Skip to main content

DRYSORFA WESLEYAIDD. Rhif. 3.] ~~ MAWRTH, 1822~ ~ [Cyf. 14. BUCHEDDAU. AT OLYGWR Y DRYSORFA WESLEYAIDD. Mr. Golygwr, Gan nad oes gof genyf weled yn y Gymr- áeg hanes buchedd y diwygiwr enwog Luther, meddyliais na fyddai ychydig yn eich Trÿsorfa, dan y pen Bucheddau, ynannerbyniol gan y derbynwyr; felly, wele a ganlyn at eich llaw, pan fyddo y gell hon yn wag. W. D. Aberystwyth, Rhag. 12, 1821. HANES MARTIN LÜTHER. LüTHEÍl a anwyd yn Islebon, yn swydd Mansfield, yn, tìhalaetb uwehaf Sxony, ar y lOfed o Dacbwedd, 1483, yr hwn oedd ddydd gŵyl Sí. Marfin, yr hyn fu yn achos i'w rl'eni ei enwi ar enw Martin. Ei dad a'i fam, y rhai nid oeddynt o sefyllfa uchel, oeddynt yn byw mewn pentref bach gerllaw ; ond rhyw amgylchiadau o bwys a'u galwai i Islebon; pan yno, daeth tymp ei fam, ac aesgorodd ar ei mab. Wedi hyn ni aroshasant yn hir yno, ond symudasaut i Mans- field, lle y dilynodd ei dad ei alwad o goethi metel; a dy- wedir mai oddiWrth yr alw«d hon y cafodd ei enw, Luther neu Luder, pa air, yn yr iaith Allmaen, sydd yn arwyddo y gelfyddyd hon. Mae crybwyiliad anrhydeddusyn cael ei wneyd am dduw- ioìdeb ei rîetii ; ac yr oeddynt yn dra gofalus am roddi dysg- eidiaeth dda i'w mab Martin; ac felly gosodasant ef yn yr ysgolion goreu i'w oed ac a allasai eu sefyllfa ganiatau. Ar ol iddo orphen ei astydiaeth grammadegol yn Magdeburg ac Eisenach, symudwyd ef i Erfurth, prif ysgol yn Thuringia, yn mha le yr aeth trwy gylch o phiiosophyddiaeth, ac a ẃnaed yn Athraw ỳn y Celfyddydau, yn y flwyddyn 1503, pan oedd yn ugain oed ; ac wedi hyny a etholwyd yn bro- fFeswr mewn athroniaeth naturtol ac athrawiaeth moesau; er