Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

110 AMRYWlAEÎIÎ. fy euaid erioed ynfyniywyd ; a phe bawn , yn marw fel yr wyf cawn fyned i uffern. ; Hi ddaeth yn annedwydd a thruenus, ac nis gwyddai pa heth i wneyd, na pha le i fyned ; canys nid oes genym un lle add- \ oliad, Syr, yn y gymydogaeth. O'r diwedd j hi a gofiodd iddi glywed fod, mewn pentref I rai milldiroedd oddiacw, ryw hobl a elwid \ yn bobl i Dduw, ac a benderfynodd fyned I yno. Ac felly hi a aeth, ac a fynegodd | iddynt gyflwr trallodus ei meddwl. Der- byniodd y gwirionedd fel y mae yn yr . lesu, profai wirionedd a daioni dywediad ' yr Apostol, fod i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef, maddeuant pechodau, (Ephes. i. 7.) Ymunodd â phobi yr Ar' j glwydd yn y lle hwnw yn nodedig o gref • ' yddol a duwiol, a bu farw ychydig cyn i '■ mi adael cartref, Syr, mewn Jfydd a thang- nefedd. Prin y goddefai teimladau y gweinidog iddo yngan gair yn mhellach, eithr efe a •' ddychwelodd i'w ystafell, â chalon lawn o j ddiolchgarwch i Dduw, ac yn fwy ystyriol nag erioed o bwysfawredd a llesoldeb y I gwaith o weddio dros ereill. 1 Dyma siampl deilwng o'i hefelychu. | ROBERT WlLLIAMS. ! Llaìideüo, Chwef. láeg, 1846. | PRYDAIN FAWR. " I' the world's vo!ume, Our Britain seems as of it, but not in it." I NlD yw Ynys Brydain (sef Lloegr, yr ' Alban, a Chyrnru) fel rhan o'r byd, ddim | ond megys deilen meillionen ar lawr bu- | arth, neu ôl troed dyn mewn maes eang. ; Dywedir mai Brydain bach yr arferai Dr. Franklin ei galw ; ac wrth ystyried ei I maintioli cymhariaethol, y mae yn llawer mwy priodol ei galw felly. Yn yr oesau j y bu Chaldea, Persia, a Groeg, pob un yn ei thro, yn dal teyrnwialen y byd, ac yn llywio tynged y cenedloedd, nid oedd gan Ynys Brydain ddim mwy o lywodraeth a dylanwad ar helyntion y byd nag sydd gan Ynys Enlli yn y bedwaredd ganrif- ar-bymtheg. A phan oedd Rhufain hi- thau wedi hyny yn eistedd yn y gadair amherodrol, yn freninesy cenedloedd, nid oedd ein Brydain ni yn cael edrych arni ond yn union fel yr edrychwn ni yn awr ar un o ynysoedd yr India Orllewinoi — fel ynysig yn cynwys ychydig o farbamid, ond prin gwerth y drafferth i'w darostwng er mwyn yr anrhydedd o'i meddianu a'i llywodraethu, a gwneyd ceiniog o honi yn y naill flbrdd a'r llall. Rhaid hef)d fod llawer oes hirfaith, 'ie, ganrifau lawer, wedi llithro yn ddystaw dros ein hynysig fechan cyn i Iygad dyn agoryd arni erioed—cyn cael ei hanrhyd- eddu âg ôl traed creadur rhesymol ar ei gwyneb anwar ; ac yn enwedig cyn i gelf- yddyd fabanaidd osod ei llaw ar na chareg na choeden o'i mewn, oblegid y niae mewn congl bellenig o'r fan a ddewiswyd gan y Creawdwr yn gartref i rieni dyn. Ond erbyn heddyw, y mae Brydain bach wedi dyfod mewn gwirionedd yn Brydain Fawr, yn meddu eangach a grymusach dylanwad ar y byd nag a feddianodd un amherodraeth arall er pan y crè'wyd ef. Y mae ei phenadur yn llywodraethu ar niferi o ddeiliaid lluosocach nag sydd yn cydnabod yr un penadur araìl ar wyneb y ddaear, oddieithr yr " Amherawdwr Nef- olaidd " ei hunan, deiliaid yr hwn, yn dra thebyg, ydynt lawer llai na'r nifer a fostia y Chinè'aid eu hunain. Gyda golwg ar ein penadur ni, gellir gyda chywirdeb arfer hen fòst yr Hispaeniaid—"Arlyw- odraeth ein brenines ni, nid yw yr haul byth yn machludo." Y mae ei Uywodr- aeth yn c\raedd dros ddwy ran o dair o'r belen ddaearol, a mesur gyda'r hydred ; ac o ganlyniad gellir dywedyd heb or- moddiaeth, nad yw yr haul yn machludo ar ei thiriogaethau, canys y mae yn haner dydd ac yn haner nos ar unwaith o fewn cylch ei llywodraeth. Ac y mae yn cyr- aedd hefyd, er nad yn un cyfandir difwlch, o'r cylch rhewllyd gogleddol (arctic cir- cle) hyd 33 gradd o ledred deheuol, ac felly yn mwynhau pedwartymory flwydd- yn ar unwaith. " Yn Ewrop," medd M. Dupin, " y mae amherodraeth Brydain yn terfynu ar unwaith tua'r gegledd ar Denmarc, ar Germany, ar Holland, ar Ffraingc ; tua'r deau ar Hispaen, ar Sicily, ar Itaíy, ar Twrci. Y' mae hi yn dal allweddaujr Adriatic a Mòry-Canoldir; y mae myn- edfa y Mòr Du yn gystal a'r Baltic dau ei hawdurdod. Yn America, y mae bi yn gosod terfynau i Rwssia tua'r pegwn, ac