Skip to main content

YR EURGItAWN WESLEYAIDD, Am Hydréf, 1839. BUCHEDDAU. HANES BYWYD A MARWOLAETH MRS. ELIZABETH DAVIES, PONTFATTHEW, CYLCHDAITH D0L9ELLAU. Gwrthddrych y cofiant yma uedd ferch i Peter a Margaret Pryce, Pandy, plwyf Towyn, swydd Feirionydd. Ganwyd hi Mawrth 15fed, 1781. Nid oes genymddim neillduol i'w ddywedyd am ddyddiau boreol ei bywyd ; ond ymddengys nad oedd yn hollol rydd yn ei hieuenctid i rodio gyda'r lluaws i ddylyn oferedd, oblegid yr oedd o dymher fwyn, ddystaw, a boddlongar, ac yn dra anwyl gan bawb a'i hadwaenai; a phob amser pan ybydd- ai yn ymosod ar ryw orchwyl o bwys, byddai yn erfyn ar yr Arglwydd ei chy- northwyo, a byddai yn cael lle i greda ei fod ef yn ei gwrando. Yr ydoedd yn hynod o effro a diwyd gyda'i galwedig- aeth; ei maith dymor yn ngwasanaeth y Paich. P. Maurice, Vicar, Towyn, sydd brawfohyny; oblegid hi a aeth ato pan yn lled ieuanc, ac a fu gyda hwy fel teulu nes oedd yn 42ain oed. Ar ol marw y Parch. P. Maurice, aeth Mrs. Davies i gan- lyn y gweddill o'r teulu i Ludlow, ac oddi yno i Lynlleifiad ; ac yn ddiweddaf i Yn- ys-y-maengwyn: bu yno hyd Mehefin, 1823, pryd yr ymunodd mewn cyfammod priodasol gyda Mr. D. Davies, Pontfat- thew, yr hwn yn awr sydd ur. o flaenor- iaid ein heglwys, ymgynulledig yn nghap- el Brynhoreb, Bryncrug ; a bu iddo yn briod hawddgar, ffyddlon, a da, yn ateb yn gyflawn i ymgeledd gymhwys iddo ; yn hynod o ddeffro, diwyd, a deau yn ei gorchwylion tymorol. Ac fel y mae tỳ Mr. Davies yn agored bob amser i Weinid- ogion a Phregethwyr yr efengyl, yr oedd ein chwaer yn nodedig o'r tirion wrthynt; a hyfrydwch mawr ganddi fyddai gweini iddynt. Nidoedd dim yn ormod ganddi wneuthsr tuag at eu cynal yn ddedwydd a chysurus, yn gystal cyn, ac wedi ymuno [ â'n cymdeithas, fely gall llawer o honynt dystio. Ymddengys mai dan weinidogaeth y Parch. E. Hughes, y cafodd Mrs. Davies ei chwbl ennill i fwrw ei choelbren yn mhlith pobl yr Arglwydd. Nid oedd ei hargyhoeddiad o bechod yn drwm, ac megys ar unwaith, fel gyda rhai; ond cafodd ei hennill fel Nathanael gynt,o ych- ydig i ychydig, a'i thynu megys â rhaffau cariad, i weled yr angenrheidrwydd o ffoi rhag y llid a fydd ; a daeth yn fuan i fwynbäu cysur o'r afon hòno sydd â'i ffrydiau yn llawenhäu dinas Duw ; cysegr preswylfeydd y Goruchaf. Mawr oedd ei bymdrech i fyned i foddion gras ; pwy bynag fyddai yn absenol, ni welid ei lle hi yn wâg un amser : byddai yn nodedig o'r gofalus rhag esgeuluso ei chydgynull- iad ei hun. Wrth edrych dros y rhestr- lyfrau, ni chefais ei bod yn absenol, cyn ei chystudd olaf, am y tair blynedd diwedd- af o'i phererindod, ond tair gwaith, dwy waith o herwydd afiechyd, ac unwaith wedi gorfod myned oddi cartref. Gwyn fyd na bae pawb sydd yn arddel crefydd Mab Duw, yn ei hefelychu yn hyn. Yr oedd yn hoff iawn o fyned i'r cyfarfod gweddi bore y Sabboth, a mynych y dywedai mai yno, ac yn y gymdeithas neillduol, y byddai yn cael mwyaf o fudd i'w henaid o un amser. Gellir dywedyd hefyd am ein chwaer ymadawedig, ei bod yn hynod o'r didramgwydd yn yr eglwys. Nid oedd yn gwneyd dim achos tramgwydd i neb, mewn gair na gweithred. Yn nod- edig o'r diabsen, ni chlywid mo honi un ainser yn grwgnach, nag yn dywedyd gair bach am neb. Yn feddiannol ar addfwyn- Cyf. III. Ail Drefnres, Hydref, 1»39. 2 P