Skip to main content

YR AM TACHWEDD, 1826. BÜCHEDDAU. COFIANT AM ELINOR BLUNT O'R MWYN-GLAWDD. Parhad o tu dal. 329. 4. Ei thiriondeb laag at weisi»n Iesu, yn nghyda'r cleif- ion proffesedig a dibroffes. Y mae eto lu yn dystion o ymgeledd mamaidd y chwaer hon. Pan y deuai y pregethwyr teithiol neu gynnorthwyol (wedi terfynu eu llafur a'u lludded o bregethuar hyd y dydd,) o dan ei chronglwyd, ei phrif orchwyl fyddai eu gwneyd yn gysurus. Llawer noswaith yr arhosodd ar ei thraed i'w hym- geleddu; aG yma y gwelir yn amlwg fod y sawl sydd yn caru yr Arglwydd a'i Grist ef, yn caru eî weision ef hefyd : o'r braidd na ddywedwn i mi glywed llais Brenin y nef yn dywedyd wrthi, " Bûm newynogy a tki a roddaist i tnifwyd; bü arnaf syched9 a rhoddaist i mi ddiod; bûm ddyeithr, a dygaistf gyda thi; noeth, a dilledaist fi; bûm glaf ac ymwelaist â mi; bûm yn ngharchar, a daethost ataf;—dos i mewn i lawenydd dy ÂRGLWYDD." ' Pan y byddai yJEHOFA yn gosod ei wialen geryddol ar y naill neu y lla.Il o'i brodyr neu ei chwiorydd crefyddol, ni byddai neb am weini cysuron ysbrydol neu dymhorol yn gynt iddynt nag Elinor, os byddai ei hiechyd yn caniatau hyny: ac nid aeth neb o'í hen gyfeillion i fyd arall na byddai hi yno yn dyst o'u tystiolaethau olaf am eu dedwyddwch yn gwynebu yr afon,—yn syllu ar yr olwynion yn sefyll, y ffenestri yn cau, y traed yn oeri, y gwaed yn fferu, &c. Pan oedd un berthynas anwyl i mi * yn brwydro â»- angau dychrynllyd', yr oedd hi yno, yn cydymdeimlo i raddau â'i gofídiau anoddefol, yn syllu yn ei llygaid meirwon pan ynffarwelio â phriod a phlant anwyl, yn siglo ei dwylaw oerion pan yn cychwyn i'r glyn,—a dywedodd, " Ffarwel fy chwaer." Nid oedd ei chysuron ysbrydol, a llafur ymgeleddol ei chorff, yn cael eu cyfyngu i'w chyfeillion CristÌonogol yn unig; ond hi a fyddai * Edrych yr Eurgrawn WebleyaicW, cýflyfr 12, tudálen 349. 3 F