Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIANT. 115 orphwyllddyn oedd wedi ei roildi yno. Ond wedi gorphen gyda'r llythyrau, aeth i edrych ar y llythyr hwn drachefn, ac wrth sylwi deallodd mai rhyw blentyn oedd wedi ei wneuthur. Efe a'i hagor- odd ac a'i darllenodd. Effeithiodd y weddi blentynaidd ar ei feddwl yn fawr. Dangosodd y llythyr i un o'r Moraiiaid ag oedd yn adnabyddus iddo. Cymerodd y dyn hwn ef, a darllenodd ef ar gyhoedd y gymdeithas. Pan glywodd arglwyddes Lippe, yr hon oedd yn bresenol, hi a ddy- wedodd ei bod hi yn ystyried fod yr Iach- awdwr yn apelio ati hi trwy yr amgylch- iad hwn. Hi a gymerodd yr amddifad bach o dan ei gofal ei hun, ac a'i rhoddes yn yr ysgol ag jdoedd yn dymuno mor fawrfyned iddi. Wrth hyn y gwelwn i'r Ilythyr hwn gyraeddyd pen ei daith, a chael atebiad buan. Cyf. H. H. ADOLYGIANT. Y Traethodydd, Rhif. v, lon., 1846. Dinbych ; T. Gee. Wele y rhifyn cyntaf o'r Traethodydd am y flwyddyn hon. Ar ol ei ddarllen yn fanwl, ei ystyried yn ddifrifol, a ffurfio ein barn yn onest am dano, yr ydym yn ei argymhell yn galonog iawn i sylw ein darllenwyr. Y mae yn cynwys llawer iawn o'r hyn sydd dda ragorol, heb ond ychydig o bethau ag y teimlwn unrhyw wrthwynebiad iddynt. Y mae y mater- ion yn dda, yr iaith yn rymus a syml, a'r dull yn drefnus iawn. Ond er ein bod fel hyn ar y cyfan yn mawr gymeradwyo y rhifyn hwn o'r Traethodydd, eto nid ydym am i'n darllenwyr ddeall ein bod yn cyd- weled â phub peth sydd ynddo. Teimlwn gryn barch i enw yr hen wron ymadaw ■ edig, y Parchedig Christmas Evans, a chryn duedd i ymostwng i'w farn ar rai pethau; ond ymddengys i ni nad yw ei olygiadau oll yn gywir yn yr erthygl ar ' Agwedd Crefydd yn Nghymru,' er fod ynddi sylwadau difyr ac addysgiadol dros ben. Yr erthygl ar ' Robert Roberts, o Glynnog,' sydd arlun cywrain o gymeriad hynod. Y sylwadau dan y pen ' Ieith- yddiaeth' a ddangosant gryn fedrus- rwydd; ond y maent wedi eu gwisgo mewn iaith ag sydd braidd yn rhy anys- twyth i fod yn fuddiul i bob un a saif mewn angen am danynt. Yr erthygl dan y pea ' Nodiadau ysgrythyrol' sydd fern- iadaeth fanylgraffa gafaelgar ar Ioan xxi. 15, 16, i7. Y mae yr ysgrifenydd, yn ein tyb ni, wedi gosod allan feddwl y geiriau yn bur eglur. Corff Crist yn Breswylfa Duiedod, yw y pwngc nesaf. Y mae hwn yn seiliedig ar Col. ii. 9 : " Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawndcr y Duwdod yn preswylio yn gorfforol." Nid ydym yn ameu ysgrythyroldeb prif fater yr ysgrif- enydd yn yr erthygl dan sylw, sef, " fod Duwdod [neu yn hytrach y Duwdod] yn preswylioyn nghorff Crist " Yn hytrach, yr ydym yn credu fod hwn yn wirionedd a ddysgir yn amlwg iawn i ni mewn am- ryw fanau yn yr ysgrythyrau, ac yn neill- duol yn y Testament Newydd; ond yr ydym yn ameu mai hwn oedd y gwirion- edd y bwriadai yr apostol ei haeru yn y geiriau hyn. "Wrth ddywedyd fod y Duw- dod ynpreswylio yn Nghrist " yn gorff- orol," Sômatihôs, ymddengys i ni yn fwy tebyg ei fod yn golygu.fod y Duwdod yn preswylio ynddo ef yn tcirioneddol, yn sylweddol, na ei fod yn preswylio yn ci gorff ef, yn ol golygiad yr ysgrifenydd hwn. Yrysgrifauar Y Diwygiad Protes- tanaidd, a'r Bobl leuaingc, ydynt werth eu darllen fwy nag unwaith. Cawn, yn nesaf, ysgrif werthfawr ar Angenrheid- rwydda natur yr Iaicn, dan y pen, Cyson. deb y ffydd, Tuedd yr ysgrif hon yw, profi yr angenrheidrwydd am yr iawn, nid yn unig fel moddion i wneyd argraff foesol ar feddyliau creaduriaid Duw, ond hefyd, ac yn benaf, " fel boddlonrwydd i gyfìawnder Duw. Y mae y pwngc yn dda, ac yn cael ei drafod yn gampus gan ysgrifenydd yr erthygl hon, er ein bod yn methu canfod pob dadl o'i eiddo yn holiol benderfynol. ' Prydain Fatcr,' ac ' Ar- wyddion yr Amserau,' ydynt y pyngciau nesaf, ac y mae y rhai hyn yn cael cu trin yn gampus. Yna cawn ysgrif ddifyr ar ' yr Undeb Efenyylaidd.' Y mae yr ys- grif hon wedi cael ei hysgrifenu mewn dull hanesawl, gan roddi i ni gipdrem ar y cyfarfod hynod a gynaliwyd ar yr achos uchod yn Liverpool, yn mis Hydref di- weddaf. Nid oes genym oud un gwrth- wynebiad iddi. Yr ysgrifenydd, ar ol