Skip to main content

YR fSttrgraton WLt£ltpfM^> AM MEHEFIN, 1833. BUCHEDDAU. —*~++— BYWGRAFFIAD J. WILRES, Y LLEIDR EDIFEIRIOL: GAN Y PARCH. J. FLETCHER, O MADELEY. (Parhad tudalen 131.) "Yna nyni a ofynasom iddo," ebai y merched, "pa fodd yr oedd efe yn ceisio dyfod i wybodaeth o iachawdwriaeth ? Efe a atebodd, * Yr wjfyn gweddio yn gystal ag y medraf.' * Pa fodd yr ydych yn gweddio ?' ' Yr wyf yn cyffesu fy holl bechodau o flaen Duw, ac yn dywedyd iddo fy mod yn euog, ac yn erfyn am drugaredd.' Wedi hyny, heb golli mynydyn, efe a ddechreuodd lefain am drugaredd gyda griddfaniadau dyfoion. ' Pa fodd yr ydych yn teimlo yn eich mynwes ?' e Weithiau, pan yn gweddio, yr wyf yn teimlo fy nghalon ar dori gan dristwch; dro arall, fel pe byddai ar lamu allan o'm corff mewn awydd am drugaredd, ac yna yr wyf yn bur liawen.' 'Oddiar ba beth y mae y llawenydd hwnw yn tarddu ?' * Oddiar obaith y gwna Duw fy aehub.' 'Tra yr ydych yn teimlo y llawenydd, a oes arnoch chwi ofn marw ?' * Nac oes, tra yr wyf yn llawen; ond wedi i hyny ddarfod, ni's gwn pa beth i'w wneuthur, yr wyf bron a gwallgofi.' Ni wyddai ef eto yn mhwy y credasai, ac ymddanghosai fod ei enaid dylawd unwedd a cholomen Noa yn ymhedfan oddeutu yr arcb. «' Sarah Wilk.es (yr hon yn aml a roddasai iddo gynghorion da, ac a arferai ddywedyd wrtho, ' Jack, os na ddychweli di, bydd i'th ffyrdd drygionus dy arwain i'r crogbren !' i'r hyn yr atebai ef •weithiau gyda gwatwardrem neu reg) yn awr a ofynodd iddo, ' A ydych chwi yn edifarhau am ddiystyru cynghorion eich mam a minau ?' Cyn iddo allu ateb drosto ei hun, ei gydgarcharor a ddy- wedodd, 4 Efe a gyfaddefodd hyny wrthyf fi er pan ddaethoch chwi yma :' ac efe a atebodd ei hunan, 'Pe cymeraswn eich cyng- horion, ni buaswn yma.' Yna efe a ddechreuodd lefain yn uchel am drugaredd. " Yr oedd ei galon yn ymddangos yn wir ddrylliog o herwydd ei bechodau, a than deimlad o'i berygl. Felly nyni a ymdrechasom i'w gysuro, a'i gymhell i weddio am drugaredd; a chwanegasom,