Skip to main content

YR 3Sttrgratoit aUtélegatìHr, AM GORPEENHAP, 1833. BUCHEDDAU. —» ♦ » BYWGRAFFIAD J. W1LKES, Y LLEIDR EDIFEIRIOL: GAN Y PARCH. J. FLETCHER, O MADELEY. (Parhad iudalen 164.) " Bore ddydd Iau," ebai ei chwaer, "arhosodd Elizabeth Childs yn y llety, ae aethyin minau gyda'm mam i'r carchar, yr hon a ddaethai i ymweled â'i mab trengawl am y waith olaf. Cyn i ni gyraedd at ddrws y ddyfn-gell, nyni a'i clywem ef yn gweddio yn y modd mwyaf wylofus: yr oedd ei lais wedi cwbl gyfnewid, ac yn fy nhrywanu nes yr oeddwn bron suddo. Ei gri benaf yd- oedd, ' O Arglwydd bendigedig, pa beth a wnaf ? Cymerdrugar- edd arnaf, y penaf o bechaduriaid !' " Pan agorwyd y drws, yr oedd ei agwedd yn effeithio cymaint arnaf a'i riddfaniadau. Yr oedd ei gorff wedi gogwyddo draw, ac yn ymgynal â'i ddwylaw, y rhai oeddynt yn gorphwys ar ryw hen gelfi yn y ddyfn-gell. Yr oedd efe yn ymdrechu mor ddyfal gyda Duw, fel nad oedd yn sylwi ar y drws yn agor, nac ar ei fam dra- llodus: ni ddarfu iddo gymaint a throi ei ben, eithr cadwodd yn mlaen i alw am drugaredd, mewn modd ag ydoedd yn effeithio cymaint arnaf fel na's gallwn ei sefyll; a meddyliais fod yn well i mi gymeryd fy mam allan cyn gynted ag y medrwn, cyn i ni les- meirio yn y ddyfn-gell. Hi a ddywedodd wrtho, fel yr oedd efe yn llefain allan am drugaredd, * Efe a wna, fy anwyl blentyn, gy^ meryd trugaredd arnat ti:' ond pa un a glywodd ef ai peidio, nis gwn : modd bynag, hi a aeth ato, ac a'i cusanodd. Efe a gododd ei ben i fyny, tra yr oedd y dagrau yn rhedeg i lawr ei ruddiau ; ond yr ydoedd yn parhau i alw ar yr Arglwydd. " Yn y prydnawn aethym drachefn i ymweled âg ef, yn nghwmni E. Childs, pryd y gofynasom pa fodd yr ydoedd yn teimlo ei feddwl tuag at Dduw ? Efe a allai ymddyddan â ni yn awr, a dywedodd, * Yr wyf yn bur ddedwydd wrth yr hyn oeddwn yn y bore.' 'Beth sydd yn eich gwneyd yn ddedwydd ?' 'Yrwyf wedi fy llenwi â Uawenydd wrth feddwl y gwna Duw faddeu i mi fy holl bechodau, a'm hachub.' 'Gan hyny nid ydych yn credu eto ddarfod iddo faddeu i chwi ?' « Nac ydwyf, eithr yr wyf yn 2c