau nwydau'r cnawd, Aeth yn Iân uwch aflan gyflwr, I gol ei Noddwr, i gael nawd. 8 Os yw ei gorff mewn dofn aneddle, Yn Abergele dan y gwys, Mae ei enaid ef yn ngwynfa, Y'n y lon orphwysfa lwys, Heddyw'n canu nefol anthem Bechgyn Bethle'm yn ddiboen, Ac yn seinio awdl beraidd, Mawl am rinwedd gwaed yr Oen. 9 Os yw'n gorwedd dan y gweryd, Arno nychlyd wedd yn awr, Daw i'r làn yn llawn o burdeb, Eto mewn dysgleirdeb mawr ; Y corff llygradwy hwn ddaw eto I wisgo anllygredig wcdd ; A'r marwol hwn i fyw'n anfarwol, Byth yn nhir trwgwyddoì hedd.