Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EURGRAWN WESLEYAIDD, AI EBl&IJLEi, 1846. Rhif. 4. Cyfres Newydd. Cyf. 38. BUCHEDDIAETH. -*>. MR. JOHN JAMES, CROSS LANE, PLWYF LLANCADFAN, YN NGHYLCHDAITH LLANFAIR-CARRÊINION. Y dwyfol wirionedd hwn, "coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig," a brofir yn amlwg yn achos y rhagorolion ymadaw- edig, hen a diweddar; a phriodol y gellir cof-restru ein hanwyl frawd John James yn eu plith,canysdyn ydoedd ef a enillodd air da gan fyd ac eglwys. Ac y mae yn ihwydd-deb mawr i'r ysgrifenydd wrth afael yn ei ysgrifell, i feddwl nas gall ef bortreadu yr ymadawedig gwerthfawr dan sylw, yn well nag y meddylia ei adna- byddion goreu am dano yn ei fywyd ac wedi ei farw. Ie, mor anwyl ydoedd ef genym oll, fel y dymuneni, pe byddid yn alluog, gysylltu â choffadwriaeth o'i rag- oriaethau crefjddol, ddarlun manol o'i berson, fel na throai y bedd yn ei achos ef yn dir annghof. Mynych y cynygia cy- wreinrwydd ynom holiadau dychymygol wrth i ni ddarllen hanes bucheddau per- sonau nodedig; megys, Pa fath ddyn ydoedd? mawr ai bycha.nl grymus ai eg- wan? bywiog ai dwys-arafaidd yn ei ym- ddangosiad? Os nad yw ateb y cyfryw yn adeiladol, gall fod yn ddyddorol, ac nid yw yn arwain i ddini drwg. Wel, y mae genym o flaen ein dychymyg ddyn tua dwy lath o daldra, yn destyn ein hanes ; ac er yn tueddu at fod yn eiddil, eto yn bur nerthol. Er nad ymddangosai, yn ol dyn- ol chwaeth, o wneuthuriad cyfartal iawn, eto yr oedd yr olwg arno yn eithaf cynhesol adymunol. Ei bryd a dueddai atfod yn hirgul, a dylofnau canolig yn lledogwyddo yn ol at y clyboedd, a'i wallt, yn wreiddiol yn ddu, eithr yn ddiweddar âg ychydig bach o frithni. Ëi olygon oeddent o faintioli canolig, o'r ddau yn fychain, ac yn lled fywiog, y ganwyll yn amgylchyn- edig â gweneu tywyll, ac yn mhellach yn ol, gwỳn clir, hynod o'r prydferth. Pan yn cerdded, canfyddid ei fod yn lled og- wyddo yn mlaen, gan estyn ei gamrau hirion yn gwbl ddirodres, ac yu gyffredin wrth fyned tua'r moddion, fel dyn a fae yn un gronfa o ystyriaeth ddifrifol. Am ei dymherau natuiiol, yr oeddent o'i faban- dod yn ystwyth, hydrin, a mwynaidd. Efeaanwyd yn mis Awst, 1800. P>u farw ei dad pan ydoedd ef rhwng chwech a saith oed. Y pryd hyny fe'i cymerwyd i'w fagu gan ei ewythr, brawd ei dad. Mr. William James, ger Llanerfyl. Efe a ddygwyd i fyny yn y gelfyddyd o Saer coed, ar ystàd.Iarll Powis; a chymaint oedd ei ddiwydrwydd, ffyddlondcb, a chywirdcb, fel yr enillodd iddo ei hun ymddiriad Uawnaf yr Iarll a'i oruchwylwyr. Ei ewythr a ddywed ei fod er yn fachgen yn hynod o'r syml a diddrwg. Yn 23 oed fe aeth i'r ystâd briodasol. Hyd yn hyn,, a phum mlynedd yn mhellach, ni pherth- ynai i'r gymdeithas grefyddol, cr ei fod yn bur foesol ei fuchedd, ac yn hynod o'r ymdrechgar gyda'r ysgol Sabbothol. Yn y flwyddyn 1828 yrymunodd à'r gymdeith- as Wesleyaidd yn Pontcadfan, pan oedd y Parch. D. Evans, laf, ar y Gylchdaith. Mewn cjfarfod pregethu ar ddydd Llun y pasg, yn y flwyddyn a'r Ile uchod, y pen- derfynodd ef a'i briod ymofyn o ddifrif am grefydd. Yt oedd argyhoeddiad gwrth- ddrych ein hanes ynllym i'reithaf; gwel- odd ei hunan yn ngoleuni y gair yn bech- adur colledig, ac nad oedd amwisg moesol- deb yn ddigon o gymhwysder i etifeddu bywyd tragwyddol. Teimlai i'r byw am wrthod ohono gynygion o drugareddfadd- enol Duw gymaint o weithiau. Yr oedd ei holl enaid yn awr mewn cynhwrf, canys Cyf. 38.