Skip to main content

YR EURGRAWN WESLEYAIDD, Am Tachwedd, 1839. BUCHEDDAU. COFIANT AM EL1ZABETH HUGHES, GYNT GWRAIG JOHN HUGHES, O LANDDÜLAS. Gwrthddrych y Cofiant hwn ydoedd i'erch hynaf i Samuel ac Elizabeth Bart- ley, Pantygloch, Llandriüo, swydd Ddin- bych. Hi a anwyd y seithfed dydd o £b- rill, yn y flwyddyn 1804, ac a ddygwyd i fyny o dan aden a gofal rhiant crefyddol, pa rai oeddynt wedi yrnuno yn un o'r rhai cyntaf âg achos y Wesleyaid yn Llan- drillo, ac a agorasant eu drws i dderbyn y Cenadau hyn i Frenin heddwch, i gael eu hymgeleddu a'u croesawu, fel y gall holl Weinidogion Gogledd a Deheudir Gymru dystio, oddi eithr y rhai ieuainc sydd eto heb ddyfod i'r parthau hyn o'r wlad, yn nghyda llawer o Bregelhwyr Cynorthwy- ol hefyd, pa rai oll a gawsaut, fod ei dŷ iddynt hwy, a'u ceffylau, yn lletycysurus i brophwydi yr Arglwydd ; ac yr oedd- ynt, ac y maent eto, yn ei chyfrif yn fraint o gael gwneuthur hyn tuag at achos Iesu yn y byd, o dan lywodraeth fanylaidd pa rai ni oddefid iddi fyned i gaalyn ffoledd yr oes, yr hyn, o dan fendith y Jehola, a fu o ies mawr iddi mewn amser dyfodol. Ymddangosai ynddi pan yn ieuanc, feddwl cryf, ac ysbryd bywiog, yn nghyda thyner- wch a thosturi,a llawer o rinweddau ereill, pa rai, mewn oedran addfetach, a ddang- osasant lawn ffrwyth. Bu i'r Arglwydd Jehofa weled yn dda, trwy ddylanwadau goleuawl ei Ysbryd, argyhoeddi ei meddw] yn ddwysach, a dangos iddi yn eglurach trwy ei air, a goleuni ei Ysbryd, y drwg o bechod, yn nghyda'r perygl o'i ddylyn pan oedd hi oddeutu tair neu bedair ar ddeg oed. Nis gallaf sicrhäu pwy oedd yr offeryn a ddefnyddiodd yr Ysbryd Glàn yn y gwaith &ogoneddus hwn o'i deffroi ; meddwl yr ydwyf, mor bell ag yr wyf yn cofio, mai y Parch. David Evans; canys yrydoedd efypryd hyny yn Weinidog Cylchdaith Llanrwst, a hithau ynu yn yr ysgol, panyr ymwelodd yr Arglwydd â'r Gylchdaith, mewn modd mwy penigol nà chyffredin, trwy dywalltiad gryraus iawn o'i Ysbryd ar gynulleidfaoedd ei bobl, braidd yn tnhob lle, nes yr ydoedd ugein- iau ar ddarfod am danynt yn ymofyn y ffordd tua Seion, a'u hwynebau tua Jeru- salem ; ac y mae llawer yn dystion byw y dydd hwn o'r bendithion a ddylifodd i'w monwesau y piyd hyny. Yn mhlith er- eill ag ydoedd wedi eu deffroi am fater mawr eu heneidiau, ac yn ymofyn am iachawdwriaeth, penderfynodd fy chwaer, (gan ei bod wedi ei dysgu mai yn y tŷ yr oedd ymgeledd i'w gael) roi ei hunan i'r Arglwyddaci'w bobl, a dechreu ei ffordd o'r Aiphttua Chanaan ; ond nidhiry bu nes i'rhenelyn ddechreu ymgynddeiriogi, a gwaeddi, " Gyrwn, goddiweddwn, a rhanwn yr yspail," ac er galar i lawer hyd ya awr, fe ddaliodd y fyddin; ac fel y mae ef yn meddu ar gyfrwysdra y sarph, ac yn gwybod pa fodd i wneuthur mwyaf o ddrygioni i achos lesu, fe ddysgodd i rai y pryd hyn, yn debyg fel Balac, i fwrw rhwystr ger bron meibion Israel;—de- chreuodd yr ymosodiad hwc ar y rhai blaenaf y n y fyddin, ac er syndod, rhwystr- wyd llawer o'r rhai blaenaf, ac yna dyna lawer o'r rhai olafyn troi yn ol drachefn i'r Aipht, ac yn y brofedigaeth fawr yma bu i fy chwaer, yn nghydag ereill, fyned i dir Cyf. III. AUDrefnres, Tachwedd. 1139. 2 T