Skip to main content

AM EBUILL, 1820. BUCHEDDAU. COFIANT AM WILLIAM JONES, COCH-Y-MOEL, SWYDD GAERYNARFON. At Olygydd yr Eurgrawn Wesleyaidd. Syr; Y mae yn ddrwg anaele genyf na buasai yr hanes isod wedi ei anfon atoch yn gynt. Y mae eoíFadwriaeth y cyfiawn yn fen- digedig; gweddus gan hyny ydyw i gofiant am fy niweddar dad gaelei gofrestru yn mysg bucheddau gwroniaid eglwys Crist (os cydwelwch â myfi) yn nhudalenau eich Eurgrawn buddfawr. Dìr yw, y bydd yn dda gan lawer yn y Dywysogaeth ei weled, ac yn enwedig y lluaws hyny o Ddarllenwyr Trysorfa reolaidd y Wes- leyaid, y rhai a anrhegwyd gan ei wrthddrych yn fynych âg amrai o ysgrifau synhwyrlawn ar wahanol destynau, trwy gyfrwng y Cyhoeddiad dywededig. Ydwyf, yr eiddoch yn serchog, Coch-y-moel, Ionawr 24aiw, 1826. John Jones, M Ymae efe, wedi marw, yn llefaru etoP William Jones, Coch-y-raoel, a anwyd yn Llwyn Cocb, plwyf Llanengan, yn Lleyn, a chafodd ei fedyddio yn Eglwys y plwyf, y 6ed o Ebrill, 1762. Wedi iddo aros bedair blynedd a haner yn mhlwyf Llanengan, clywais ef yn dywedyd ei fod yn cofio llaweroedd o bethau er y pryd hwnw, ac am y dydd yr oedd ei dad yn symud i Dý'n-y-maes, yn mhlwyf Penrhos, yn agos i Bwllheli, i fyw. Lle gwyllt a drygionus iawn ydoedd Penrhos yr amser hwnw;—nid oedd yno ond un o fewn yplwyf yn dìlyn crefydd Mab Duw, sef Gwallter Grufîydd, Tŷ Llewelyn, yr hwn oedd yn aelod selog gyda'r Ymneillduwyr; rhoddwyd ýd y gwair ei fab ar dân gan y trigolion mileinig, i ddangos eu digofa'int ato, am ei fod yn grefyddwr fiyddlon ! Pan oedd tad gwrthddrych yr hanes hwn yn byw yn Tŷ'n-y-maes, aeth un Sabbath gyda'i dad i gapel yr Ymneillduwyr i Bwllheli, a thyna y bregeth gyntaf a glywodd am oedd yn ei gofio. Wedi iddynt fyw yno am oddeutu deg mlynedd,