Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EURGRÂWN ẀESLEYAIDD, NEU DRYSORFA, &c. Rhif. 11.] TACHWEDD, 18.19 [Cy'f. xi, Bptog?aj$taöau- HANçES BYR AM MR. THOMAS ^ELLJS. Mr. Thomas Ellis a anwyd yn Rigton, yn agos i Leeds, Gorp^enhaf 13, 1726. Yroedd ei rieni yn aelodau o Eglwys Loegr, ac yn bur reolaidd yn eu harferiad a'u hordeinhadau. Ac yr oeddynt mewn parch gan eu cynimydogion, am eu gonestrwydd, eu diwydrwydd, a'u llonyddwcli. Hwy a ddygasant eu plant i fynu yn yr un broffes; a'n hymadawedig gyfaill a lyngcodd yn foreu ragfarn gref o blaid yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd yn bur wastadol yn ymarfer âg addol- iad dwyfol; aç nid yn gwbl heb argraphiadau sobr ynghylch mawredd pethau dwyfol: er hyny efe a fu byw yn ddieithr i Dduw, a phrofiad o grefydd, amlawer blwyddyn. Oddeutu amser ei briodas, dechreuodd pregethwyr y Wes- leyaid bregethu yu Tadcaster. Canlynwyd eu dyfodiad cyntaf i'r dref hon gydâ chryn erledigaeth; ond yr achos oedd o Dduw, ac nidellid eiddadymchwelyd. Yn nghanol y gwrthwynebiadau, y gair a fu yn fuddiol i lawer, a phech- aduriaid a drowyd o feddiant satan at Dduw. Yn mhlith eraill a aeth i wrando ar yr athrawiaeth newydd (fel ei gelwid hi), yr oedd Mrs. Ellis. Hi a dderbyniodd lawer o les odan y gair, ac alawn argyhoeddwyd o'r angenrheidrwydd o aîl- eriedìgaeth.. Hi a ddechreuodd geisio manau dirgel er mwyn addidiad dirgel; ac ni chydunai mwyach gydâ gwag ac an- fuddiol ymddiddanion. Y cyfnew|diàd hwn yu ei hym- ddygiad, a f\\ yn debygar y cyntaf o fod yn ffynon o anes- mwythder yn ei theuìu, o herwydd ei bod hi, fel yr oedd ef yn meddwl, yn wraig grèfyddol er's blynyddau, ac yn ddi- gon da ÿn barod ; àc yn cyfrif fod pob ymdrech am fwy o S s