Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR .. Cttrgt atmt emeslepdtöö, NEU DRYSORFA, <ÿc. ÓfC. Rhif. 5.] MAI, 1820. [Cyf. 12. BYWGRAPHIADAU. HANES BYWYD A MARWOLAETH Ỳ PARCHEDÎG DAFYDD JONES. [Parhad o tu daU 104.] A ganíyn yw sylweddeilythyr at eirieni,pan y cyrhaedd- odd gyniaf i dir cras-boeih yr India. "Fy änttyl Rieni, Antigua, St. John, Ionawr 12, 1818. "Gan fy mod yn caeí ý eyfleusdra i anfon llythyr gydâ Chadben Small, i St. Thomas, ac oddi yno fe a'i hanfonir i Loegr; yr wyf yn oymmeryd y cyfleusdra cyntaf i ysgrifenu, i'r diben i'ch hyspysu am fy.nyfodiad diogel yma neithiwyr oddeutu 7 o'r gloeh, ar ól mor-daith o saith wythnos, ac un diwrnod; o'r amser y darfu i ni adael Llundain. Yr wyf yn bur iaeb, ac nid oes genyf amheuaeth na byddaf yn hynod o'r cysurus a dedwydd yn yr India Orllewinol. Cawsom demhestl ddirfawr ar y môr, am agos i ddau ddiwrnod, ond cawsom oll trẅy drugaredd, ein cadw a'n dwyn yn ddiogel i ben ein mor-daith. Nid oes genyf amser i ysgrifenu hanes am bethau neillduol, gan fod y Cadben ar hwylio ymaith. Y mae St. John yn dref hyfryd, a'r tai ẃedi eu hadeiladu o goed. Y mae 'r hîn yn awr mor gynhesed gydâ ni, ag yw yr hâf yn Lloegr, er mae hwn yw y gauaf yn yr India Or- ílewinol. Y mae?r wlad yn ymddangos yn hynod o'r mynyddigj ond ni bu 'tìi i eto allan o'r dref. Yr wyf yn bwriadu ysgrifenu eto cyn bo hir; a'r pryd hyny, myfi a roddaf hanes manylach o'r for-daith, ynghyd â desgrifiad o'r ynys: y mae yn debygol y bydd i mi aros yma hyd ein Cyf- arfod Talaithiol, yr hwn sydd i fod yn mheu y mís. Cofiwch fi at y Pregëthwyr, ac at bawb a ddigwydd ymofyn am danaf. Wyf-yn gorphwys, Eich üfudd Fab, DAFYDD JONES.''