Skip to main content

Yft EURGMAWN WESLEYAIBB, NEÜ DRYSORFA, &c. Rhif. 10.] HYDREF, 1819. [Cyf. xi Bptog?apl)taûau. HANES BYR AM MR. WÎLLIAM ELLIOT. William Elliot a anwyd ynninas Cork, Awst 14, 1780. O herwydd fod ei rîeni yn rhai crefyddol, hwy a gymmer- asant lawer o boen i'w ddysgu yn ngwirioneddau yr efengyl; a'r Arglwydd a lwyddodd eu duwiol ymdreehiadau, fel yr oedd ofn Duw o flaen ei lygaid o'i febyd. Yr oedd yn uf- udd i'w rîeni, ae yn addfwyn wrth bawb, ac awydd yn ym- ddangos i ymarfer â moddion gras. Yn mhen peth amser, efe a unodd â'r Wesleyaid, ac a barhaodd ryw hyd; ond trwy esgeuluso gweddio a gwilio, efe a ymadawodd â'i sobr- wydd, ac a dderbyniodd ysbryd ysgafn, gwag, a chellverus; a dynwyd ymaith oddiar y ffordd dda, a bu agos a chael ei faglu i anghredu y bod o Dduw. Yr Árglwydd, doethineb yr hwn sydd ddyfnder mawr, a ymwelodd âg ef gydâ chys- tudd oddeutu'r Gwyliau 1796. Yr oedd yr afiechyd yn ymddangos ar y cyntaf fel anwyd mawr, ond a derfynodd mewn darfodedigaeth cyflym. Un diwrnod, pan oedd mewn poenau dirfawr, yr Arglwydd a'i harweiniodd i adfyfyriad ar yr hyn a fuasai unwaith— cynnygiadau dwyfol ras a wrthodasai—y cyfleusderau oedd wedi eu camddefnyddio ; ac yn awr, yn ol pob tebygolrwydd, yn marw heb ran yn Nghrist. Yr ystyriaethau hyn a'i dy- chrynodd yn ddirfawr. Efe a ddywedodd wrth gyfaill, ei fod y pryd hyn yn teimlo holl ddychryniadau cydwybod euog, a digofaint Duw yn aros arno; a bod uffern fel vn symmud oddi tano, i'w gyfarfod yn ei ddyfodiad. Yn y sef- yllfa ddychrynllyd hon, efe a ddechreuodd alw ar enw yr Oo