Skip to main content

YR AM IONAWR, 1834. ~~ BUCHEDDAU. BYWGRAFFIAD RICHARD OWENS, O GONWY. At Olygwr yr Euryrawn Wesleyaidd. Myfi a ddysgwyliais, ac a ryfeddais lawer na buasai rhywun yn rhoddi i chwi ychydig o hanes y diweddar frawd hwn : ond er dymuno a hiraethu yn fawr er's saith mlynedd bellach, ni chan- fyddais un sill am dano, nes y gwelais holiadau ar gefa yr Eur- grawn, a oedd neb o'i berthynasau na'i gýfeillion yn fyw, gan na roddid ei hanes ef allan. Y mae yma lawer o frodyr a allasent wneyd byny yn well na mi; eto, gan nad oedd neb yn gwneuthur, dymunodd y Parch. Lot Hughes yn daer arnaf gasglu ychydig am ein hen frawd anwyl; ac os gwelwch yr hyn a ganlyn yn deilwng o le yn eich gwerthfawr Drysorfa, boddhewch trwy hyny berthyn- asau y marwol hwn, a llawer o'r cyfeillion. Gwrthddrycéí yr hanes yma ydoedd fab i Owen a Grace Owens, o Danyberllan, plẃyf Cyffin, gerllaw Cönwy, swydd Gaer- narfon. Ganwyd ef y laf o Fawrth, 1780. Yr oedd ei rieni yn bobl barchus yn yr ardaloedd cylchynawl, ac yn fawr eu sel dros yr eglwys sefydledig, a byddai Richard yn arferol o fyned yno gyda hwy bob Sabboth; aé yn fuan daeth yn fedrus a selog iawn yn y canu yno, fel nad oedd neb yn well ei lais, nac yn fwy ei awydd nag ef: eto, fel yr ydoedd yn cynyddu mewn dyddiau, y mae yn rhaid cyfaddef ei fod hefyd yn cynyddu mewn drygioni. Yr oedd éf ó dymer fy wiog, siriol, a llawen bob amser: ac yr ydoedd yn bencampwr yn mhob chwareuyddiaeth—canu gyda'r tannau, y ddawns, a'r cardiau, a phob oferedd a fyddai gan weision y diafol yn yr oes hòno. Mai 1, 1804, pan yn 24 oed, efe a briododd, ac a ddaeth ifyw i Gonwy at deulu ei anwyl wraig ; eto, ar ol hyn, yr ydoedd yn byw yn afradlon—yn hynod gellwerus, anystyriol, a gwawdus o bob daioni. Er y cyfan yr oedd sylw manwl Duw yn ei raglun- iaeth arno, fel yr agorwyd drws iddo fyned yn arddwr i ardd y Milwriad Burrows, o Benarth, gerllaw Conwy. Yn bresenol, ychydig ar ei argyhoeddiad.—Tra yr oedd yr hen frawd Edward Edwards wedi cael ar ei feddwl i fyned i'r