Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR 'EURGRAWN WESLEYAIBB, NEU DRYSORFA, éfc. fyc. RHIF. 9.] MEDI, 1821. [CYF. 13. Çoffadwriaeth am Mr. JOHN HEARNSHAW. [Parhàd o tu dal. 283.] " IONAWR 3, 1808. Yr oedd yn amser o sobrwydd ang- hyffredin yr hwyr yma, yn adnewyddiad ein cyfammod. Ýr oedd yn ymddangos fod pob enaid yn teimlo mor ofnadwy ac mor ogoneddus yw ymgyfammodi â'r Jehofah; a thra mewu ymdrech yn dadleu am gymwysiad gwaed y cyfam- mod, bu yn foddlon i wrando ein lief, gan chwalu ein hofnau, pa rai sydd yn dwyn poenau, a'u derbyn ato ei hun, Nyui a glywsom am dri a dderbyniodd, ac agafodd heddwch gyda Duw. 4< Mawrth 2, Myíî a bregethais y boreu Sabboth diwedd- af yn King-street, ar 2 Cor. 5. 14. Yr oedd y testyn wedi gweithredu yn ddwfn ar fy meddwl ers dyddiau, ac hefyd tra yn pregethu. Mi a deimlais yn awr, fel canoedd o. weithiau o'r blaen, mor ofnadwy a phwysig yw swydd a charitor Cenhadwr Crist; ac fel y profais, felly y llefarais. Pe buaswn yn gwybod y galwasid fi o flaen y farn ar fy nis- gyniad o'r areithfa, ni buasai mwy o awydd ynof i lefaru wrth y gydwybod, a gwaredu fy enaid fy hun. Yr oedd cariad Crist y n fy nghymell. Ar oí rhoddi cymorth drachefn i wein- yddu y cymuu, mi a gefais fod fy uerth wedi fy ngadael. Mi gefais fy nghaethiwo i'm gwely dros ddau ddydd, ac mae yn debyg y teimlaf yr effaith dros wythnosau, os nad dros fisoedd. Bydded felly; yr wyf yn foddlon. Nid yw fy nghalpn yn fy nghondemnio, nac Efe, sydd yn fwy na'm. calon, ac yn gwybod pob peth." . Hon pedd ei ymdrech olaf; ac nis gallodd godi ei ben mwyach. Dros fis cyflawn bu yn nychu mewn poén agwen- Medi, 1821.] % S