Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MARWOLAETHAÜ. 117 ìaeth nag i Wesleyaeth; ac nid yw ein darlunio fel wedi newid ein barn pan yn ei dal, amgen na'n gosod allan mewn goleu annheg iawn. Arncan yr ysgrifenydd yn ysgrifenu fel y gwnaeth oedd, " daugos nad yw y gwahaniaeth rhyngom ond bychan, pe deallem ein gilydd yn well." ünd gyda phob parch iddo, dymunem ofyn i'r Traethodydd, ai nid oedd un dull arall, amgenach na hwn, i wneyd hyny? Hyderwn y derbynir y sylwadau hyn yn yr un teimlad brawdol ag y maent yn cael eu cynyg. Terfynwn ein sylwadau ar y rhifyn hwn, gan ddymuno iddo dderbyn- iad helaeth a chalonog, yr hyn yn ddiau a deilynga. Dyferion y Beirdd ; sef Casgliad Bardd- onol, ar toahanol Fesurau, o icaith prif Feirdd Cymru. Gan L. Williams, Llanegryn. Albion-wasg : John Jones, Argraffydd, Llanidloes, Gyda llawer o ddifyrwch y darllenasom y llyfr bach difyr hwn. Y mae yn fêl drwy- ddo. Dechreua yn gywrain gyda Chyw- ydd campus am y farn, gan y Parch. Goronwy Owain, yr hwn ei hun sydd yn fwy na gwerth y grôt a ofynir am y llyfr. Wedi hyny cawn Gànaganwyd Nos Galan —Llinellau ar Esay lxiii.— Y Ganaan Nefo!—Llinellau ar Fanoolaeth Maban— YSaintyn y Nef—Y Wlad sydd well, a lluoedd o destynau difyr ereill; rhai yn peri i chwi wylo, a rhai yn peri i chwi grechwenu; rhai yn codi hiraeth ynoch am y nef, ac oll yn tueddu at ddwyn yn mlaen rinwedd, moesoldeb, a chrefydd. Wrth ddarllen y Myfyrdoi wrth wrandaw ar y Fronfraith yn canu, gallech feddwl fod yr hyharch awdwr yn gollwng " cawod" o wit a ffraethineh i lawr, ac nid "dyfer- ion." Dangosodd Mr. B., yn y Gàn hon, ei fod yn fardd cyflawn : y mae nid yn unig yn odli yn dda, ond hefyd yn llawn o ddrychfeddyliau hedegog. Meddyliem y byddai y llyfryn hwn yn anrheg wech gan dad i'w hlant, er eu dwyn i ymhy- %du mewn darllen a gwarchad gartref. Llwyddiant i Mr. W. ddyfod allan yn ei wisg awdurol yn fuan eto. I —n. MARWOLAETHAU. BANES BYWYD A MARWOLAETH ANN ROBERTS, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, STATE OF NEW YORK. Ein hanwyl fam ydoedd ferch i John a Mary Griffith, o'r Rhewl, plwyf Tre- meirchion, sir Ffiint. Yr ydoedd yn na- turiol o dymher addfwyn a llariaidd iawn, yr hyn, gyda gweithrediadau gras ar y galon, oedd yn addurn hynod ar ei rhod- iad trwy ystod ei bywyd. Dechreuodd yr Ysbryd Glân weithio yn foreu ar ei medd- wl trwy weinidogaeth y Parchedigion Mr. Jones, Bathafarn, a Mr. Hughes, ac ereill o bregethwyr cyntaf ein hanwyl Wesley- aeth yn Nghymru ; ond nid ymostyngodd i alwadau taerion yr efengyl, y mae yn debyg, gan mwyaf o achos tywyllwch ac anwybodaeth yr oes mewn perthynas i wir grefydd. Ni dderbyniodd nemawr o addysg nac o hyfforddiadau i geisio ffordd y hyw- yd. Collodd i raddau, ond nid yn hollol, yr argraffiadau a dderbyniodd. Ymgy- sylltodd â'r werin, trwy ddylyn llwybrau gwagedd tueddol i ieuengctid pob oes a phob gwlad. Ynyr wythfed flwyddyn ar ugain o'i hoedran ymunodd mewn ystâd briodasol â William Roberts, o'r Pistyll, plwyf Bodfari, nai i'r diweddar Barch. W. Roberts, o'r Ysgeifiog. Yn fuan wedi, ymunodd âg eglwys Dduw yn Tremeirch- ion, a bu yn fíyddlon ynddi hyd ein hym- fudiad i'r wlad hon. Pa mor ffyddlon, apeliaf at y brodyr a'r chwiorydd yn yr eglwys hòno, a'r pregethwyr teithiol a chynorthwyol ar gylchdaith Dinbych a L'.anrwst. Yn y flwyddyn 1831, ar yr 28ain o Fehefìn, hwyliasom o Le'rpwl, ac wedi morio o don i don dros saith wythnos cyraeddasom New YorJc. Aethom yn ddi- oed yn mlaen i Stamford Connecticut. Buom yn byw yno yn agos i dair blynedd. Ni chafodd y fraint o gymdeithas pobl Dduw ond ychydig yn y lle hwn, o her- wydd yr iaith; ond yr oedd ei chymdeith- as â'i Beibl yn felus iawn jn y blynydd- oedd hyny. Symudasom oddiyno i blith y Cymry i Steuben, lle y clywodd drachefn sain efengyl y tangnefedd yn yr hen Omer- aeg. O fel y prisiai y breintiau ! yr oedd-