Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EURGRAWN WESLEYAIDD, Am Mehefin, 1839. BUCHEDDAU. HANES BYWYD A MARWOLAETH WESLEY ABRAHAM, (Parhâd tudal. 131.) Y Paganiaid yn cynyg ei ddwyn ymaith trwy drais. Mor gynted ag y clywodd y bobl ar ddydd Sadwrn, fod Tambiran wedisymud o'i gaitref, dyma ymchwil calon mawr yn cymeryd Ue ; a chafwyd allan yn fuan ei fod yn Nhŷ Cenadaeth Royapetta. Daetb cenadau o bob parth o Madras i sicrhäu y ffaith, ac yr oedd cyffro mawr. Wedi hyny y cawsom wybod am y cynlluniau lluosog a ddyfeisiwyd i'w ddwyn ymaith trwy drais. Darfu i'r ìhifedi mawr o ba- ganiaid a ymwelsant âg ef y Sadwm a'r Sul, ddyrchafu ein hofnau gryn lawer, nad oedd y cwbl ddim o fwriad da. Nid oedd genym swyddogion heddwch yn agos iawn atom mewn achos o yraosodiad disyrawth. Ar ddydd Llun, yr oedd tyrau o ddynion mewn gwahanol leoedd o amgylch Tŷ y Genadaeth, gan ymddangos fel pe buasai rhyw beth pwysig yn cymeryd eu sylw ; eto nis gallaswn ddychymygu y cynygid dim troseddiad o'r gyfraith felly, yn nghy- mydogaeth llysoedd y gyfraitb eu hunain. Oddeutu y prydnawn, anfonwyd pagan di- foes iawn, yr hwn a fynai wybod pa ham y darfu i Tambiran olchi ymaith y lludw santaidd, a rhoddi heibio ei wddf-baderaa (neclc-beadsj, arwydd ei swydd. Am ddau o'r gloch, mi a aethym ar orcbwyl i'r Dref Ddû ; ond daethym yn aflonydd acofnus rhag i ryw ddrwg gymeryd lle yn fy absenoldeb; gan hyny, mi a droaisad- ref, a gadael y cyfarfod gweddi cenadol i ereill, lle y dysgwylid fi i roi araeth. Yn union gyda thywyll nos, mi a welwn han- nerdwsin o bobl yn cerdded trwy y coed tuag at y llidiart (gate), pan y daeth brahmin dychweledig, gan ddywedyd, " Y Cyf. III. Ail-drefnres, Mehefin, mae Tambiran yn myned i siared á Mu- deliar mewn cludai {carriage)." Mi a waeddais, " l'w ddwyn ymaith trwy drais y mae hyny!" Yn ebrwydd mi a glywn waeddiadau, " Cymhorth! cymhorth ! Meistr ! Och ! och! y maent yn ei ddwyn ymaith yn draisgar." Yr oeddynt yn gwthio ei ben i'r gludai pan y gafaelais ynddynt, gan ofyn i'r personau oedd yn y gludai, beth oedd eu meddwl wrth y ter- fysgwaith hwn. Gyda llawer o anhawsdra y gwahanwyd Tambiran o afael y person- au oedd yn ei ddal, ac y dygwyd efyn ddiogel i'r tý. Wedi cael braw dycbryn- llyd, dywedodd, " Yn ddiau da yw Duw— yn ddiau Duw a'm gwaredodd i; daeth y dyn yn dwyllodrus i!m harwain i siared â'r Mudeliar wrth y llidiart; pe cawsent fi ymaith, ni adawsid fi yn fyw bedair awr ar hugain—buasent yn fy nghuro i farw- olaeth."—Yr oedd hon yn waiedigaeth dra nodedig; yroedd y paganiaid wedi gwyliö nes i'r Cenadwr fyned allan ; ond mi a ddaetbym yn ol cyn iddynt gwblhäu eu cynlluniau : nid oeddwn yn bwriadu dy- chwelyd hyd yn bell yn yr hwyr, ond ar- weiniwyd fi i wneyd felly wnh fyfyrio ar y mater ; a phe na buasai y fath gynorthwy yn agos, diammheu y llwyddasent yn eu hamcan drygionus. Y dydd nesaf darfu i'r ymhoniad o gymeryd allan warantau yn einherbyn ni am drais-gadw Tambiran, arwain i beri iddo ymddangos yn Swydd- fa yr Heddwch. Yr oedd Tambiran y pryd hyn wedi ymwisgo yn ei wisgoedd paganaidd, fel y gellid ei adnabod yn Swyddfa'r Heddwch fel pen ei urdd(or£?er). Gwnaeth lw cyhoedd o'r hyn a ganlyn, pan y siaredodd yn ardderchog fel hyn,— 1839. Y