Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

112 AMRYWIAETH. Yr acho3 o'r gwahaniaetb dirfawr rhwng y ddau fesur yn Australia ydyw bod y blaenaf yn priodoli i Brydain yr ardaloedd hyny yn Holland Newydd lle y mae sef- ydliadau ynddynt yn unig, pan y mae yr olaf yn cyfrif yr holl ynys ddirfawr hòno yn eiddo Brydain Fawr. Nid yw holl Ynys Brydain, sef Cymru, Lloegr, a Scotland neu yr Alban, ddim ond tua 87,000 o filldiroedd ysgwar, a'r Iwerddon tua 32,000; ac felly nid yw Brydain ei hunan, a chymeryd y cyfrif rhwng y ddau uchod, ddim ond tuag un ran o driugain o'r holl amherodraeth ! Y mae yr Almanach de Gotha yn dyfalu poblogaeth yr holl amherodraeth yn y flwyddyn 1827 yn 150,374,000, sef mwy nag un ran o chwech o boblogaeth y byd, yn ol y cyfrif a roddir o honynt yn y llyfr hwnw. Ond y mae Balbi, yr hwn sydd agosaf i'w le yn ein tyb ni, yn îs o gryn lawer, sef 140,450,000. Y mae yr awd- wyr hyn yn dosbarthu y boblogaeth fel y canlyn:— Almanagh de Gotha. Balbi. Milldiroedd Milldiroedd Yn Ewrop, Yn Asia, . . Yn Affrica, . Yn America, . Yn Australia,. ysgwar. . 21,590,000 . . 126,500,000 . 249,000 . . . 1,987,000 . . . 42,000 . ysgwar. . 23,400,000 . 114,430,000 270,000 . 2,290,000 60,000 150,374,000 140,450,000 Y mae yn amlwg fod y boblogaeth yn llawer iawn mwy yn bresenol. Yr oedd poblogaeth Ynys Brydain, yn ol cyfrif y llywodraeth yn y flwyddjn 1831, yn 16, 539,318 ; ac yn y flwyddyn 1841, yn 18, 535,786: ac os barnwn y cynydd yn y rhanau ereill o*r amherodraeth yn ol y cynydd cartrefol, cawn boblogaeth yr holl amherodraeth yn bresenol yn ddim llai na 177,000,000! Y fath nifer o blant Adda yn cael eu llywodraethu, mewn enw o leiaf, gan un ddynes ieuangc sydd yn byw yn Llundainl Cymerwn olwg yn nesaf ar werth yr amherodraeth. Y mae Mr. Colquhoun, yn ei waith ar gyfoeth yr amherodraeth Frytanaidd, yn dyfalu y cynyrch blynydd- ol yn y flwyddyn 1812, fel y canlyn:— Ewrop, America, Affrica, Asia, Y cwbl . P.432,339,372 41,927,940 800,ri00 . 218,160,724 . /».693,228,330 Y mae yr un gwladwriaethwr enwog yn dyfalu gwerth y Deyrnas Gyfunol, a'i holl diriogaethau a meddianau yn mhed- war chwarter y byd, yn yr un flwyddyn, sef 1812, fely canlyn :— Yn Ewrop, . Yn America, Yu Affrica, , Yn Asia, . P.2,758,801,330 221,810,224 4,770,f;00 . 1,111,148,841 Y cwbl . . . P.4,096,530,995 Y mae llawer o wahanol gyfrifon a dy- faliadau cyffelyb wedi eu gwneyd o bryd i bryd gan wahanol enwogion, ond y mae yn eglur nas gallont fod yn ddim amgen na dyfalu—dim amgen nag ymchwil am y gwirionedd ; ond rhaid addef yr un pryd eu bod yn fedrus a chywrain. A pha un bynag ai mwy ai llai na'r cyfrif uchod oedd gwir werth yr amherodraeth yn y flwydd- yn 1812, y mae wedi dirfawr gynyddu erbyn hyn, yn enwedig yn America ac Asia. Yr hyn a ddaw dan sylw yn nesaf ydyw y Cyllid (revenue). Un ffynonell o ba un y tardd cyllid y deyruas ydyw y Cus- toms, sef y dreth neu doll a delir dros nwyfau a ddygir i'r deyrnas hon o wled- ydd tramor. Sefydlwyd hon yn amser Edward I., ac nid oeddent yn amser Eliza- beth ond P.50,000 yn y flwyddyn! Yn 1689 cynyrchent P.782,000,ac yn y flwydd- yn 1838 yr oeddent yn P.22,063,118. Yr ailflynonell fawr sydd yn rhoddi cyllidyd- yw yr Excise, sef trethi a godir ar bethau a wneir yn Mhrydain, megys brag, papyr, gwydr, &c. Sefydlwyd hon yn y flwydd- yn 1643, ac yr oedd y cyllid a gynj rchwyd yn 1837 yn P.14,518,142. Tlhan helaeth arall o'r cyllid a geir oddi wrth Stampiau, yr hyn a ddechreuwyd yn 1671. Derbyn- iodd y llywodraeth yn y flwyddyn 1837 dros saith miliwn o bunoedd oddi wrthynt. Cangen bwysig arall yw y Post-office, yr hon a sefydlwyd gyntaf yn Lloegr yn y flwyddyn 1581 ; ond ni ddechreuwyd ci rheoleiddio gan y senedd hyd 1656 : ac estynwyd hyn i Scotland yn 1685. Yn y flwyddyn 1644 cynyrchodd P.5,000 o gyll- id ; yn 1674, P.43,000, a chynyddodd o hyd mor gyflym fel y cawn hi yn 1838, cyn talu costau, yn P.2,339,738, ac o gyll- id glàn wedi talu pob costau P.ì,641,lûí> 16s. íc. Gwir fod gostyngiad y Hythyr- doll i geiniog y llythyr wedi Ueihau y rhan