Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ù7 M-IWnNHWil ©WILATOIL h OT1AM« GYD AG AMRYW BETHAU ERAILL, A GYMMERWYD O Bapuran p jl?etopDDton. Batavia. Mae newydd o'r lle uchod yn mynegu am ddynes wyllt a gymerwyd ynddiweddar, y'mherfedd ynys Java; nid yw'n siarad, ond gwneud sŵn tebyg i amryw greaduriaid; mae sain ei Hais yn hynod o debyg i gŵn byehain; mae yn rhedeg ar ei thraed a'i dwylaw, dringo^r coed gydâ rhwyddineb, ac yn neidio o gaingc i gaingc fal eppaod, ac anaml y diango adar, &c. rhagddi. Ymddengys ei bod o gylch deg ar hugain oed, a me- ddylir iddi wahanu oddiwrth ei ehyfeillion yn ieuangc, ac wedi tyfu i fynu gydâg anifeiliaid, nes y mae wedi greddfu yn eu hymarferiadau; mae hi yn gwrth- od pob math o luniaeth ddynol. Rhybudd angenrheidiol i'to ystyried. Cynhaliwyd Cttest yn ddiweddar yn Ridge, Wilts, ar gorph Sarah Gane, yr hon a fu farw y prydnhawno'r blaen,trwy yfed dwfr oer, pan oedd mewn chwys poeth. Y dydd o'r blaen, dyn yn Tisbury, ac un arall yn Chilm«ark, a achubwyd yn rhag- luniaethol, trwy ymdrech medd- ygon enwog, rhag marwolaeth ddisymwth, trwy yfed dwfr oer pan oeddynt mewn chwys, a'u gwaed yn boeth. Yn Coker, Klizabeth Giles, ac Adcombe Williams, Burrids, a gollasant eu bywydau trwy yr un achos. At hyn gallaf ychwanegu, trwy brofiad: Ẁedi cerdded nn diwr- nod, amryw filldiroedd yn Aíf- rica, yfais ddwfr oer o ífynon, yr hyn a daflodd fy ymysgaroedd i'r fath boen ac ing, fel nad oedd dim i'w ddisgwyl ond angau, am rai oriau, nes yn rhagluniaethol y'm gwaredwyd, trwy ddiwyd- rwydd G. de Wilson, mab brenin Bwlam, yr hwn sydd feddyg en- wog. W. D. St. Ives. Ynysoedd Môr y De. Mewn llythyr oddiwrth Mr. John Will- iams, Cenhadwr, mae'r hanes dedwydd canlynol. " Sefyllfa'r Genhadaeth sydd yn dra dymun- ol, ac yn galw am uchel ddiolch- garwch oddiwrth bob un ag sydd yn dymuno llwyddiant Seion. Mae hollol gyfnewidiad wedi cymeryd lle trwy'r holl ynjs, o eulun-addoliaeth i Oristionowg- rwydd; ac amryw wedi eu gwir droi o natur i râs. Maent yn dechreu y Sabboth yn y modd canlynol;—O ddeutu chwech yn y borau, maent yn cyfarfod yn y tỳ addoliad i gynal cyfarfod gweddi yn eu plith eu hunain, ac y mae'r Ile mor Ilawn a phan y maent yn cyfarfod i glywed pregeth; maent yn darllen,canu, a gweddio, dau yn uno mewn gweddi; yna y dychwelant i'w tai i fwyta eu boreu bryd. Mae eu bwyd wedi ei barotai y d}dd Sadwrn oV blaen, ac nid oes tân ty weled yn yr holl ynys ar y sabboth, ond ychydig sydd gen- ym ni i ferwi'r crochan Tè. O ddeutu haner awr wedi wytb, neu naw, cyfarfyddant drachefn,