Skip to main content

YR EÜRGRAWN WESLEYAIDD, AM AWST, 1841. BUCHEDDIAETH. COFIANT BYR AM MR. EDWARD MILLS, LLANERFYL, SWYDD DREFALDWYN. " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendig- edig." Er iddo fod yn ei fywyd yn agored i absen, gwaradwydd, ac erlid; eto, ar ol ei farwolaeth, bydd ei " enw da yn well nag enaint gwerthfawr," yn gadael ar ei ol yn y byd berarogl adfywiol a byfryd, yn anrhydeddus achymeradwy gyda Duw a dynion. Ac fe ddylai y rhai a fu yn ddefnyddiol yn eu boes, ac yn ddedwydd yn eu marwolaeth, gael eu dal allan yn siamplau i ni y rhai byw, er cadarnhäu ein hyder yn yr Arglwydd, a'n cynbyrfu i ymdrechiadau helaethach a pharhaus; canys y mae y Blaenor mawr wedi ei go- sod yn ddyledswydd arnom, i fod " yn ddylynwr i'r rhai trwy ffydd ac amyn- edd sydd yn etifeddu yr addewidion." Ac mae achlesu coffadwriaeth ein cyfeillion ymadawedig, yn werthfawr a boddhao! ; aphan ydym yn meddwl am " waith eu ffydd, lláfur eu cariad, ac ymaros eu go- baith,"y maent "wedi marw yn llefaru eto." Y diweddar Edward Mills oedd fab i Edward ac Ann Mills, o'r Goetrefach, plwyf Llanerfyl. Dechreuodd ei daith grefyddol yn y flwyddyn 1807, pan oedd ond yn brin Mmlwydd oed. Yr oedd rhai yn ei wrthwynebu yn danbaid o her- wydd ei ieuenctid, gan feddwl na wnai ond bod yn anwadal, a throi yn ol,a thrwy hyny dynu gwarth ar yr achos goraf. Eithr er fod llawer o'r rhai hyny, er ys blynyddau, wedi troi yn ol i'r Aipht, parhaodd ef yn ffyddlon a diwyd gyda'i Dduw hyd ddiwedd ei fywyd. Nid oes ond ycbydig i'w ddy- wedyd am y rhan gyntafo'i yrfa grefyddol. Cyfarfyddodd a llawer o elynion ^byw a cfcedyrn,—eafodd groetautrymion i'w cyf- odi,—a gwelodd amryw gyfnewidiadau ; ond ni wyrodd unwaith oddi wrtb yr achoi da; daeth allan o'r cyfan fel aur wedi ei buro. Pwysai lawer ar yr addewid hòno, " Digon i ti fy ngras i." Yn ngwyneb pob stormydd efe a redai at ci Dduw, ac a wnai ei noddfa gydag ef. Wedi bod yn aelod cyson uwch law un mlynedd ar hugain, efeawnaed yn flaenor ar restr yn Llanerfyl, ac a gyflawnodd y swydd bwysig gyda sel wresog, ymdrech mawr, a gofal dibaid, nes y Iluddiwyd iddo gan afiechydbarhäu. "Nid hawdd," medd Thornas Jones, ei gydflaenor, " yw cael iaith na medr i osod allan werth y brawd hwn, er pan osodwyd ef yn flaenor, hyd. ddydd ei farwolaeth. Yr oedd ef yn bro- ffeswr difefl—yn Israeliad yn wir. Tjra yr oedd efe feJ Enoch yn rhodio gyda Duw, ymdrechai hefyd i rodio lygad yn Ilygad â'r ddysgyblaeth mewn gwylder a sobrwydd. Nid oedd ef yn broffeswr cybyddlyd; ond fel Nehemiah a'i bobl,wedi cael calon i weithio : pwy bynag a fyddai yn brin, byddai ef yn hael atbobachosda. Yr oedd ef yn Abraham mewn ffydd,—yn Foses mewn llarieidd-dra,—yn Jobraewn amynedd,—yn Dafydd mewn sel,—ya Ioan mewn cariad. Pwy bynagfyddai yn absenol o foddion gras, byddai ef yno, yn enwedig y cyfarfod gweddio am chwech o'r gloch bore y Sabboth. Anfynych y bûm yn y cyfarfodydd hyny, ar ol e: ym- adawiad, heb deimlo yn ddwys y golled am dano. Ac yr oedd ef yn ddiwyd iawa hefyd gyda'r Ysgol Sabbothol. Byddai e» jryngborion yn ysgrythyrol, eymhwyc- iadol, a gorfolcdduc ; a byddai bcb mw