Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

118 MARWOLAETHAÜ. ent iddi fel dyfroedd oerion i'r enaid sych- edig, wedi bod yn hir yn amddifad o honynt. Ei geiriau oeddent, yn iaith y Salmydd, " Mor hyfryd jw dybebylldi, O Arglwydd y Huoedd," &c. Yn ddioed wedi dyfod i'r ardal hon, ymunodd âg eglwys Wesleyaidd, a pharhaodd yn ffydd- lonhyd ddiwedd ei gyrfa. Profodd felus- der crefydd yn ddigon i'w chynal mewn mwy na saith ac wyth o gyfyngderau, ar ei thaith flinderus trwy amrai barthau o"r byd. Fe allai na fyddai yn anweddus yn- wyf ddywedyd ychydig am ei rhinweddau. Fel gwraig, yr oedd ynhaelionus, hawdd- gar, a gofalus yn nghylch gorchwylion ei thŷ ; fel mam, yn addfwyn, yn dirion, ac amyneddgar—hyd yr oedd ynddi yn ym- drechgar i wneuthur cartref yn hapus; ac felcristion, yn wresoga ffyddlon, a phar«h- us iawn gan ei holl gymydogion, a'r eg- Iwys yn gyffredinol, ac yn ddiameu yn werthfawr yn ngolwg ei Duw, yr hwn a wasanaethodd yn ddigwymp hyd angeu. Yr oedd ein hanwyl fam o gyfansoddiad gwanllyd ac afiach er ys blynyddoedd. Cafodd lawer o glefydau trymion er pan yr ydwyf yn cofio yn Nghymru a'r wlad hon, ynofni ynamlmai eicholli a wnaem; ond trwy fawr drugaredd Duw tuag atom fe'i hadferwyd o dro i dro, Ond, och'. fe ddaeth y tro diweddaf. '* Diwedd fydd i flodeuyn, Ac uuwedd fydd diwedd dyn." O fel y mae fy nghalon yn cystuddio yn- wyf gan alar, a'm llygaid yn toddi gan ddagrau, wrth feddwl am y tro ! Ar yr lf>eg o fis Gorphenhaf diweddaf fe'i cymerwyd yn glaf iawn, a'r dydd canlynol dechreuodd gadw ei gwely. Yn ddioed anfonwyd am y meddyg, yr hwn a'n hysbysodd mai y bilious fever oedd arni. Yr oedd y tywydd yn hynod o dwym, a hithau o gyfansoddiad mor wan, yr oeddem oll yn ofni mai ei cholli yn fuan a wnaem; ond er y cjfan yr oedd hi yn hynod o dawel, ac yn feddianol o radd o obaith am wellâd. Oddi ar hyn ym- roddodd i gymeryd o foddion y meddyg. Fel hyn bu am yspaid o amser, â'i medd- wl yn lled hyderus am wellâd. Ond er ein holl ymdrech i geisio cynal y babell briddlyd i fyny, yr oedd angeu jn fwy llwyddianus gyda'i orchwyl o'i thynu i lawr. Peth teilwng i'w adrodd jdyw, nad oedd yn nghanol ei thrafferthion gyda'i natur nychlyd yn llesghaudim gydamater ei henaid. Mynych y clywwyd hi yn anfon ei gweddi tua'r nef. Ni cheid hi i ymddyddan yn rhwydd am ddim ond pethau tragwyddol; a phan y cai rai i ymddyddan felly, byddai yn ymddangos wrth ei bodd. Eu amrai o'r brodyr a'r pregethwyr yn ymweled â hi, ac jn eu plith y Parch. Humphrey Hughes, yr hwn a ymddyddanodd lawer am bethau y byw- yd ; ac ar ei ffordd adref cyfarfu â'r Parch. Rees Dayies yn dyfod i ymweled â hi, a phan ei gwelodd fe ddyrchafodd ei ddwy- law i fyny gan waeddi, " Gogoniant, y mae y chwaer Ann Roberts yn ymyl y nefoedd." Yr oedd yn nodedig o dawel trwy ystod ei chystudd. Ni chlywwyd hi un amser yn grwgnach dim : goddefodd y cwbl mewn amynedd, gan ddysgwyl am amser ei Harglwydd. Gofynodd fy nhad iddi pa un oreu oedd ganddi ai byw ai marw. Atebodd, " O'ch rhan chwi a'r plant gwell genyf fyw ; ond o'm rhan fy hun gwell genyf farw." Pan fyddai rhyw rai yn dywedyd wrthi ei bod yn debyg o wellau, ei hateb a fyddai, " Ewyllys yr Arglwydd a wneler." Unwaith, pan y gofynodd y Parch. R. Davies iddi pa fodd yr oedd yn teimlo, hi a'i hatebodd ei bod yn ddedwydd iawn, ei bod yn fedd- ianol ar wreiddyn y mater, mai Crist oedd ei Chyfaill goreu. Dro arall dywedodd fod crefydd yn werthfawr i fyw, ei bod yn ddiolchgar am gael gafael arni mewn iech- yd, ei bod yn talu yn dda pan yn ymjl marw. Ychydig ddyddiau cyn ei mar- wolaeth galwodd am danom oll fel teului ddyfod ati, yna ymdrechodd ein cynghori- Dywedodd wrth fy nhad am ymdrechu ymdawelu yn yr Arglwydd, ac mai testyn diolch oedd ganddo am ei fod wedi cael ei chwmpeini i fagu y plant, ac am y teimladau cj surus oedd hi yn eu mwynhau ar wely angeu—ei bod yn feddianol ar lawn sicrrwydd gobaith am fywyd tra- gwyddol trwy ras Duw. Yna ymaflodd yn ei law, a dywedodd ei bod yn myned i'w adael yn fuan. Yna cynghorodd ni ei phlant yn ol ein sefyllfaoedd, yn effeith- iol iawn ; a chyn ymadael dymunodd ar» naf ein cyflwyno trwy weddi i ofal yr Ar-