Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ylt EUHGRAWN WESLEYAIDD, AM MAWRTH, 1841. BUCHEDDIAETH. COFIANT AM MISS MARGARET JONES, O'R YSGOL WLADWRIAETH- OL, MACHYNLLETH. GAN EI BBAWD. Eb nad ellir goreuro tudalenaü byw- graffiad menyw â gwrol-gampau milwr- aidd, na chwaith â darganfyddau rbyfedd- olynynia theithi anian; eto dichon fod ar ei hwyneb ddysgleirdeb rhagorach nag yr un o'r rhai yna. Os bydd iddynt yn unig ond arddangos ychydig o adlewyrch- iadau pelyderau Haul y Cyfiawnder, hwy a ragorant gymaint mewn gogoniant ar lafrwydd y gorchfygwr, neu dlysau enwog- aeth a hynodrwydd, ag a wna tywyniad haul hanner dydd ar wanlewyrch magîen (ÿlow'worm). Gwrthddrych y byr gofiant hwn ydoedd ail ferch y diweddar Barch. Lewis Jones, o Benywern, Swydd Feirion, yr hwn a fu am 22 o flynyddoedd. yn weinidog llwyddiannusia chymeradwy yn Nghyfun- deb y Trefnyddion Wesleyaidd, , Ganwyd Margaret yn Llangollen, Swydd Ddinbych, Ion. 23; 1817. Yr ydoedd wrth natur yn un o dymher lon a bywiog; a chafwyd hi bob amser yn gyd- ymaith dymunol, yn gyfeilles gywir a di- dwyll, yn ferch hoffus, ac yn chwaer garu- aidd. Ei fFaeledd naturiol ydoedd poethder ei thymher ar rai achlysuron. Ond cawsom y pleser o weled fod hyny, trwy ras Duw^ yn darfod yn raddol, nes ei ddinystrio yn llwyr cyn ei hafiechyd diweddaf; yn gy- maint felly ag y gailai hi oddef gwahanol weithrediadau ei hafiechyd dihoenus gyd- ag ymostyngiad a gwroldeb anarferol. Ymunoddâ'r gymdeithas Wesleyaidd ryw bryd tua'r flwyddyn 1829, pan ydoedd gyda'i thad yn Nghylchdaith Llangollen. A hi oedd y gyntaf o'i blant a gofleidiodd yr efengyl a gyhoéddid mor flyddlón gan- ddo. Hi a ganlynai yn eon wrth achos ei Gwaredwr y pryd hyn yn ei hieuenctid, gan gymeryd ffurf, ac ymofyn am rym duwioldeb. Byddai hi a nifer o éhwior- ydd ieuainc yn cynal cyfarfodydd gŵeddio ar amserau penodol yn ddirgel, er eu lles ysbrydol, a'u cynydd mewn gras. O'r pryd hwn hyd ddiwedd ei bêr yrfa Grist- ionogol. yr oedd ei hymarweddiad yn dei- Iwng o'r grefydd a brofíesid ganddi. Yr oedd ei chywirdeb yn ymddangos yn eglur yn ei gwaith yn cyfarfod mor rheolaidd yn eirhestr; yr hyn a wnaeth hi hyd ddiw- edd ei bywyd, namyn ychydig eithriadau pan fyddai amgylchiadau yn ei hattal yn anorfod, o herwydd pa ham yr ymofidiai yn ddwys, ac y cwynai; ei cliolled yn ddir- fawr. Tua diwedd ei hoesyroedd hi yn fwy ymdrecbgar fyth i ymarfer â holl or- dinbadau tŷ Ddow, ac ni adawai i bethau dibwys ei chadw o foddion gras ar un cyf- rif. Ac os gellid ei pherswadio i aros gartref weithiau ar dywydd annymunol, o herwydd ei bod mor wan ac afiach, hi a gwynai ar ol hyny ei bod yn bynod o'r annedwydd, o herwydd ei habsenoideb o dŷ yr Arglwydd. O na baem ni oll, fel aelodau o'r Cymundeb Wesleyaidd, nid 0 fewn ychydig, ond yn gyfrywagoeddhi. Gellir ystyried ei hoes yn fath o bererin- dod:—Symudai yn fynych, ac ni bu ei harosiad yn hir yn unman; o herwyddpa hara nis gallodd fod mor ddefnyddiol yn yr Ysg-ol Sabbotbol, ac mewn Cristionog- 01 ymdrechiadau, ag y ffallasai /od pa bu-