Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

116 ADOLYGIANT. nodi y pyngciau ag y cytunwyd arnynt fel sail yr Undeb, a ddywed ;— " Dacw fab y Dr. Bunting, nn o'r gweiuidog- ien Wesleyaidd, yn codi i fyny, ac yn cynyg gweiliant. Fel y galloch ddeall ei wrthddadl, rliaid sylwi fod y chweched erthygl, yn y modd y darllenwyd hi ar y eyntaf, yn sefyll fel hyn : ' Gwaitb. yr Ysbryd Glân yn ail-enedigaeth a santeiddiad y pechadur.' Ond medd Mr. Bunt- ing,' Yr wyf fi yn teimlo gradd o wrthwynebiad i'r erthygl yna, am nad yic yn rnyned yn ddigon pell. Nid yw ail-enedigaeth ond rhan o droed- igaeth pechadur; a dymunwn gacl rhyw air i ddangos yr angenrheidrwydd anhebgorol am waith yr Ysbryd Glân yn yr oll o'i droedigaeth.' Ar ei gais ef, rhoddir y gair troedigaeth i fewn, yn lle ailenedigaeth. Felly chwi icelwch mai y Wesleyaid, yn y cyfarfod hwn, yw y rhai mwyaf Calfinaidd; ac,yn icir, braidd nafeddyliemmai yr Annibynicyr sydd ficyaf aicyddus am gyffcs ffydd." Yn awr y mae genym wrthwynebiad cryf i'r frawddeg olaf o'r dyfyniad uchod, a hyny am ein bod yn ystyried ei bod o duedd uniongyrchiol i niweidio yr achos gwerthfawr o Undeb. Gwyddom mai pell oedd hyn o fwriad yr ysgrifenydd, canys ymddengys trwy ei holl ysgrif fod undeb yn bwngc anwyl iawa ganddo; ac nid ydym yn credu ei fod am i'w ddarllenwyr ddeall fod y Wesleyaid a'r Annibynwyr wedi newid eu barn, er fod ei eiriau o angenrheidrwydd yn arwyddo hyny. Canys os oedd y " Wesleyaid, yn y cyfar- fod hwn, y rhai mwyaf Calfinaidd," rhaid eu bod wedi newid eu barn yn fawr, am y gẁyr pawb mai nid Calfinaidd oeddent cyn hyny; ac os " yr Annibynwyr sydd fwyaf awyddus am gyffes ffydd," yn y cyfarfod bwn, rhaid eu bod hwythau wedi mawr gyfnewid, canys fe ŵyr pawb eu bod bob amser hyd hyny yn wrthwynebol iawn i bob cyffes ffydd. Yr ydym yn credu yr ysgrifenydd pan y dywed,—" Nid ydym yn dywedyd hyn i arwyddo fod neb o honynt wedi newidei farn, ac nid ydym chwaith yntybied hyny." Oad i ba ddy- ben, ynte, gofynwn, y gwnai ddefnydd o eiriau ag ydyntyn eu hystyr mwyaf natur- iol yn cyfieu y meddwl hwnw? Onid yw yn wybodus iddo fod ugeiniau a chanoedd hyd y dydd hwn o'n brodyr Calfinaidd yn credu nad yw y Weslejaid yn dal yr ang- enrheidrwydd am waith yr Ysbryd Glân yn nhröedigaeth pechadur ; neu os ydynt yn dal hyny yn awr, mai erthygl newydd iawn yn eu ffydd ydyw—mai newydddroi yn Galfìnaidd y maent ar y pen hwn 1 Ac onid yw yr ymadroddion, " cbwi welwch mai Wesleyaid, yn y cyfarfod hwn, yw y rhai mwyaf Calfinaidd," o dueddholloli'w cadarnhau yn y fath dyb 1 Nid oes nemawr flynyddau er pan yr oedd gweinidog parchus a phoblogaidd perthynol i'r Meth- odistiaid Calfinaidd yn sefyll i fyny ar areithle y Gymdeithas Genadol Wesley- aidd, yn ein capel Cymreig yn Llundain; a chan fod y penderfyniad a roddwyd yn destyn iddo ef yn cynwys cydnabyddiad o'r angenrheidrwydd am ddylanwadau yr Ysbryd Glân yn nychweliad y byd pagan- aidd, efe a synai ac a ddiolchai amfod y Wesleyaid o'r diwedd wedi dyfodi gyd- nabod yr athrawiaeth bwysig hon. Fei yr oedd oraf i'r brawd hwnw, yr oedd yno un ger llaw galluog i'w argyhoeddi mai nid pwngc newydd yn y ffydd Wesleyaidd yw yr athrawiaeth bon. Heblaw hyn, clyw- som un o'r dyddiau diweddaf fod un o hen weinidogion henaf ein brodyr Calfin- aidd, mewn Society fisol, yn ddiweddar iawn, yn gwneyd y syiw, wrth son am yr Undeb Efengylaidd, fod y Wesleyaid yn Lloegr yn dyfod yn nes atynt hwy bob dydd ; ac am yr Annibynwyr, fod llawer o honynt eisioes yn fwy Calfinaidd na'r Gyffes ffydd ei hunan. Gan fod y fath oiygiadau a'r rhai hyn ar led, oni ddylid bod yn wyliadwrus iawn na byddo i ddim gael ymddangos trwy yr Argraff-wasg a fyddo o duedd i'w cadarnhau 1 Yn ein tyb ni, y mae darlunio y gwahanol bieidiau crefyddol fel yn newid eu barn er mwyn dyfod i undeb â'u gilydd, ynddullniweid- iol iawn i'r symudiadgogoneddus ag sydd yn awr yn mysg y gwahanol enwadau Protestanaidd er meithrin Undeb Cristion- ogol; ac am ein bod yn tybied fel hyn, yn gystal ag am ein bod yn dymuno gosod ein hunain fel Wesleyaid mewn goleuni priodol yn ngolwg darllenwyr y Traethod- ydd o ran ein barn, er pan ydym yn Wesleyaid, ar y pwngc pwysig o angen- rheidrwydd am waith yr Ysbryd Glán yn yr oll o dröedigaeth pechadur, yr ydym wedi ei thybied yn ddyledswydd arnom wneyd y sylwadau hyn. Ni pherthyna yr erthygl hon yn fwy, beth bynag, i Galfin-