Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DRYSORFA WESLEYAIDD. RHif. 6.] MEHEFIN, 1822. íCyf. 14. BUCHEDDAU. BYWYD A 31ARWOLAETH Y PARCHEDTG EDWARD JONES. [Parhâd o tu dal. 103.] Oddi yma mi a aethum i Lundain. Yma y cefais ddigon o lefydd o addoliad i fyned iddynt; ond y llemwyaf mynycli yr oeddwn yn myned i wrando oedd íý cwrdd y Methodist- íaid Cymreig. Fe 'm cymhellwyd yn fawr i fyned atynt i'r society, ond nid oedd ar yr iach, fel fi, eisiau myned i yrii- ofyn am y Meddyg. O ganlyniad, yr oeddwn i, fel Ffelix gyda Paul, yn barod iddywedyd, Dos ymaith ar hyn o bryd, a phan bydd genyf amser mwy cyfaddas, mi aalwafam danat. Mi a aethum rai troau i wrandoar y Crynwyr, ond ni chefais fawr o fudd i'm henaid. Yr oedd yoo bob peth yn bur dawel, ac nid oedd y diafol yn cael fawr i'w flino; canys, yn ol fy meddwl i, yr oedd yn cadw ei neuadd a'i ddodrefui yn heddychol. Yr oeddwn hefyd y pryd hyn yn myned i wrando pregethwyr Lady Huntingíon yn bur fynych, ac mae yn rhaid i mi gyfaddef fy mod yn cael daioni wrth fyned, os oeddwn y pryd hyny yn gymwys i farnu beíh oedd daioni: yr oedd fy nymuniad i yn fawr i wybod be.th oedd gwirion- edd. Yr oeddwn yn crwydro o le i le lieb fod yn sefydlog inewn un lle: yr oeddwn yn ofniyr Arglwydd, ac yn gwran- do ar lais ei was ef, yn rhodio mewn tywyllwch, ae heb lewyrch i mi. Yr oedd fy nymuniad yn fawr i adnabod yr hyfryd lais, ac i rodio yn llewyrch wyneb Duw; ond ni éhefais am amser maith ar ol hyny; canys mi a welais mai nìd o'rhwn sydd yn ewyllysio, nac o'r hwn oedd yn rhedeg ychwaith, ond o Dduw sydd yn trugarhau, fel na orfoleddai ger bron Duẁ, ond y byddai i'r hwn a ymífrostiai ymffrostio yn yr Arglwydd. Yr oeddwn y pryd hwn yn dueddol i íyned i glywed pobl Mr. Wesley, i gapel Queen-street; a thueddwyd fy meddwl atyntyn fwy nag at neb arall oeddwn i yn glywed ; ac yroedd genyf ddymuniad i fwrw fy nghoel- bren yn eu mysg: ond ni ddarfu i mi tra bum yn y dref; 2 e