Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EURGRAWN WESLEYAIDD, AM MAI, 1835. AMRYWIAETH. BYWGRAFFIAD MR. EVAN ROBERTS, O DDINBYCH. At Olygwr yr Eurgrawn. Anwyl Frawd,—Yr wyf yn danfon i ehwi lmnea bywyd a marwolaeth Mr.' Evan Roberts, o Ddinbych. Y mae wedi ei hysgrifenu ganddo ei hun hyd y flwyddyn 1800; ae yr wyf yn hyderu fod yn méddiant ei blant, ei hanea o hyny hyd amser ei ymadawiad â'r byd trallodus hwtj. Yr wyf yn danfon i chwi sylwedd y cwbl a ysgrifen- odd e'fe ei hun. ac mor agos ag a allaf yn ei eiriau ei hun, heb wneuthur dim cyfnewidiad ond yn unig mewn iaith a threfn, Gwelir yn yr hanes ganlynol, dueddiadau natur lygredi'g—dyoddef- garwch Duw, a'i ofal anfeidroí am enaid dyn— dyfnderoedd dyfeision, malais, a chreulonderau Satan—a chyfoeth, gallu, rhinwedd, abuddugol- iaeth gras dwyfol yn nychweliad pechadur, ac yn nghynaliaeth cristion trwy daith yr anialwch garw i'r Ganaan nefol. Ei hymddanghosiad cynar yn yr Eurgrawn a foddia niferoedd o'ch darllenwyr, heblaw ei blant gaiarus a'ch brawd serchus, Sahüíi. Davies. Caernarfon, Rhag. 3, 1834. "Wele fi, bechadur annheilwng, yn dechreu ysgrifenu ychydig o fy hanes fy hun, a hanes daioni Duw, yr hwn a'm gwaredodd allan o filoedd o beryglon gwel- edig ac anweledig. Y mae yn anhawdd genyf ysgrifenu dim o fy hanes fy hun; ond y mae yn fwy anhawdd genyf beidio ysgrifenu am anfeidrol ras Duw, yr hwn a'm hachubodd fel pentewyn o dân uffern. Cefais fy argyhoeddi gan yr Ysbryd Glân yn fynych, ac mewn llawer ffordd, pan oeddwn yn ieuanc iawn. Byddwn yn fynych yn breuddwydio fy mod yn gweled dydd y farn, a'r byd ai dân, ac yn deffro mewn ofn a dychryn mawr. Yr oedd yr Ysbryd bendigedig yn fy ngoleuo i weled fod rhaid fy achub oddiwrth fy holl bech- odau, neu fod yn druenus yn uffern am byth. Yn yr amserau hyn byddwn yn ceisio tawelu fy nghydwybod âg adduned- au i ddychwelyd at yr Arglwydd ar ol sefydluyny byd; neu, modd bynag, cyn marw: ond er llawer argyhoeddiad dwfn a llym, a llawer o addunedau dwysion, pechod oedd yn cario y dydd: yr oeddwn yn tori fy holl addunedau, yn diffodd yr Ysbryd, ac yn caledu yn fy mhechod; ond yr oedd yr Arglwydd yn parhau i guro yn uchel wrth fy nrws, trwy ei ragluniaeth a'i ras. Bûm yn agos a boddi ddwywaith cyn bod yn saith oed, ac yn agos a thori fy ngwddf lawer gwaith. Pan oeddwn yn rhwymo rhaff wrth y gloch, syrthiais o ben clochdy i lawr. Dro arall, syrthiais oddi- ar fur eglwys, yn Birmingham, naw llath o uchder, ar fy nhraed, a fy nwylaw heb gael ond ychydig niwaid. Aethym yn fy rnyfyg" mawr gyda llawer o blant ereill, î halogi y Sabboth santaidd, trwy fyned ar lyn mawr i ymlithro ar yr ia. Rhyfedd na fuaswn wedi myned i'r gwaelod, a fy enaid i dân uffern! Fel yr oeddwn yn chwareu mewn gardd yn y dref hon, daeth gwraig y tỳ ataf ac a ddywedodd, pe buasai y swyddogion yn fy ngweled, y buasent ynfy nghymeryd i fyny. Gwnaeth hyny i mi ryfeddu, wrth feddwl fy mod yn waeth na phlant a phobl Birmingham, y lle mwyaf pechadurus a welais i erioed, Yr oedd Ysbryd yr Arglwydd yn ymryson â fi yn barhaus, ac yn fy nhueddu i fyw yn dduwiol; ond yr oeddwn yn anufydd i'w lais, ac yn myned yn mlaen yn ol y cnawd, tan arweiniad yr ysbryd sydd yn gweithio yn mhlant yr anufydd-dod: er fy mod yn fynych yn hiraethu am dduw- ioldeb, er hyny gwrando ar y cnawd a Satan yr oeddwn; a phan byddwn dan deimlad dwys o fy nhrueni, ac yn bwriadu gadael fy mhechodau, byddwn yn fynych fel pe buaswn yn clywed llais yn gofyn i mi, 'A fedri di adael chwareu y bêl, a'r cardiau, ac ymafaelyd codwm, &c, am bum mlynedd?' Yr arferion pechadurus hyn oeddynt fy nifyrwch penaf; a thrwy ymarferyd à'r gwaith, yr oeddwn yn gallu taflu pob un ageisiwn i lawr, ac ni fyddwn un amser yn methu; ac felly byddwn yn ymffrostio mewn llafur pechadurus. Fel hyn yr oedd y cnawd a'r diafol yn cyduno i wrthwynebu y cymhelliadau ag yr oedd-