Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

114 AMRYWIAETB. Dywedh fod yr holl ryfeloedd, o'r flwyddyn 1 /94 hyd frwydr fawrWatcrloo yn 1815, wedi costio 1,700,000,000 o bun- au—swm mor bell tu hwnt i bob peth ar- ferol, felnacl oes genym allui'w amgjffred o'r bron. " Ni wna yr holl weithfàoedd mŵn sydd yn cael eu gweithio yn awr yn Ewrop ac America, gynyrchu aur ac arian cyfatebol iddo mewn dim llai na thri chant a deg o flynyddau !"* Fe allai y dysgwylir i ni ddywedyd rhywbeth i gyfiawnhau neu gondemnio gwaith breninoedd a llywodraethwyr yn rhedeg i'r fath ddyled oesol. Eu cyfiawn- hau sydd yn ymddangos i ni yn aunichon, aphetreuliem amserlawer i'wcondemnio, bod yn rhanog o dalu llôg fyddai raid i ni wedi y cwbl, a hyny dros ddyled a osodwyd arnom cyn ein geni gan rai nas gwelsom erioed. Clywsom lawer o bryd i bryd yn ceisio cyfiawnhau y ddyled wladol, a dangos ei bod yn anhebgorol i'r rhai a'i gosodasant arnom i weithredu fel y gwnaethant; ond rhaid i ni addef ein bod eto heb ein hargyhoeddi : ac nis gall- Wn yn ein byw weled ei bod hi fymryn cyfiawnach na thecach i freninoedd a llyw- odraethwyr osod gorlwyth o ddyled ar oesoedd sydd heb eu geni, nag a fyddai i ryw rai ereill wneyd hyny. Ein barn ddiffuant ni ydyw, na ddylai brenin nac amherawdwr, na Uywodraeth chwaith, ryfela (pe yr addefem fod eisieu rhyfela) na dim arall ar draul oesoedd i ddyfod. Os na fydd ganddynt olwg am fodd i dalu eu ffordd, credwn y dylent fod yn Uonydd gartref, felpob dyn tlawd gonest arall. A pha reswm bynag a ddygír dros y fath ym ddygiad ganfreninoedd a llywodraethwyr, gellir dwyn rhai cyffelyb i gyfiawnhau personau wrth wneyd yr un modd. Ond pa beth a ddywedwn eto pan gofiwn mai ì dywallt gwaed y gwariwyd yr arian yr ydym ni yn talu llôg drostynt, ac y bu- asai yn hawdd pwrcasu heddwch hcb dywalltgwaed hefo llai na degwm jr arian a wariwyd, os nid heb ddim o honynt % A fyddai yn gyfiawn i ni, pe gallem, osod yr oes nesaf, sydd yn awr hcb cu geni, dan orfod i dalu llôg dros arian a wariwyd i dywallt gwacd miliwnau o rai diniwaid i * Gwel ■■' Bäl's Si/stem of Geopraphyr Vol. iii. ' ' I ddisychedu uchelgais a balchder ychydig o I bersonau % LLYTHYR RHYFEDÜOL. Yr oedd bachgen bychan yn Germani, yr hwn oedd yn bur hoffus o'i ysgol. Coll- odd ei dad ; a thrwy y tro galarus hwn, collodd bob moddion idd ei gadw yn yr ysgol. Yr oedd ganddo ef ddymuniad mawr iawn i fyned i ysgol oedd gan y Morafiaid yn yr ardal, ac yr oedd ei fam yn dymuno yr un peth. Ond yr oedd yn dlawd iawn, ac nid oedd ganddynt na pherthynasau na chyfeillion a wnaent eu cynorthwyo. Ond yr oedd y gŵr bychan wedi clywed a darllen am yr hwn oedd gyfoethog o drugaredd tuag at bawb a ulwant arno, ac wedi darllen am yr Iesu yr hwn a ddywedodd, " Gadewwch i blant bychain ddyfod ataf fi, canys eiddo y cyf- ryw raì yw teyrnas Dduw." Ac yr oedd wedi darllen fod Iesu Grist wedi dywed- yd, " Pa beth bynag a ofynoch i'r Tad yn fy enw i, mi a'i gwnaf i chwi." Yr oedd yn credu mai felly yr oedd, ondnisgwydd- ai yn y byd pa fodd i ddyfod ato i roddi ei gŵyn o'i fiaen ef. Ond daeth idd ei feddwl yr ysgrifenai efe lythyr ato, ac y dywedai efe y cyfan iddo ef. Dyma y llythyr, a'r geiriau oedd ynddo :— " Fy anwyl Arglwydd Iesu,—Yr wyf fi wedi colli fy nhad, ac yr ydym ni yn»bur dlawd, ond tydi a addewaist yn dy air y caniateit ti pa beth bynag a ofynom i Dduw yn dy enw di. Yr wyf fi yn credu yr hyn a ddywedaist ti, Arglwydd Iesu. Am hyny yr wyf yn gofyn i ti, fy Nuw, yn enw Iesu, am i ti roddi i fy mam fodd i fy nghynal yn ysgol y Morafiaid, Yr wyf fi yn dymuno hyn yn fawr iawn, i gael dysgu. Yr wyf yn erfyn arnat ti, Iesu da, ganiatau y deisyfiad hwn i ni. Yr wyf yn barod yn dy garu, ond mi a'th garaf yn fwy os gwnai hyn i mi. Dyro hefyd i mi ddoethineb, a phob peth sydd dda. Bydd wych, &c." Fe blygodd y plentyn y llythyr, ac a'i cyfeiriodd, " I ein Harglwydd Iesu Grist yn y nefoedd." Wedi hyn aeth âg ef yn eithaf difrifol, a chalon lawn o obaith, ac a'i rhoddodd yn y post-office. Pan y daeth y post-master, y dyn oedd yn edrych ar ol y llythyrdy, i wneyd y llythyrau i fyny, efc aganfu hwn yn eu mysg. Tafi- odd cf o'r neilldu, gan dybicd mai rhyw