Skip to main content

YR 3Sttrgrafom Wttèltgmìtìí, [; .'___________AM MEDI, 1833._________^^ BUCHEDDAU. BYWGRAFFIAD MR. RICHARD LARDNER, CONWY. (Parhad tudalen 229.) 4. Fel blaenor.—Neillduwyd ef i'r swydd uchel o fugeilio rhan o braidd Crist, gan y Parch. Hugh Hughes, ar derfyn dydd yr hen dad duwiol a selog hwnw Richard Owens, o'r Benarth, gerllaw Conwy, yr hwn hefyd oedd wedi ei neillduo ef, ac a ddymunodd mewn modd pendant ar fod iddo gymeryd ei Ie ef. Cyflawnodd y brawd Lardner y swydd uchel yma am oddeutu chweblynedda hanner, gyda mesur mawr o gywirdeb a diragrith- rwydd: ni dderbyniai wyneb mewn barn, eithr carai wirionedd oddiroewn. Ystyriaethau am ei annheilyngdod a'i annigonolrwydd i'r swydd hon, a lethai ei feddwl yn fynych, a cheid ef yn cyfateb i fesur mawr i'r npdweddiad hwnw a ofyn Rheolau y Cyfundeb Wesleyaidd gan y blaenoriaid, " Eu bod yn awyddus am iachawd- wriaeth eneidiau;" a hynpd mor ymdrechgar y byddai i gael plant ei ofal i'r gymdeithas neillduol; a theimlai yn ^ddwys a gofidus pan na fyddai yno ond ychydig o honynt, a rhoddai hyny ei ysbryd o'r braidd yn llwyr i lawr. Mynych y cyfarfyddai hwynt pan y byddem yn barnu y dylasai aros gartref o herwydd ei afiechýd; eto, ymegnîai i fyned trwy y cwbl; ac arferai ddy- wedyd wrthym, ei fod nid yn unig yn adnabod ei enaid yn cael ei gwella, ond ei gorff líesg hefyd. Ar ol dychwelyd o'r cymdeith- asau neillduol, arferai yn aml ddywedyd wrthym, " Wel, wel, fe dalodd eî ffordd acw heno." Byddai yn cyfarfod ei restr nos Fercher; aphan y galwai gyda mi ac ereill yn ystod y dydd hwnw, a chymheíl o honom ef i aros ychydig yn hwy gyda ni (am mai hoffoeddymo'igymdeithas), arferai ddywedyd, «'Na, frawd, y mae hi yn nos Fercher heno;" gan ystyried nad segura a ddy- lasai, ond yn hytrach " ymboeni yn y gair a'r athrawiaeth," fel y byddai i'r " defaid gael porfa." Arferai hefyd ysgrifenu llawer o Bodiadau o Jyfrau da, ac o'r pregethau a wrandawai, i'r un dyben. Ei fanylrwydd, ei ddiwydrwydd, y dagrau llifeiriol a dywalltai yn y cymdeithasau, yn nghyda'i weddiau taerion yn achos yr eglwys, oeddynt brofion diwâd ei fod yn olygwr o 2 L